The essential journalist news source
Back
20.
September
2022.
Mae Dysgu’n Para am Oes: Cofrestru gydag Addysg Oedolion Caerdydd


20/09/22

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd wedi lansio eu cyrsiau ar gyfer hydref 2022 ac mae cofrestru ar gyfer ystod eang o ddosbarthiadau addysg a hamdden bellach ar agor.

 

Mae rhaglenni Dysgu ar gyfer Gwaith, Dysgu am Oes, DICE (Cynhwysiant Anabledd mewn Addysg Gymunedol) a chynlluniau Cymorth Digidol yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous i oedolion ledled y ddinas.

 

Yn cael eu cyflwyno mewn hybiau a lleoliadau eraill yn ogystal agar-lein, mae'r cyrsiau yn dechrau ar 26 Medi ac mae modd pori drwyddyn nhw ac archebu yma:https://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/

 

Nod y rhaglen Dysgu ar gyfer Gwaith yw helpu oedolion i ddysgu sgiliau newydd neu wella sgiliau sydd ganddyn nhw eisoes er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd mewn meysydd fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gweithio gyda phlant, hylendid bwyd a mwy.

 

Mae cyrsiau Dysgu am Oes yn cynnwys meysydd fel garddio, ieithoedd, gwnïo, gwneud gemwaith a mwy, ac maen nhw'n ffordd wych o ddilyn hobi a chwrdd â phobl newydd.

 

Mae rhaglen DICE yn cynnig ystod o gyrsiau hygyrch, wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer dysgwyr â phroblemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, neu nam corfforol. Maen nhw'n cynnwys ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, cyfrifiaduron hwyliog ac ymarferol, mathemateg ryngweithiol a llawer mwy.

 

Ac mae Cymorth Digidol Dysgu Oedolion yn cynnig cymorth a hyfforddiant i helpu pobl i fynd i'r afael â defnyddio eu ffôn clyfar, llechi a chyfrifiaduron gyda chymorthfeydd digidol a dosbarthiadau sgiliau sylfaenol ar hyd a lled y ddinas.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae mis Medi wastad yn teimlo fel adeg dda i gychwyn o'r newydd ac ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf pan fo llawer o bobl wedi teimlo bod bywyd wedi'i oedi, mae'n gyfle perffaith i gofrestru ar gwrs gyda Dysgu Oedolion Caerdydd. 

 

"Boed yn dymuno gwella eich sgiliau er mwyn cael swydd newydd neu gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa, neu am resymau hamdden - neu am ddychwelyd i ganol pethau, mwynhau hobi newydd a chreu ffrindiau newydd, mae gan y gwasanaeth rywbeth i bawb."

 

Ewch i weld beth sydd ar gael gan Addysg Oedolion Caerdydd ym mis Medi drwy ymweld âhttps://www.adultlearningcardiff.co.uk/cy/