The essential journalist news source
Back
14.
September
2022.
Ymweliad y Brenin a'r Frenhines Gydweddog â Chaerdydd

14/09/22 

Mae mwy o fanylion wedi'u rhyddhau ar ymweliad Ei Fawrhydi y Brenin a'r Frenhines Gydweddog â Chaerdydd Ddydd Gwener, 16 Medi.

Gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol ar hyd y llwybr i groesawu'r Osgordd Frenhinol wrth iddynt nesáu at y Castell yn y prynhawn ac i godi llaw i ffarwelio wrth iddynt ymadael.  Bydd y modurgad yn gyrru ar hyd Heol Eglwys Fair ar y ffordd i'r castell a'r disgwyl yw y bydd torfeydd mawr yn ymgynnull cyn iddyn nhw gyrraedd.

Bydd croeso hefyd i'r cyhoedd ddod i diroedd Castell Caerdydd i weld Eu Mawrhydi wrth iddyn nhw gymryd rhan yn eu digwyddiad olaf am y diwrnod.

Bydd mynediad i'r Castell yn cael ei neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin. Er mwyn sicrhau y gallwn adael cynifer o bobl â phosibl i mewn, gofynnwn i chi osgoi dod â bagiau mawr a bagiau nad ydynt yn hanfodol y bydd angen eu harchwilio ac a allai arafu mynediad.

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch pa amser y caiff y cyhoedd ddefnyddio prif fynedfa'r castell, ond rydym yn cynghori pobl i ddisgwyl ciwiau hir iawn o amser cynnar ac yn anffodus nid ydym yn disgwyl y bydd pawb a hoffai ddod i dir y castell yn gallu cael mynediad.

Unwaith y tu mewn i Dŷ'r Castell, bydd Eu Mawrhydi yn cwrdd â chynrychiolwyr Nawdd Brenhinol ac aelodau o Gymunedau Ffydd. Bydd y Brenin hefyd yn cynnal cynulleidfa breifat gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Llywydd y Senedd, Elin Jones.  Y disgwyl yw y bydd ei ymweliad â phrifddinas Cymru yn dod i ben gyda'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cyfarch aelodau'r cyhoedd ar diroedd y Castell cyn ymadael.

Cyn ymweld â'r castell, bydd Ei Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog yn ymuno â chynulleidfa wadd mewn gwasanaeth boreol o Weddi a Myfyrio ar Fywyd y Frenhines yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Yn dilyn y gwasanaeth bydd Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog yn teithio i'r Seneddyn y prynhawni dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad gan y Prif Weinidog. Wrth adael y Senedd, gobaith Eu Mawrhydi fydd cael cyfarch rhai aelodau o'r cyhoedd cyn iddyn nhw adael am Gastell Caerdydd.

Bydd llawer o'r cyhoedd am ymgasglu i weld a chroesawu'r Osgordd Frenhinol yn cyrraedd Llandaf, Bae Caerdydd ac yn y Castell a bwriad y cynlluniau sydd ar waith yw hwyluso hyn gymaint â phosib. Bydd ymweliad yr Osgordd Frenhinol â Chaerdydd hefyd yn cael ei ddarlledu i bobl gartref.

Gall hygyrchedd a chyfleoedd gwylio a pharcio fod yn gyfyngedig, yn enwedig i ddigwyddiad Llandaflle mae sawl ffordd eisoes wedi eu cau a chyfyngiadau parcio wedi'u sefydlu, ac mae'r lle sydd o amgylch yr Eglwys Gadeiriol ei hun hefyd yn gyfyngedig.Bydd nifer sylweddol o ffyrdd ynghau hefyd ar draws y ddinas Ddydd Gwener er mwyn hwyluso'r ymweliad ac i gadw'r cyhoedd yn ddiogel

Byddem yn cynghori unrhyw un sy'n awyddus i fynychu unrhyw un o'r tri lleoliad i gynllunio ymlaen llaw ac i ystyried cerdded neu deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Credwn y bydd yn arbennig o anodd dod o hyd i unrhyw le parcio yn Llandaf ar gyfer yr ymweliad.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru i reoli unrhyw dagfeydd, gyda nifer sylweddol o stiwardiaid wedi'u drafftio ynghyd â swyddogion heddlu er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Ein cyngor ni yw cynllunio ymlaen llaw, gwisgo'n briodol i'r tywydd, dod â digon o ddŵr, paratoi ar gyfer cyfnodau hir o sefyllian, dylech ddisgwyl torfeydd a chadw golwg ar y rhai o'ch cwmpas ac sydd gyda chi. 

Mae Llyfrau Cydymdeimlad yn parhau ar agor, rhwng 9am a 5pm bob dydd, yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Bydd y llyfrau'n parhau ar agor tan 5pm Ddydd Llun, 19 Medi, diwrnod Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd adael blodeugedau ar y lawntiau naill ochr i brif fynedfa Neuadd y Ddinas. Gofynnir i'r cyhoedd dynnu unrhyw ddeunydd lapio plastig ar y blodau maen nhw'n eu gosod yn Neuadd y Ddinas, a'u cludo adref.

 

 

Cau ffyrdd

Canol y Ddinas

O 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Heol y Gogledd rhwng Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o Heol y Dug i Heol y Gogledd
  • Heol y Dug ar ei hyd 
  • Stryd y Castell ar ei hyd 
  • Stryd Wood rhwng Heol y Porth a Heol Eglwys Fair
  • Heol Eglwys Fair o Heol y Tollty i'r Stryd Fawr
  • Stryd Fawr ar ei hyd   
  • Stryd Wood
  • Heol y Porth
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Porth a Heol y Gadeirlan ond bydd mynediad ar gael.

 

Fel trefn wrth gefn, os bydd torfeydd mawr ar y diwrnod, yna fe allai'r ffyrdd canlynol gau:

  • Rhodfa Lloyd George ar ei hyd
  • Stryd Herbert rhwng Rhodfa Lloyd George a Sgwâr Callaghan
  • Sgwâr Callaghan o Heol Dumballs i Stryd Bute
  • Heol Eglwys Fair ar ei hyd tan Sgwâr Callaghan.

 

Gerddi Sophia

 O 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau: 

  • Clos Sophia - rhaid i ddefnyddwyr y gwasanaeth ddefnyddio'r maes parcio talu ac arddangos y gellir mynd iddo o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
  • Limetree Avenue - bydd yr allanfa i'r gwersyll ar hyd Dogo Street

Eglwys Gadeiriol Llandaf

Mae'r ffyrdd canlynol eisoes wedi gau ac ni fyddant yn ailagor i gerbydau modur tan Ddydd Sadwrn 17 Medi:

  • Stryd Fawr 
  • Heol Fair
  • Lawnt y Gadeirlan

Ar hyn o bryd, mae mynediad yn cael ei reoli i'r ardal ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gyda pharcio amgen ar gael i fodurwyr yn y maes parcio talu ac arddangos ar Heol y Tyllgoed. Mae staff ar y safle'n cynorthwyo'r cyhoedd a busnesau gyda'r trefniadau cau ffyrdd 

O 8pm prynhawn Iau tan 4pm brynhawn Gwener, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn llwyr:

  • Stryd Fawr 
  • Heol Fair
  • Lawnt y Gadeirlan
  • Heol-y-Pavin (mynediad ar gael)
  • Heol y Bont (mynediad ar gael)

Os bydd torfeydd mawr yn mynychu, bydd y ffyrdd canlynol hefyd yn cau:

  • Heol Caerdydd o'r gyffordd â Heol Llantrisant hyd at y gyffordd â Rhodfa'r Gorllewin
  • Heol y Tyllgoed i'r gyffordd â Heol Pwll Melyn (mynediad ar gael)

Bae Caerdydd

Mae'r ffyrdd canlynol eisoes ar gau ac ni fyddant yn ailagor i gerbydau modur tan brynhawn Gwener:

  • Rhodfa'r Harbwr 
  • Cei Britannia

 

Trenau

Ddydd Gwener 16 Medi, mae disgwyl i wasanaethau trên i Gaerdydd fod yn brysur.  Y gorsafoedd trên agosaf i Eglwys Gadeiriol Llandaf yw Parc Waun-gron a Y Tyllgoed.  Fodd bynnag, argymhellir bod teithwyr sy'n dymuno teithio i Landaf o Caerdydd Canolog yn defnyddio gwasanaeth bws lleol felly ewch i traveline.cymru ar gyfer amserlenni bysiau lleol. 

 

Gwybodaeth lawn ymahttps://tfw.wales/passenger-information 

Parcio

Nid oes cyfleuster parcio digwyddiadau ar gyfer y digwyddiad hwn, ond mae'r holl barcio ar y stryd ar gael yng nghanol y ddinas, Bae Caerdydd ac yn y Ganolfan Ddinesig, yn ogystal â meysydd parcio preifat, gan gynnwys:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

National Express:  
Rhwng Dydd Mercher 14 Medi a fore Gwener 16 Medi, bydd y man gollwng ac esgyn ar gyfer Gwasanaethau National Express ar Heol y Gadeirlan ac nid yng Ngerddi Sophia.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi