The essential journalist news source
Back
28.
September
2022.
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar lety newydd i Ysgol y Court


28/9/2022

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor nawr ar lety newydd i Ysgol y Court 

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar gynlluniau ar gyfer llety newydd i Ysgol y Court.

Mae'r ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i gynyddu capasiti'r ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Byddai un ohonynt wedi ei leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a byddai'r llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen Y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni.   Byddai hyn yn defnyddio tir ar safle ysgol bresennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, ar ôl iddi gael ei symud i lety newydd ar ddatblygiad Sant Edeyrn. 

Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i leisio barn ar y ddwy ran o'r cynllun, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd ym mis Tachwedd eleni. 

Os bydd y cynlluniau'n cael eu datblygu, byddai'r ysgol newydd yn tyfu o 42 i 74 o leoedd, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o flwyddyn academaidd 2024-25, gan helpu i ateb galw'r ddinas am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd.  Byddai gan y ddau safle amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr gan gynnwys ardaloedd gemau aml-ddefnydd, mannau chwaraeon a chwarae meddal, caeau chwaraeon ac ardaloedd garddwriaethol, sy'n cael eu darparu dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. 

Mae cynigion yn cynnwys: 

  • adeiladu dau adeilad ysgol unllawr newydd ar safle'r Tyllgoed a safle Llanrhymni
  • creu mannau amwynder awyr agored newydd, ardaloedd gemau aml-ddefnydd, mannau chwarae a darpariaeth chwaraeon
  • tirlunio, mannau parcio, draenio a gwaith cysylltiedig
  • dymchwel yr adeiladau presennol sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg (safle Llanrhymni)

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae cynlluniau sylweddol ar y gweill i fynd i'r afael â'r diffyg o ran darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd ei hangen ar draws Caerdydd wrth i ni gychwyn ar ein trawsnewidiad mwyaf radical o'r ddarpariaeth a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Bydd adleoli ac ailadeiladu Ysgol y Court dros ddau safle yn gwella safon y cyfleusterau wrth ddarparu mwy o leoedd i blant sydd angen darpariaeth arbenigol.  Drwy gydleoli'r ysgol gydag ysgolion cynradd prif ffrwd, gall ysgolion rannu arferion da gyda'i gilydd a gall disgyblion gael cyfleoedd i elwa o amgylcheddau prif ffrwd.

"Yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw'r cam nesaf o ran darparu amwynderau rhagorol, modern ac rwy'n annog pobl i ddweud eu dweud i helpu i lunio'r cynlluniau a fydd yn cefnogi datblygiad y cynlluniau."

Mae'r ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn para 28 diwrnod o ddydd Mercher 28 Medi tan ddydd Mercher 26,Hydref 2022. 

I weld y cynigion ac i gael dweud eich dweud ar safleTyllgoed, ewch i:Land south of Fairwater Primary School, Fairwater / Tir i'r de o Ysgol Gynradd Y Tyllgoed, Y Tyllgoed (asbriplanning.co.uk)

 

I weld y cynigion ac i gael dweud eich dweud ar safle Llanrhymni, ewch i:

Land south of Pen-y-Bryn Primary School, St Mellons / Tir i'r de o Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn, Llaneirwg (asbriplanning.co.uk)

Bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal yn:

  • Hyb y Tyllgoed Dydd Mercher 5 Hydref 2022 3.00pm - 6.00pm
  • Hyb Llanrhymni Dydd Iau 6 Hydref 2022 3.00pm - 6.00pm

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn symud i lety newydd sbon ar ddatblygiad Sant Edeyrn fel rhan o ateb strategol i ail-gydbwyso darpariaeth ysgolion cynradd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r mater gormod o leoedd ysgol yn ardal Llanrhymni a'r angen i gael mwy o leoedd ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau ar ôl cwblhau datblygiad tai Sant Edeyrn. 

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i'r gwaith o adeiladu Ysgol y Court ddechrau hydref 2023.

Gall y llun newid yn dilyn ymgynghoriad a chymeradwyaeth statudol.