The essential journalist news source
Back
25.
August
2022.
Dylanwadwyr yn cael dweud eu dweud ar addysg yng Nghaerdydd

25.08.22
Mae grŵp o bobl ifanc wedi cael cipolwg ar ddyfodol addysg yng Nghaerdydd - a chael cyfle i roi eu stamp eu hunain ar sut y gallai hwnnw edrych.

Grŵp o 18 o bobl ifanc 13 ac 14 oed yw Dylanwadwyr Ifanc Caerdydd a wirfoddolodd i gymryd rhan mewn ysgol haf bum niwrnod yn Neuadd y Sir dan faner Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion.

Bwriad y rhaglen yw rhoi’r llwyfan a’r gallu i bobl ifanc roi eu barn ar benderfyniadau allweddol ynghylch trefniadaeth a strategaeth fuddsoddi yn y maes ysgolion a’r modd y bydd yr awdurdod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ysgolion Caerdydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Yn ystod y rhaglen, mwynhaodd y Dylanwadwyr, sy’n dod o bob rhan o'r ddinas ac o gymysgedd o ysgolion cymunedol a ffydd cyfrwng Saesneg a Chymraeg, gyfres o ymarferion adeiladu tîm, archwilio'r ffactorau sy'n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau cynllunio, cymryd rhan mewn gweithdy cyfweld, archwilio i ymagweddau cyfredol a blaengar tuag at addysg ac ymweld â rhai tirnodau proffil uchel yn y ddinas, gan gynnwys stiwdios newydd y BBC a Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad ag ysgol newydd Fitzalan sy'n cael ei hadeiladu gan Kier ger stadiwm Dinas Caerdydd.  Yma, gwelsant sut mae ysgolion modern yn cael eu hadeiladu mewn ffyrdd newydd a gwahanol yn aml wrth i arferion addysg gael eu rhoi ar waith ac wrth i newidiadau mewn cymdeithas esblygu.

Ddiwedd yr wythnos, rhoddodd y Dylanwadwyr y cyfan roedden nhw wedi'i ddysgu ar waith mewn cyfres o gyfweliadau gyda'r Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg.

"Roedd yn ymarfer llwyddiannus iawn i'r tîm a roddodd yr wythnos at ei gilydd ac yn bleserus iawn," meddai Michele Duddridge-Friedl, a luniodd ac arwain y rhaglen. "Fe wnaethon ni archwilio llawer o ymagweddau gwahanol tuag at addysg ac fe wnaeth i ni sylweddoli pwysigrwydd dysgu digidol i'r myfyrwyr hyn, sut yr hoffen nhw gael mwy o ryddid a beth a sut y byddan nhw’n dysgu wrth symud ymlaen.

"Roedd y Dylanwadwyr yn glir am bwysigrwydd ysgolion fel llefydd i ryngweithio â'u cyfoedion ac nad yw dysgu'n dechrau na gorffen wrth gatiau'r ysgol. Fe wnaethon nhw rannu eu hawydd i elwa ar ystod ehangach o brofiadau yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol ynghyd â chais i gofleidio ymhellach y cyfleoedd a gyflwynir gan ddysgu digidol a rhithwir fel rhan o becyn addysg eang sy'n adlewyrchu faint o ddiwydiannau sydd wedi cofleidio technoleg a'r cynnydd cyflym a wnaed yn ystod y pandemig.

"Roedd yn agoriad llygad yn arbennig ar safle adeiladu Fitzalan lle gallon nhw weld sut mae ymagweddau newydd o ran addysg yn llunio'r ffordd y caiff ysgolion eu codi, a sut mae'r dulliau digidol modern a fabwysiadwyd gan y BBC yn ei gyfleusterau newydd wedi'u cynllunio i ymateb i'r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â chynnwys gweledol – roedden nhw’n gallu gweld sut fod y datblygiadau technolegol yn y cyd-destunau gwahanol hyn yn meddu ar y potensial i fod yn drosglwyddadwy i’r modd y gallem ninnau fod yn dysgu yn y dyfodol."

Fe wnaethon nhw hefyd ymchwilio i gyfleoedd posib yn sgil y rhyngrwyd, gydag un Dylanwadwr yn awgrymu y dylid ystyried y potensial i ganiatáu i ddisgyblion ddysgu ar eu cyflymder eu hunain a datblygu eu diddordebau eu hunain trwy ddefnydd o algorithmau.

Cafodd ei chalonogi bod y rhan fwyaf o fynychwyr yr ysgol haf am ymgysylltu â'r rhaglen yn y dyfodol, i ddechrau gyda chyfarfod arall ym mis Medi ac yn ddiweddarach i gael rhoi eu mewnbwn i gynigion byw yn ymwneud ag addysg i’w rhoi ger bron Cabinet y cyngor.

"Roedd hi'n galonogol clywed bod y Dylanwadwyr yn gwybod, fel oedolion sy'n gweithio i sicrhau newid, ein bod o ddifrif am roi llais iddyn nhw a gwrando ar eu barn ynghylch sut y bydd ein seilwaith addysg a'n darpariaeth yn esblygu," meddai.

Dwedodd un o'r Dylanwadwyr, Isra Zaman, 13 oed o Grangetown: "Dwi wedi dysgu llwyth o bethau wythnos yma ac mae wedi bod yn hwyl hefyd.  Gallwn i fod wedi diflasu adre ond yma rwy’ wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi dysgu cymaint am ein hysgolion ni nawr a faint o ymdrech ac arian sy'n mynd mewn i'w newid nhw. Dwi wedi cael lot o brofiadau gwahanol, gan gynnwys reid mewn cwch yn y Bae, ac wedi gweld pethau mewn ffordd wahanol."

Dwedodd ei ffrind, Ila Carroll, sydd hefyd yn 13 oed ac o Grangetown, ei bod wedi dod i sylweddoli yn ystod yr wythnos y dylid defnyddio ysgolion mwy y tu allan i'r diwrnod gwaith. "Rydyn ni'n meddwl y dylai'r cyngor adael i'r gymuned ddefnyddio ysgolion i wneud chwaraeon, dysgu ieithoedd a defnyddio'r cyfleusterau gydol y flwyddyn," ychwanegodd.

Dwedodd Tyrese Attard, 13 oed o Cathays, nad oedd yn gallu aros am gyfleoedd pellach i leisio ei farn. "Mae wedi bod yn wirioneddol llawn hwyl," ychwanegodd, "ac yn brofiad da. Dwi'n hoffi sut ry'n ni wedi cael ein cymryd o ddifrif ac wedi gallu dylanwadu ar ddyfodol addysg yng Nghaerdydd."

Canmolodd y Cynghorydd Merry y bobl ifanc am eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i'r rhaglen, a’r modd iddynt ei herio yn ystod y cyfweliadau. "Roedden nhw'n procio'r meddwl go iawn gan iddynt holi ystod eang o gwestiynau. Roedd y disgyblion yn frwdfrydig iawn ynglŷn â sut gall addysg helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac roedden nhw eisiau deall yr hyn sy’n fy symbylu i.

"Gadawodd fy rhieni'r ysgol pan oedden nhw'n 14 a 15 oed ac fe wnaeth hynny adael ei farc arnyn nhw drwy eu bywydau mewn gwahanol ffyrdd. Dyna pam rwyf am i bob person ifanc gael yr addysg orau ond hefyd i wybod bod yna wastad gyfleoedd i ddysgu hyd yn oed ar ôl iddyn nhw adael addysg ffurfiol.

"Mae angen i ni hefyd gydnabod yr holl rwystrau y mae'n rhaid i ddisgyblion eu goresgyn y tu allan i'r ysgol hefyd os ydym am iddynt gyflawni popeth allan nhw.

"Roedd hi’n drawiadol hefyd pa mor awyddus y maen nhw i ehangu mynediad i'r holl gyfleusterau sydd gan ein hysgolion newydd yn arbennig i'w cynnig."

"Mae rhaglen Dylanwadwyr Caerdydd yn un o'r ffyrdd y mae Cyngor Caerdydd yn gweithio i sicrhau y clywir llais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc drwy ddatblygu eu sgiliau, eu hannog a'u cefnogi i gymryd rhan yn siapio'r ddinas a sicrhau bod pobl yn cymryd eu barn nhw o ddifrif.

"Mae sicrhau bod yna amrywiaeth eang o gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'r penderfyniadau allweddol sy'n effeithio arnyn nhw yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau sy'n wirioneddol adlewyrchu eu hanghenion a'u dyheadau ac yn allweddol i gais y cyngor i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant ac y cydnabyddir hynny’n rhyngwladol.

"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw a'u cyfoedion ar sut rydyn ni am symud pethau ymlaen."

Os hoffech gael gwybod am gyfleoedd yn y dyfodol i fod yn rhan o 'bob peth yn ymwneud â bod yn Ddylanwadwr' anfonwch e-bost at y tîm yn ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk