The essential journalist news source
Back
30.
September
2022.
Mae'r Gronfa Her yn agor ceisiadau ar gyfer her fwyd gynaliadwy gwerth £2.1m i annog dyfeisgarwch

30/09/22

Mae'r Gronfa Her, sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy, wedi agor ceisiadau ar gyfer her cynhyrchu bwyd gynaliadwy newydd.

TextDescription automatically generated with low confidence

Nod yr her gwerth £2.1m yw nodi a chefnogi prosiectau a all harneisio potensial tir, technoleg, a phobl i gynyddu cynhyrchiant cynaliadwy a chyflenwi bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae bwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i iechyd economi'r rhanbarth, pobl a'r blaned ydyw, gan gynnig atebion i ystod o faterion sy'n gysylltiedig â'n systemau bwyd confensiynol presennol sy'n seiliedig ar logisteg ryngwladol gymhleth ac sy'n gynyddol ansicr ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at allyriadau carbon byd-eang.

Bydd yr Her, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, a Chanolfan Ragoriaeth yr SBRI (Menter Ymchwil Busnesau Bach), yn rhedeg mewn tri cham, gyda llwyddiant yn cael ei werthuso erbyn 2025. Bwriad cam un yw asesu dichonoldeb y cysyniadau arfaethedig, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contractau dichonoldeb 4 mis o hyd at £50,000 fesul prosiect.

Anogir sefydliadau arloesol sydd â diddordeb i gael rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn i fynd i ddau ddigwyddiad:

  • Gwneud Cais i'r Her Bwyd.27 Hydref - Digwyddiad dilynol wyneb yn wyneb yn adeilad SPARC ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnig sesiynau awr i sefydliadau/consortia sydd â diddordeb mewn cynnig ateb i'r Her Bwyd. Gwnewch gais i:datblygucynaliadwy@caerdydd.gov.uk

Rhaid i ymgeiswyr i'r her ddangos:

  • Sut y byddant yn cynyddu cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn y rhanbarth ac yn creu effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.
  • Sut y byddant yn cyflenwi bwyd maethlon, wedi'i dyfu'n lleol wrth sicrhau pris teg i gynhyrchwyr a lles cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd: "Mae'r ffordd rydym yn cynhyrchu, cyflenwi a bwyta bwyd yn y dyfodol yn mynd i chwarae rhan fawr ym mha mor llwyddiannus ydym ni wrth ymateb i'r heriau digynsail a achosir gan newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, yn ogystal â salwch sy'n gysylltiedig â deiet.

"Mae'r heriau hynny, a'r heriau a ddaw yn sgil effaith barhaus y pandemig, Brexit, prisiau ynni cynyddol, a'r rhyfel yn Wcráin, hefyd yn cynnig cyfle i newid - i fanteisio ar ein hasedau lleol, i harneisio potensial tir, technoleg a phobl i ehangu'r broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd a dyfir yma, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn gynaliadwy."

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd: "Mae'r prosiect hwn yn gyfle cyffrous iawn i fusnesau rhanbarthol arloesol gyflwyno prosiectau a fydd yn ceisio cynnal y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol am genedlaethau i ddod.

"Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i gael effaith ar deuluoedd, mae sicrwydd bwyd yn dod yn fwy a mwy pwysig. Felly, mae angen i ni fachu ar bob cyfle i hwyluso trosglwyddiad i system fwyd a all ddarparu bwyd fforddiadwy ac iach ar yr un pryd â lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol".

Dywedodd Gareth Browning, Pennaeth Heriau: "Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn falch o gefnogi'r her hon i ryddhau arloesedd yn ein system fwyd. Rwy'n gobeithio gweld ein buddsoddiad yn darparu bwyd iach mwy fforddiadwy, wedi'i gynhyrchu'n lleol y gellir ei raddfa i greu gwerth economaidd a chymdeithasol yn ein cymunedau. "