The essential journalist news source
Back
21.
September
2022.
Lansio cynllun Gwirfoddolwyr Sy'n Deall Dementia


21/09/22

Mae cynllun newydd i annog pobl i roi eu hamser i helpu Caerdydd ar ei thaith i ddod yn ddinas sy'n deall dementia wedi ei lansio heddiw ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd.

 

Mae Caerdydd sy'n Deall Dementia, mudiad partneriaeth yn y ddinas sy'n cynnwys y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chymdeithas Alzheimer's Cymru - sy'n annog a chefnogi sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol i wneud newidiadau bychain er mwyn helpu i roi gwell cefnogaeth i bobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd - yn galw ar unigolion i fod yn Gennad Gwirfoddol sy'n Deall Dementia.

 

Bydd gwirfoddolwyr yn cefnogi siopau, busnesau a sefydliadau lleol ledled y ddinas i godi ymwybyddiaeth o sut y gallant ddeall dementia yn well er mwyn gwella profiad pobl sy'n byw gyda dementia sy'n defnyddio'u gwasanaethau.

 

Cynhelir Diwrnod Clefyd Alzheimer y Byd ar 21 Medi bob blwyddyn ac mae'n rhan o Fis Alzheimer y Byd - cyfle byd-eang i godi ymwybyddiaeth ynghylch addysgu, annog cefnogaeth a chwalu'r anwybodaeth am dementia.

 

Gydag amcangyfrif y bydd nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghaerdydd yn cynyddu 30.1% erbyn 2030 a 41.1% ar gyfer dementia mwy dwys, y cynllun yw'r fenter ddiweddaraf gan Gaerdydd sy'n Deall Dementia i sicrhau bod pobl â dementia yn gallu byw bywydau gwell, mwy bodlon, gan barhau'n actif ac yn rhan o'u cymuned, ac sy'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu Cymunedau sy'n Deall Dementia ledled Cymru.

 

Bydd gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi siopau, busnesau a sefydliadau lleol gan addunedu i ddod i ddeall dementia, gwneud newidiadau i fod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr ac i gael cydnabyddiaeth swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer's.

 

Mae'r rôl wirfoddoli yn hyblyg a byddai'n addas i unrhyw un sy'n barod i gysylltu â'r gymuned ac yn angerddol dros wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Deall Dementia.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Hyrwyddwr Pobl Hŷn, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Rydyn ni'n gwybod yn aml mai'r pethau bychain y mae unigolion, a busnesau a sefydliadau, yn eu gwneud sy'n gallu cael yr effaith fwyaf ar berson sy'n byw gyda dementia. Gall bod ag ymwybyddiaeth o'r newid mewn anghenion cwsmeriaid a gwneud addasiadau bach i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan ddementia wneud cymaint o wahaniaeth.

 

"Rydym angen pobl i fod yn Gennad Gwirfoddol sy'n Deall Dementia er mwyn hyrwyddo'r newidiadau hyn i ni ac i weithio gyda siopau a busnesau ledled y ddinas ar eu teithiau Deall Dementia eu hunain.

 

"Rydyn ni'n cydnabod y rôl bwysig a gwerthfawr mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae trwy roi o'u hamser ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben am eu cyfraniad."

 

Bydd hyfforddiant priodol, cefnogaeth, a goruchwyliaeth yn cael ei roi i bob Cennad Gwirfoddol. I wneud cais neu ofyn am fwy o wybodaeth, ewch i: Dewch i fod yn gennad gwirfoddol sy'n deall dementiaNeu gysylltu â

Chloe Gifford - Cydlynydd Gwirfoddolwyr Deall Dementia

Ffôn: 07855980955 E-bost: chloe.gifford2@cardiff.gov.uk

 

I gael rhagor o wybodaeth am waith Caerdydd sy'n Deall Dementia ac am wybodaeth a gwasanaethau i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, ewch i https://caerdydddealldementia.co.uk/