The essential journalist news source
Back
8.
September
2022.
75 mlynedd ers i Gastell Caerdydd gael ei roi yn swyddogol i bobl Caerdydd

75 mlynedd yn ôl, ar 10 Medi 1947, rhoddwyd Castell Caerdydd yn swyddogol i bobl Caerdydd gan bumed Ardalydd Bute.

Trosglwyddwyd yr allweddi i'r castell i'r Arglwydd Faer, Alderman George Ferguson mewn seremoni ffurfiol y tu allan i gatiau'r castell wrth i faner y teulu Bute chwifio dros y Gorthwr Normanaidd am y tro olaf.

Fe wnaeth un o brif atyniadau treftadaeth Cymru, sef 2,000 mlynedd o hanes y castell gamu i gyfnod newydd yn ddiweddar, gyda Chyngor Caerdydd yn ymrwymo i gadw'r tiroedd ar agor fel sgwâr cyhoeddus.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:   "Mae'n amhosib dychmygu Caerdydd heb y castell wrth ei galon, a saith deg pum mlynedd yn ddiweddaraf mae effaith rhodd yr Ardalydd yn dal i gael ei deimlo gan y miloedd o bobl sy'n ymweld bob blwyddyn i archwilio ei hanes, rhyfeddu at ei stafelloedd moethus, neu yn syml, ymlacio yn yr hyn sydd bellach yn un o fannau gwyrdd cyhoeddus mwyaf pictiwrésg Caerdydd."

Safai caer Rufeinig, a sefydlwyd tua 55OC, ar safle'r castell i ddechrau, ac mae olion y gaer gron olaf a godwyd o gerrig i'w gweld hyd heddiw. Yn dilyn adeiladu'r Gorthwr Normanaidd, pasiodd y castell drwy ddwylo nifer o deuluoedd bonheddig, bu'n dyst i garcharu yr arwr o Gymru Llywelyn Bren yn y Tŵr Du, ac fe'i rhoddwyd ar dân yn ystod gwrthryfel Cymreig Owain Glyndwr. Yn y diwedd, ym 1766 aeth y castell trwy briodas i ddwylo'r teulu Bute.

Ail Ardalydd Bute oedd yn gyfrifol am droi Caerdydd yn borthladd allforio glo mwya'r byd. Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd y Castell ynghyd â'r holl arian a wnaeth eu pasio ymlaen i'w fab John, Trydydd Ardalydd Bute, oedd y dyn cyfoethocaf yn y byd erbyn yr 1860au.

Yn 1868 dechreuodd Trydydd Ardalydd gydweithrediad â'r pensaer William Burges a drawsnewidiodd y castell, gan greu tu mewn godidog, yn gyfoethog gyda murluniau, gwydr lliw, marmor, gildio a cherfiadau pren cywrain, y mae wedi dod yn enwog amdanynt.

Ar ôl cael ei roi i wasanaeth fel lloches cyrchoedd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda marwolaeth y Pedwerydd Ardalydd Bute ym 1947, fe ddechreuodd gam nesaf hanes y Castell.

I gael rhagor o wybodaeth am Gastell Caerdydd, ewch iwww.castell-caerdydd.com