The essential journalist news source
Back
21.
September
2022.
Proses newydd o wneud penderfyniadau i ystyried defnydd tir Parc Maendy yn y dyfodol

21/09/22 

Gallai Cyngor Caerdydd gyflwyno is-bwyllgor annibynnol i sicrhau bod cytundeb cyfnewid tir arfaethedig sydd ei angen yn y Maendy i adeiladu Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau yn y broses o wneud penderfyniadau. 

Mae Cyngor Caerdydd, yn ei rôl fel yr awdurdod addysg lleol, eisiau defnyddio rhan o dir ymddiriedolaeth elusennol Parc Maendy ar gyfer yr ysgol newydd. Fodd bynnag, mae rôl y Cyngor fel unig ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Parc Maendy - sy'n gyfrifol am y tir - yn golygu bod yna wrthdaro buddiannau pan fydd yn penderfynu ar unrhyw newid defnydd.

Bydd nifer o argymhellion yn cael eu dwyn i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher 28 Medi er mwyn sicrhau bod yna elfen annibynnol yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â chyfnewid tir, gan gynnwys:

Byddai Aelodau'r Cabinet  sydd wedi pleidleisio'n flaenorol ar benderfyniadau sy'n ymwneud â phrosiect Ysgol Uwchradd Cathays yn datgan gwrthdaro buddiannau, ac felly'n tynnu eu hunain oddi ar y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer y tir.

Byddai Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy  yn cael ei ffurfio, a fydd yn cynnwys tri aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a Moeseg a/neu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Bydd penderfyniadau'r Ymddiriedolaeth  yn cael eu gwneud gan aelodau'r Cabinet sydd heb bleidleisio o'r blaen ynghylch penderfyniadau yn ymwneud â phrosiect Ysgol Uwchradd Cathays, tra'n ystyried argymhellion Pwyllgor Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Parc Maendy.

Mae'r Cyngor eisoes wedi ymgynghori ar y cyfnewid tir a fyddai'n gweld mwy o barcdir y Gored Ddu neu Gae Delyn yn cael ei roi i'r Ymddiriedolaeth yn gyfnewid am unrhyw dir sydd ei angen yn y Maendy ar gyfer yr ysgol newydd.  Byddai'r broses newydd o wneud penderfyniadau yn ystyried yr ymgynghoriad a gwybodaeth berthnasol arall.

Mae copi llawn o adroddiad y Cabinet sy'n argymell creu'r broses newydd o wneud penderfyniadau ar gael i'w lawrlwytho  yma. Cyn mynd i'r Cabinet, bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad, pan fydd yn cyfarfod ddydd Llun 26 Medi.