The essential journalist news source
Back
6.
September
2022.
Cyhoeddi trefniadau cau ffyrdd wrth i'r gwaith barhau ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd

06.09.22
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cyfres o fesurau traffig yng nghanol y ddinas wrth ddechrau’r gwaith o greu mynediad deheuol i'r Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd.

Mae disgwyl i'r Gyfnewidfa, fydd yn cynnwys yr orsaf fysus newydd, gael ei hagor i'r cyhoedd gan Trafnidiaeth Cymru (TfW) y flwyddyn nesaf. Y datblygiad diweddaraf yw creu llwybr mynediad o'r de, sy'n golygu bod angen cau Heol Saunders dros dro o'i chyffordd â Heol Penarth.

Mae'r gwaith yn dechrau ar 19 Medi ac mae disgwyl iddo bara hyd at chwe mis.

Tra bod gwaith ar y gweill, bydd safle tacsis yr orsaf reilffordd, sy'n cael ei gyrchu drwy Heol Saunders, yn cael ei adleoli gan Trafnidiaeth Cymru i Heol Penarth fel mesur dros dro.

Bydd y rhan o Heol Penarth rhwng Heol Saunders a Glanfa Gorllewin y Gamlas, gyferbyn â maes parcio'r orsaf, yn cael ei gyfyngu i draffig tua'r de yn unig, gyda'r safle bws tua'r gogledd yn cael ei ddileu a chaiff man llwytho ei osod gyferbyn â Gwesty Clayton.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y bydd modd cael mynediad at safle tacsis yr orsaf drenau ar hyd Heol Saunders ar ôl i’r gwaith adeiladu diweddaraf gael ei gwblhau.

"Mae'r safle ar dir preifat nad yw'n cael ei reoli na'i weithredu gan y cyngor," ychwanegodd, "ond rwyf wedi ysgrifennu at Lee Waters, Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Trafnidiaeth Cymru, gan ddweud y byddai'n fuddiol i Gaerdydd, pan fydd y gwaith ar Heol Saunders yn cael ei gwblhau - a nes yr amser pan gytunir ar ailddatblygiad yr orsaf drenau yn y dyfodol - fod tacsis yn parhau yn y lleoliad presennol ar y Sgwâr Canolog. Ond penderfyniad i Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yw hynny."