09/09/22
I nodi Proclamasiwn Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III, mae trefniadau wedi'u gwneud ar gyfer digwyddiad cyhoeddus allweddol sydd i'w gynnal yng Nghaerdydd ddydd Sul, 11 Medi.
Bydd Proclamasiwn y Brenin newydd yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd am hanner dydd pan fydd Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yng Nghymru fel y brenin newydd.
Cyn y Proclamasiwn, bydd Gwarchodlu'r Proclamasiwn yn cynnwys 26 o ddynion 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol, gyda chefnogaeth Band y Cymry Brenhinol ac yng nghwmni'r masgot catrawd, yn gorymdeithio o Neuadd y Ddinas am 11.25am ar hyd Boulevard de Nantes, Heol y Gogledd a Heol y Dug i Gastell Caerdydd.
Bydd modd i'r cyhoedd fynychu'r digwyddiad ond mae lleoedd yn gyfyngedig i ryw 2,000 o bobl a bydd mynediad yn cael ei roi ar sail y cyntaf i'r felin. Mae disgwyl i'r gatiau agor tua 10am a chau am 11.15am.
I hwyluso'r digwyddiad a'r orymdaith yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas rhwng 7am a 2pm ar 11 Medi.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Heol Gerddi'r Orsedd o'r gyffordd â Phlas y Parc
- Rhodfa'r Amgueddfa o'r gyffordd â Heol y Coleg i lawr i Neuadd y Ddinas
- Rhodfa'r Brenin Edward VII hyd at Adeilad Morgannwg
- Heol Neuadd y Ddinas yn ei chyfanrwydd
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug; Stryd y Castell; Stryd Fawr; Heol y Porth; Stryd y Cei; Plas y Neuadd a'r Gwter. Lle bo'n bosib, bydd mynediad i breswylwyr a busnesau yn cael ei gynnal.
- Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.