The essential journalist news source
Back
23.
September
2022.
Y Cyngor yn cefnogi cynllun i ddileu HIV/AIDS yng Nghymru o fewn wyth mlynedd


 23/9/22

Mae Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu'r feirws HIV yng Nghymru a sicrhau dim goddefgarwch o stigma'n gysylltiedig â HIV erbyn 2030.

 

Mae adroddiad fydd yn mynd gerbron Cabinet y cyngor ddydd Mercher nesaf, 28 Medi, yn amlinellu Cynllun Gweithredu HIV Cymru ac yn esbonio hanes y feirws, a ddechreuodd heintio pobl yn y 1970au.

 

Heddiw, mae dros 35 miliwn o bobl yn byw gyda HIV/AIDS ledled y byd, er bod cynnydd enfawr wedi'i wneud yn y frwydr yn ei erbyn. Nid oes gwellhad, ond mae cyfraddau heintiau wedi gostwng neu sefydlogi mewn llawer o wledydd a gydag atal, diagnosis, triniaeth a gofal effeithiol mae HIV bellach gyflwr cronig y gellir ei reoli.

 

Yng Nghymru rhwng 2012 a 2021 bu gostyngiad o 75% yn nifer y bobl gafodd ddiagnosis newydd o HIV ond amcangyfrifir bod rhwng 11% a 18% o'r bobl sy'n byw gyda HIV ddim yn ymwybodol bod ganddyn nhw'r haint ar hyn o bryd.

 

Datgelodd adroddiad yn 2019 mai Caerdydd sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru - tua 1,000 o achosion - ac mae cyfran y rhai sy'n cael diagnosis hwyr yn 62%, o'i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 42%. "Mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn debygol o ddibynnu ar ofal ysbyty a'u bod nhw'n fwy tebygol o drosglwyddo eu HIV i bartneriaid eraill gan nad ydyn nhw'n ymwybodol o'u statws na chwaith yn derbyn triniaeth briodol," meddai'r adroddiad.

 

Nod Cynllun Gweithredu HIV Cymru yw mynd i'r afael â'r materion hyn trwy bum gweithred allweddol:

  • Sefydlu Cymru fel Cenedl Llwybr Carlam, gan adeiladu ar lwyddiant menter Dinasoedd Llwybr Carlam yng Nghaerdydd a'r Fro, sy'n defnyddio dulliau fel ymgyrchoedd ac 'wythnosau profi' i gefnogi meddygon teulu
  • Cynnwys grwpiau gwirfoddol a chymunedol
  • Cyllido a datblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol Cymru gyfan
  • Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i adrodd ar gynnydd o ran rhoi camau gweithredu'r cynllun ar waith
  • Sefydlu Grŵp Goruchwylio'r Cynllun Gweithredu

 

Wrth lunio ymateb Cyngor Caerdydd i'r Cynllun Gweithredu, ymgynghorwyd ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, y brif elusen UK AIDS, Prifysgol Caerdydd, Llwybr Carlam Caerdydd a'r Fro a Pride Cymru. Mae'r Cyngor yn croesawu tair egwyddor graidd y Cynllun Gweithredu:

  • Dim goddefgarwch o stigma
  • Ffocws ar gyd-greu mewn partneriaeth â phobl sy'n byw gyda HIV o bob cefndir, diwylliant, rhywioldeb, oed, rhyw a lleoliad, ac
  • Ymrwymiad i fonitro a gwerthuso cadarn

 

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â stigma, mae'r cyngor yn awyddus i weld hyfforddiant ymwybyddiaeth HIV yn cael ei ymestyn i gynnwys staff ehangach awdurdodau lleol, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i sicrhau bod disgyblion ysgol yn cael "y wybodaeth gywir ar yr adeg briodol" o ran dysgu am atal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, aelod Cabinet y Cyngor dros Iechyd y Cyhoedd, fod y Cynllun Gweithredu HIV yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at y frwydr yn erbyn HIV/AIDS. "Yn ein hymateb, mae'r Cyngor wedi gweithio gyda llawer o grwpiau sydd wedi ymrwymo i ddileu'r feirws yma a rhoi diwedd ar y stigma mae llawer o bobl sy'n byw gyda HIV yn ei wynebu.

 

"Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid i atal achosion newyddion a gwella bywydau pobl sy'n byw gyda HIV."

 

Yng nghyfarfod y Cabinet, argymhellir i aelodau gefnogi ymateb ymgynghori'r cyngor i'r Cynllun Gweithredu.