The essential journalist news source
Back
26.
August
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 26 Awst 2022

Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 26 Awst 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys: Canlyniadau TGAU yn well na 2019; Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd yn dweud eu dweud am ddyfodol addysg; cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad reslo yn y stadiwm; a'r rhaglen Bwyd a Hwyl arobryn

Darlun cadarnhaol dros y ddinas o ran canlyniadau TGAU 2022

Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau TGAU heddiw.  Eleni yw'r tro cyntaf ers 2019 i ddysgwyr sefyll arholiadau haf sydd wedi eu marcio a'u graddio gan fyrddau arholi, ar ôl i ddwy flynedd o raddau gael eu pennu gan ysgolion a cholegau. Yn gyffredinol mae'r canlyniadau yn uwch na 2019, pan gafodd arholiadau eu sefyll ddiwethaf.

Yn seiliedig ar y canlyniadau cychwynnol a gyhoeddwyd heddiw, mae 31.9 y cant o ganlyniadau arholiadau TGAU 2022 CBAC wedi eu graddio ag A* i A, o’i gymharu â ffigwr Cymru sef 25.1 y cant (pob bwrdd arholi), a ffigwr Caerdydd o 23.1 y cant yn 2019.

Mae canran y ceisiadau TGAU sydd wedi arwain at raddau C ac uwch wedi codi i 73.5 y cant, cynnydd o 7.2 pwynt canran oddi ar 2019, ac uwch law ffigwr Cymru o 68.6 y cant.

Ar gyfer ceisiadau sydd wedi ennill graddau A* i G, ffigwr 2022 ar gyfer Caerdydd yw 97.5 y cant, o gymharu â 96.3 y cant yn 2019.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn gyffredinol yn uwch na 2019, pan gafodd arholiadau eu sefyll ddiwethaf.  Fodd bynnag, nid oes modd cymharu'r flwyddyn hon yn uniongyrchol gydag unrhyw flwyddyn arall.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir go iawn i'n pobl ifanc a hoffwn longyfarch pob un o'r disgyblion hynny sy'n derbyn canlyniadau heddiw. 

"Ar ôl dwy flynedd heb arholiadau, mae disgyblion wedi cael cyfle i ddangos yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu drwy arholiadau ac asesu ac er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol, mae'n galonogol gweld y cynnydd cyffredinol yn y graddau ar draws y ddinas ac i glywed am gymaint o straeon llwyddiant o bob cwr o'r ddinas.”

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29743.html

 

Ffyrdd ar gau yn Pride Cymru 2022

Er mwyn sicrhau y bydd pawb yn gallu mwynhau Pride Cymru 2022 yn ddiogel, caiff trefniadau cau ffyrdd eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad ac i hwyluso’r orymdaith.

Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, o 6am ddydd Mercher 24 Awst, bydd gwaelod Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau o'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas i lawr i'r gofeb ryfel.

O 6am ddydd Iau, 25 Awst, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  •  Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas-y-Parc
  • Rhodfa'r Amgueddfa o’r gyffordd â Heol y Coleg i lawr i Neuadd y Ddinas
  • Rhodfa'r Brenin Edward VII hyd at Adeilad Morgannwg
  • Heol Neuadd y Ddinas yn ei chyfanrwydd.

Wedi'r dathliadau, bydd y ffyrdd hyn yn y Ganolfan Ddinesig yn cael eu hailagor erbyn 6pm ar 30 Awst fan bellaf.

Ar ddiwrnod yr orymdaith - sef ddydd Sadwrn 27 Awst - bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  •  O 4am tan hanner dydd, bydd Plas Windsor, o'r gyffordd â Heol y Frenhines i'r gyffordd â Stuttgarter Strasse a Lôn Windsor ar gau yn ei chyfanrwydd
  • O 9am tan 2pm, bydd trefniadau cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas ar gyfer yr orymdaith, ond bydd Heol y Gogledd o Boulevard De Nantes i'r gyffordd â Rhodfa Colum hefyd ar gau. Bydd mynediad i fysus a phreswylwyr yn cael ei gynnal ar Heol y Porth.

 

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29705.html

·       Rydym yn cefnogi digwyddiad Pride Cymru’r penwythnos hwn. Am fwy, ewch i Pride Cymru is back with a star-studded line up for 2022 • News & Blogs • Visit Cardiff


Dylanwadwyr yn cael dweud eu dweud ar addysg yng Nghaerdydd

Mae grŵp o bobl ifanc wedi cael cipolwg ar ddyfodol addysg yng Nghaerdydd - a chael cyfle i roi eu stamp eu hunain ar sut y gallai hwnnw edrych.

Grŵp o 18 o bobl ifanc 13 ac 14 oed yw Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd a wirfoddolodd i gymryd rhan mewn ysgol haf bum niwrnod yn Neuadd y Sir dan faner Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion.

Bwriad y rhaglen yw rhoi’r llwyfan a’r gallu i bobl ifanc roi eu barn ar benderfyniadau allweddol ynghylch trefniadaeth a strategaeth fuddsoddi yn y maes ysgolion a’r modd y bydd yr awdurdod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ysgolion Caerdydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Yn ystod y rhaglen, mwynhaodd y Dylanwadwyr, sy’n dod o bob rhan o'r ddinas ac o gymysgedd o ysgolion cymunedol a ffydd cyfrwng Saesneg a Chymraeg, gyfres o ymarferion adeiladu tîm, archwilio'r ffactorau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau cynllunio, cymryd rhan mewn gweithdy cyfweld, archwilio i ymagweddau cyfredol a blaengar tuag at addysg ac ymweld â rhai tirnodau proffil uchel yn y ddinas, gan gynnwys stiwdios newydd y BBC a Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad ag ysgol newydd Fitzalan sy'n cael ei hadeiladu gan Kier ger stadiwm Dinas Caerdydd.  Yma, gwelsant sut mae ysgolion modern yn cael eu hadeiladu mewn ffyrdd newydd a gwahanol yn aml wrth i arferion addysg gael eu rhoi ar waith ac wrth i newidiadau mewn cymdeithas esblygu.

Ddiwedd yr wythnos, rhoddodd y Dylanwadwyr y cyfan roedden nhw wedi'i ddysgu ar waith mewn cyfres o gyfweliadau gyda'r Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg.

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29746.html

 

Partneriaid ledled y ddinas yn cynnig darpariaeth iechyd a lles I fwy na 1500

Mae mwy na 30 o bartneriaid ar draws dinas Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant ysgol gymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu sgiliau newydd a chymdeithasu fel rhan o raglen Bwyd a Hwyl Caerdydd sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae'r fenter, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ar draws y ddinas yn ystod gwyliau’r ysgol trwy ddarparu prydau bwyd maethlon iach ynghyd â rhaglen gyffrous o ddarpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon a sesiynau mewn maeth a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus gyda llu o sefydliadau ar draws y ddinas sy'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Bwyd a Hwyl. Mae eu cyfranogiad yn hanfodol wrth hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun.

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29749.html 


Caerdydd fydd Dinas Gomedi nesaf y BBC

Wedi’i sefydlu’n gyntaf fel rhan o ymrwymiad y BBC i ariannu cynhyrchu teledu rhwydwaith, datblygu talent a rhoi cefnogaeth i'r sector creadigol, mae BBC Comedy (dydd Iau 25 Awst 2022) heddiw’n cadarnhau y bydd Caerdydd yn dod yn Ddinas Gomedi y BBC ar gyfer 2023. Nod Dinas Gomedi’r BBC yw helpu i ddod o hyd i, meithrin a chysylltu talent comedi newydd yng Nghymru gyda chomisiynwyr y DU a'r diwydiant teledu ehangach.

Fel Dinas Gomedi’r BBC, bydd Caerdydd ar ei hennill o lu o fentrau a gweithgareddau gwahanol sy'n digwydd yn y ddinas ac o'i hamgylch, gan gynnwys cynnal Gŵyl Gomedi y BBC - digwyddiad aml-ddiwrnod ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol, unrhyw un sydd â gyrfa newydd ym myd teledu a chomedi, a phobl sy'n ceisio dechrau neu ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant i ystyried, myfyrio a dathlu comedi yn y DU.

Darllenwch fwy yma:

https://www.bbc.com/mediacentre/2022/cardiff-city-of-comedy