The essential journalist news source
Back
6.
September
2022.
Coleg yn cynnal digwyddiad Haf o Hwyl cynhwysol arbennig

22.08.22
Gyda’r tywydd poeth yn cyrraedd y 90au uchel, gall fod yn anodd annog plant a phobl ifanc i wneud mwy nag ymlacio yn y cysgod yn ystod gwyliau hir yr ysgol.

Ond mae Haf o Hwyl anhygoel Caerdydd – cyfres o ddigwyddiadau wedi'u trefnu sy'n cael eu hyrwyddo gan Gyngor y Ddinas – yn parhau i ddarparu ystod enfawr o weithgareddau ar draws y ddinas, a'r cyfan wedi'u cynllunio i ddiddori pobl ifanc, a’u cadw’n brysur ac wedi’u hysgogi.

Ac mae'n bwysig bod pawb yn teimlo wedi’u cynnwys, felly cynhaliodd y Cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, ddigwyddiad arbennig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer grwpiau o blant a phobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Daeth dros 200 o blant ac oedolion i'r digwyddiad yr wythnos diwethaf - partneriaeth rhwng tîm Dinas sy'n Dda i Blant a Gwasanaethau Plant - gan gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, aelodau o'r gymuned LHDTQ+, gofalwyr ifanc, y rheiny ag anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol.

Ymhlith y gweithgareddau ar gynnig oedd:

  •  Gwersylloedd technoleg (roboteg a chodio)
  • Ymgyrchu amgylcheddol ar sail crefft
  • Gwylio adar, hela chwilod a theithiau o gwmpas Parc Bute gerllaw
  • Celf troelli paent beiciau
  • Chwaraeon a gemau awyr agored
  • Gorsaf gemau
  • Arddangosfeydd deinosoriaid o Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Gweithdai dylunio gwisgoedd gyda CBCDC, a
  • Phrofiad ystafell synhwyraidd a drefnwyd gan Barnardo's

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg y Cyngor a chadeirydd y pwyllgor cynghori rhianta corfforaethol: "Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych oedd yn nodweddu popeth sy'n dda am Haf o Hwyl – creu digwyddiadau a gweithgareddau hwyliog, hygyrch i ystod amrywiol o blant."

Ac ychwanegodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "I ddod yn Ddinas wirioneddol Dda i Blant mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ein gweithgareddau, felly rwy'n hynod ddiolchgar i'n staff a'n partneriaid am gynnal cyfres mor wych o ddigwyddiadau."

Mae gan Gaerdydd uchelgais i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.  Dechreuodd rhaglen waith yn 2018 i wella'r ffordd mae lleisiau plant a phobl yn cael eu clywed yn y ddinas. 

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant yng Nghaerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. 

I gael mwy o wybodaeth am gynllun tair blynedd y Cyngor i wella canlyniadau i bobl ifanc, dilynwch y ddolen hon https://tinyurl.com/vyz7mcwu