The essential journalist news source
Back
28.
September
2022.
Cau ffyrdd a chyngor teithio ar gyfer Supercross yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref

28/09/22


Gyda rownd gyntaf Pencampwriaethau Supercross FIM yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ar 8 Hydref, bydd Heol y Porth yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 3pm a 10pm ar 8 Hydref i ganiatáu i'r rhai sy'n mynychu'r digwyddiad fynd i mewn a gadael y stadiwm yn ddiogel.

Cau ffyrdd

Gyda gatiau Stadiwm Principality yn agor am 3.30pm ar gyfer y digwyddiad a daw i ben am 9pm, bydd Heol y Porth ar gau'n gyfan gwbl rhwng 3pm a 10pm.

Rheolir mynediad i'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Trenau

Dydd Sadwrn 8 Hydref - gwasanaeth trefnau cyfyngedig iawn, peidiwch â theithio ar drên

Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal dros dro ar 8 Hydref oherwydd y gweithredu diwydiannol cenedlaethol parhaus.

Dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o'r gweithredu diwydiannol yma, ond o ganlyniad i'r anghydfod rhwng undebau a Network Rail, fydd Trafnidiaeth Cymru ddim yn gallu gweithredu nifer o wasanaethau rheilffordd ar isadeiledd Network Rail.

Bydd yr unig wasanaethau fydd yn gweithredu ar reilffyrdd craidd y cymoedd yn ne Cymru a gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, gydag un trên yn gweithredu bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30.

Ni fydd unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru eraill ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn gallu gweithredu.

Bydd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful mewn gwasanaeth bob awr i bob cyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.

Atgoffir cwsmeriaid fe fydd capasiti trafnidiaeth ffordd cyfyngedig iawn rhwng Radur a Chaerdydd cyn 07:30 ac ar ôl 18:30, pan na all Trafnidiaeth Cymru weithredu trenau trwy Landaf a Cathays.

Am fwy o wybodaeth ewch iwww.tfw.cymru

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig) 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio a Theithio i'r Digwyddiad

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd, gyda'r man casglu a gollwng ar Sgwâr Callaghan

Mae'r cyfleuster yn hawdd i'w gyrraedd o'r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).

Bydd bysiau'n rhedeg i ganol y ddinas ac oddi yno  bob 10 munud. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae'r maes parcio'n agor am 9.00am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.10am.  Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 10pm a bydd y maes parcio'n cau am 10.30pm.  

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Ni fydd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i Dŷ Fraser).