The essential journalist news source
Back
10.
September
2022.
Trefniadau ymweld y Brenin Siarl III â Chaerdydd


10/09/22

Bydd y Brenin Charles a'r Frenhines Gydweddog yn talu eu hymweliad swyddogol cyntaf â Chaerdydd ers marwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines, a hynny Ddydd Gwener, 16 Medi.

 

Yr ymweliad hwn fydd trydydd ymrwymiad swyddogol y cwpl ar ôl iddynt fynychu seremonïau ym Melffast a Chaeredin.

 

Bydd yr ymweliad Esgyniad â Chaerdydd yn cynnwys gwasanaeth o weddi a myfyrdod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a fynychir gan uwch arweinwyr ffydd o gymunedau ar draws Caerdydd. Mae disgwyl i'r pâr Brenhinol gyrraedd Eglwys Gadeiriol Llandaf cyn ymweld â'r Senedd i dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad.

 

Yn dilyn hyn bydd derbyniad yng Nghastell Caerdydd ac yn cynnwys cyfarfod preifat â'r Brenin i'r Prif Weinidog a Llywydd y Senedd, Elin Jones.

 

Mae croeso i'r cyhoedd ymgynnull ar diroedd y castell a'r disgwyl yw y bydd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cwrdd â'r cyhoedd wedi'r derbyniad yn y Castell. Prin yw'r gofod a bydd mynediad yn cael ei gyfyngu i tua'r 2,000 o bobl cyntaf i gyrraedd.

 

Daw'r seremoni hon wedi i Gaerdydd chwarae rhan allweddol yn ymateb Cymru i farwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines, a gyhoeddwyd brynhawn Iau diwethaf.

 

Ddoe am 1pm, taniodd Catrawd 104 saliwt 96 gwn - i gynrychioli pob blwyddyn o'i bywyd - yng Nghastell Caerdydd ac am 2pm agorodd yr Arglwydd Faer ac arweinydd y Cyngor lyfrau cydymdeimlo yn Neuadd y Ddinas. Bydd y rhain yn parhau ar agor i'r cyhoedd rhwng 9am a 5pm bob dydd, tan 5pm ar ddiwrnod yr Angladd Gwladol. Mae llyfrau cydymdeimlo arlein  ynwww.Royal.UK

 

Yfory, bydd y Castell yn llwyfan i Broclamasiwn y brenin newydd pan fydd y Brenin Siarl yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yng Nghymru fel y brenin newydd. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma

Gellir gosod blodeugedau er cof am y Frenhines ar y lawntiau bob ochr i brif fynedfa Neuadd y Ddinas, Caerdydd, rhwng 9am a 5pm.

 

Cafodd baneri ar adeiladau'r Cyngor eu codi'n llawn unwaith eto am 11am heddiw, Dydd Sadwrn 10 Medi, i gyd-fynd â Chyhoeddi Prif Broclamasiwn y brenin newydd yn Llundain a'r Saliwt 21 Gwn Brenhinol yng Nghastell Caerdydd am 11am.

 

Bydd y baneri yn dychwelyd i'w hanner am 1pm yfory, Dydd Sul 11 Medi, wedi'r Proclamasiwn yng Nghaerdydd.