The essential journalist news source
Back
28.
September
2022.
Bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref

28/09/22


Wrth i'r hydref ddechrau, bydd casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd yn cael eu casglu bob mis o 4 Hydref tan 25 Tachwedd gan roi dau gasgliad gwastraff gardd arall i drigolion cyn i'r gwasanaeth gael ei atal yn ystod mis Rhagfyr, mis Ionawr a mis Chwefror.

 

Mae ffigyrau'n dangos bod swm y gwastraff gardd sy'n cael ei gasglu o gartrefi trigolion yn gostwng 80% dros y gaeaf. O ystyried y gostyngiad sylweddol hwn, bydd criwiau casglu gwastraff yn canolbwyntio ar gasglu gwastraff bwyd, gwastraff bagiau du ac ailgylchu sy'n cynyddu'n sylweddol wrth i ni nesáu at dymor y Nadolig, wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref.

 

Bydd casgliadau untro yn cael eu trefnu yn ystod tymor yr ŵyl i symud coed Nadolig o gartrefi trigolion, gyda digwyddiadau sgubo'r stryd cymunedol a'r tîm glanhau dail sy'n cwympo'n parhau i weithredu dros fisoedd y gaeaf.

 

Drwy gydol y gaeaf, gall trigolion barhau i fynd â'u gwastraff gardd i  ganolfannau ailgylchu Ffordd Lamby a Chlos Bessemer drwy drefnu apwyntiad ar-lein https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx neu drwy App Cardiff Gov.

 

Mae calendrau casgliadau ar wefan y Cyngor ac ar App Cardiff Gov yn cael eu diweddaru a hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i hyn gael ei wneud.

 

Dyma fanylion y ddau gasgliad gwastraff gardd misol nesaf:

 

Yr wythnos yn dechrau ar 3 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 31 Hydref:

  • Creigiau
  • Pentyrch
  • Radur
  • Pentre-poeth
  • Llandaf
  • Ystum Taf
  • Tredelerch
  • Llanrhymni
  • Tongwynlais
  • Rhiwbeina
  • Llys-faen.

Yr wythnos yn dechrau ar 10 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 7 Tachwedd:

 

  • Trelái
  • Sain Ffagan
  • Treganna
  • Plasnewydd
  • Butetown
  • Pen-y-lan.

 

Yr wythnos yn dechrau ar 17 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 14 Tachwedd:

  • Yr Eglwys Newydd
  • Gorllewin y Mynydd Bychan
  • Dwyrain y Mynydd Bychan
  • Cathays
  • Gabalfa
  • Trowbridge
  • Pentref Llaneirwg
  • Llanisien
  • Cyncoed.

 

Yr wythnos yn dechrau ar 24 Hydref a'r wythnos yn dechrau ar 21 Tachwedd:

  • Caerau
  • Y Tyllgoed
  • Grangetown
  • Glan-yr-afon
  • Adamsdown
  • Y Sblot
  • Pontprennau
  • Pentwyn.