The essential journalist news source
Back
21.
September
2022.
Adroddiad Estyn yn canmol dathliad ysgol Caerdydd o amrywiaeth


21/9/2022


Mae arolygwyr wedi canmol ysgol gynradd yng Nghaerdydd fel un 'croesawgar a chyfeillgar' gan gymeradwyo disgyblion am eu 'tosturi, empathi, gonestrwydd a thegwch'.

Yn ôl yr adroddiad ar Ysgol Gynradd Glyncoed ym Mhentwyn, un o gryfderau'r ysgol yw'r ymdeimlad o gydweithredu a chyd-weithio a ddangosir gan y disgyblion a sut maen nhw'n gwerthfawrogi gwahaniaethau ei gilydd ac yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol y gymuned.

Mae gan yr ysgol 370 o ddisgyblion, gyda bron i draean (29.4%) yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, mwy na chwarter (26.8%) nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf a 18.5% ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

"Yn gyffredinol, mae disgyblion yn mwynhau mynd i'r ysgol," meddai'r adroddiad. "Maen nhw'n awyddus iawn i siarad ag oedolion ac yn siarad yn hyderus am ba mor falch ydyn nhw o fod yn eu hysgol.  Mae'r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd da, yn enwedig wrth ddarllen ac ysgrifennu, ac mae darpariaeth effeithiol ar gyfer disgyblion ADY."

Tynnodd arolygwyr sylw at faint o ddisgyblion sy'n gwneud cynnydd cyflym gyda'u darllen a datblygu eu sgiliau ysgrifennu.  "Mae disgyblion hŷn," medden nhw, "yn defnyddio geirfa sy'n gynyddol uchelgeisiol, yn enwedig wrth ddangos empathi gyda charcharorion mewn gwersylloedd crynhoi yn ystod yr Ail Ryfel Byd."

Mae llawer o ddisgyblion, hefyd, yn datblygu eu sgiliau llafar yn y Gymraeg yn briodol ac yn dangos brwdfrydedd dros yr iaith tra bod y rhan fwyaf yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu eu sgiliau mathemateg a rhifedd.

Mae'r staff yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol, meddai'r adroddiad, ac mae perthynas fuddiol rhwng oedolion a disgyblion yn cael "effaith gadarnhaol ar ymddygiad a lles bron pob disgybl" tra bod y llywodraethwyr yn hynod gefnogol ac yn meddu ar "ddealltwriaeth gadarn o gynnydd disgyblion".

Roedd yr adroddiad yn nodi, fodd bynnag, nad yw disgyblion bob amser yn cael digon o gyfleoedd i wneud "dewisiadau cynyddol annibynnol am sut a beth maen nhw'n ei ddysgu".

Bydd y pwyntiau hyn nawr yn rhan o gynllun gweithredu i'r ysgol fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad.

Dywedodd pennaeth Glyncoed Elizabeth Keys:  "Mae'r staff, disgyblion a llywodraethwyr yn hynod o falch o ganlyniad arolwg diweddar Estyn. Mae Ysgol Gynradd Glyncoed yn ysgol hyfryd, gyda theimlad cymunedol go iawn. Rydym yn falch bod hyn wedi cael ei gydnabod yn yr adroddiad."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Addysg y Cyngor ei bod hi hefyd yn falch o'r adroddiad cyffredinol ac yn falch iawn o sut mae'r ysgol yn dathlu ei hamrywiaeth.

"Mae'n amlwg fod Glyncoed yn amgylchedd gwych i ddysgu ynddo ac mae'r plant yn iawn i fod mor falch o'u hysgol," meddai.