The essential journalist news source
Back
15.
September
2022.
Teyrngedau arbennig wedi eu rhoi i Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn

Talwyd teyrngedau i Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II gan Gynghorwyr Caerdydd mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Ddydd Mawrth (13 Medi).

Dechreuodd y cyfarfod, lle pasiwyd Cynnig o Gydymdeimlad, gyda munud o dawelwch, cyn i'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey annerch y siambr, gan dalu teyrnged i sut y bu'r ddiweddar Ei Mawrhydi "yn gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad, doethineb ac ymdeimlad diwyro o wasanaeth cyhoeddus." 

Wrth gynnig y Cynnig o Gydymdeimlad, dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: "Roedd Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn cael ei pharchu'n aruthrol am ei hurddas, ei hymroddiad anhunanol i'w ffydd, a'i hymrwymiad i ddyletswydd gyhoeddus, ac roedd parch uchel iddi ac anwyldeb mawr ymhlith llawer o bobl yng Nghaerdydd, yn y gwledydd hyn, yn y Gymanwlad, ac ar draws y byd.

"Gyda thristwch mawr y mae'r Cyngor hwn, a phrifddinas Cymru yn ehangach, yn ymuno â gweddill y genedl wrth alaru diwedd oes hir a theyrnas hynod Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II."

Wrth eilio'r Cynnig, galwodd Arweinydd y Grŵp Ceidwadol, y Cynghorydd Adrian Robson, Ei Diweddar Fawrhydi yn "ffrind i'r ddinas", a dwedodd "Ddydd Llun bydd y byd yn oedi i gofio a thalu teyrnged i'r wraig eiconig hon ac er y bydd tristwch yn ein calonnau, gallwn fod yn ddiolchgar am fywyd y foneddiges anhygoel hon, brenhines ymrwymedig i'w gwaith ac yn rym absoliwt er daioni."

Dwedodd Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd Joe Carter: "Mae bywyd Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines yn enghraifft wiw o sut i fyw bywyd da, un o wasanaeth, un o ymroddiad, un o gariad, nid yn unig i'w ffrindiau a'i theulu ond i'w gwlad a'r Gymanwlad."

Gallwch wylio'r teyrngedau hynny nawr yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/428442