The essential journalist news source
Back
23.
August
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 23 Awst 2022

Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 23 Awst 2022

Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: cyngor gyrfaoedd ac addysg; cau ffyrdd ar gyfer Pride Cymru; cefnogaeth I bobl ifanc y neu harddegau Wcráin; Mae heddiw yn Diwrnod Annibyniaeth Wcráin

 

Cymorth I benderfynu beth sydd nesaf I bobi ifanc

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy’n ystyried eu camau nesaf ar ol diwrnod canlyniadau Lefel A ddoe.

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i’r dyfodol.

Cafodd y llwyfan ei ddatblygu a’i lansio’r llynedd gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor sy’n dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â’r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu’r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29670.html

Er mwyn sicrhau y bydd pawb yn gallu mwynhau Pride Cymru 2022 yn ddiogel, caiff trefniadau cau ffyrdd eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad ac i hwyluso’r orymdaith.

Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, o 6am ddydd Mercher 24 Awst, bydd gwaelod Rhodfa'r Brenin Edward VII ar gau o'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas i lawr i'r gofeb ryfel.

O 6am ddydd Iau, 25 Awst, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

·       Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas-y-Parc

·       Rhodfa'r Amgueddfa o’r gyffordd â Heol y Coleg i lawr i Neuadd y Ddinas

·       Rhodfa'r Brenin Edward VII hyd at Adeilad Morgannwg

·       Heol Neuadd y Ddinas yn ei chyfanrwydd.

Wedi'r dathliadau, bydd y ffyrdd hyn yn y Ganolfan Ddinesig yn cael eu hailagor erbyn 6pm ar 30 Awst fan bellaf.

Ar ddiwrnod yr orymdaith - sef ddydd Sadwrn 27 Awst - bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

·       O 4am tan hanner dydd, bydd Plas Windsor, o'r gyffordd â Heol y Frenhines i'r gyffordd â Stuttgarter Strasse a Lôn Windsor ar gau yn ei chyfanrwydd

·       O 9am tan 2pm, bydd trefniadau cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas ar gyfer yr orymdaith, ond bydd Heol y Gogledd o Boulevard De Nantes i'r gyffordd â Rhodfa Colum hefyd ar gau. Bydd mynediad i fysus a phreswylwyr yn cael ei gynnal ar Heol y Porth.

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29705.html

Un o’n prif drysorau, Storey Arms, yn estyn croeso I ferched ifanc o Wcráin

Bu canolfan addysg awyr agored Storey Arms Cyngor Caerdydd ym Mannau Brycheiniog yn gartref i grŵp o ffoaduriaid Wcrainaidd o bob cwr o dde Cymru fel rhan o raglen a gynlluniwyd i roi sgiliau arwain i bobl ifanc.

Mae'r ganolfan, sy'n cynnal cyrsiau preswyl a dydd i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn, wedi helpu cenedlaethau o blant i ddarganfod rhyfeddodau cefn gwlad Cymru ers ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl.

Ym mis Awst, yn ystod gwyliau'r ysgol, cynhaliodd gyrsiau tair wythnos o hyd i Glybiau Rotari ar draws de Cymru. Bu tua 70 o bobl ifanc, rhwng 16 a 17 oed dan nawdd raglen Arweinyddiaeth Ieuenctid y Clybiau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys dringo Pen-y-Fan, ogofa, cerdded ceunentydd, canŵio ac adeiladu eu cychod eu hunain i badlo ar hyd Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy.

Er yr oedd y rhan fwyaf o'r bobl ifanc yn dod o Dde Cymru, roedd rhai'n dod o Loegr a phump yn ffoaduriaid o Wcráin, ac yn byw yng Nghymru gyda'u teuluoedd noddedig.

Darllenwch fwy yma:

www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29723.html 

Yfory ar gyfryngau cymdeithasol

 

🌻Mae heddiw yn Diwrnod Annibyniaeth Wcráin ac rydym yn goleuo Neuadd y Ddinas heno yn lliwiau Wcráin.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Wcrainiaid drwy bostio llun neu fideo gyda blodyn haul gan ddefnyddio #BlodauHaulI Wcráin #DrosHeddwch – fel yr un yma, a dyfwyd gan Glwb Blodau Haul Tredelerch!

Blodyn cenedlaethol Wcráin yw blodyn yr haul ond mae hefyd yn symbol o obaith yn y dyfodol.