The essential journalist news source
Back
18.
August
2022.
Canlyniadau Safon Uwch Caerdydd yn uwch na chyfartaledd Cymru ar gyfer 2022

18/08/22

Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau Lefel A neu Safon Uwch heddiw.  Eleni, fe wnaeth dysgwyr gwblhau arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers 2019 oherwydd y pandemig, ac mae CBAC wedi rhoi ystyriaeth i'r tarfu a brofodd dysgwyr wrth benderfynu ar ffiniau graddau.

Yn seiliedig ar y canlyniadau cychwynnol a gyhoeddwyd heddiw, mae 48.9 y cant o ganlyniadau Safon Uwch 2022 wedi eu graddio o A* i A, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 40.9 y cant, a ffigwr Caerdydd o 30.7 y cant yn 2019.

Mae canran y ceisiadau Safon Uwch sydd wedi arwain at raddau A* i C wedi codi i 88.4 y cant, cynnydd o 9.3 pwynt canran o 79.1 y cant yn 2019, ac yn uwch na ffigur Cymru o 85.3 y cant.

Ar gyfer y graddau A* i E, 98.1 y cant yw'r ffigur ar gyfer 2022, o gymharu â 98.0 y cant ar draws Cymru - ac yn fras yn gydradd â chanran Caerdydd yn 2019 o 98.2 y cant.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau wedi bod yn uwch nag yn 2019, pan safwyd arholiadau ffurfiol ddiwethaf, ac yn is nag yn 2020 a 2021 pan gafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a gasglodd eu canlyniadau heddiw. Eleni gwelwyd arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019, oherwydd y pandemig, a dylid canmol disgyblion am eu penderfyniad, eu dygnwch a'r modd y bu'n rhaid iddynt addasu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol, rwy'n falch o weld bod perfformiad ar draws y ddinas eleni i fyny ar yr hyn a welwyd yn 2019, y tro diwethaf i arholiadau Lefel A gael eu cynnal.

"Bydd y garfan hon yn cael ei chydnabod am lwyddo er gwaethaf yr heriau a'r tarfu a achoswyd gan y pandemig ac mae'n galonogol clywed am straeon llwyddiant o bob cwr o'r ddinas. Wrth iddyn nhw ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau, hoffwn ddymuno pob lwc i'n myfyrwyr boed nhw'n mynd yn eu blaenau i brifysgol, cyflogaeth neu i hyfforddiant."

 

Gwelodd Caerdydd dros 3680 o gofrestriadau ar gyfer Lefel A a mwy na 4230 o gofrestriadau ar gyfer Lefel A/S, gyda straeon llwyddiant yn dod o bob rhan o'r ddinas.

Ysgol Gyfun Radur

Rydym yn hynod falch o bob un o'n myfyrwyr, ond mae rhai perfformiadau nodedig yn cynnwys:

Fe gyflawnodd ein Prif Ddisgyblion Sam Jones ac Abbie Morgan 10 gradd A* rhyngddynt! Llwyddodd Sam i gael 5 gradd A* mewn Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Bagloriaeth Cymru, tra bod Abbie wedi cael 5 gradd A* mewn Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Bagloriaeth Cymru.

Madeline Cosulich a enillodd 4 gradd A*mewn Cyfrifiadureg, Mathemateg, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru.

Holly Chan a enillodd 4 gradd A* mewn Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Bagloriaeth Cymru ac A mewn Ffiseg.

Bethan Hunter a enillodd 4 gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru.

Emily Mardon a enillodd 5 gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Technoleg Gwybodaeth a Bagloriaeth Cymru.

Huw Riley a enillodd 5 gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg, Ffiseg a Bagloriaeth Cymru.

Gracie Silver a enillodd 4 gradd A* mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru

Enillodd Hannah Smith 4 gradd A* mewn Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru.

Elliot Vas a gafodd 4 gradd A* mewn Economeg, Ffrangeg, Hanes a Bagloriaeth Cymru.

Jessica Veale a enillodd 4 gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru

Dywed y pennaeth, Mr Andrew Williams "Rydym wrth ein bodd gyda'r set hon o ganlyniadau sy'n dangos pa mor anhygoel o galed y mae'r garfan hon a'n staff wedi gweithio o dan amgylchiadau anodd iawn.  Mae ein myfyrwyr blwyddyn 13 yn glod i Radur, i'w hunain a'u teuluoedd ac rydym yn dymuno'r gorau i bob un ohonynt wrth iddynt gychwyn ar y bennod nesaf yn eu bywydau."

Ysgol Uwchradd Cantonian

Mae disgyblion, rhieni a staff Ysgol Uwchradd Cantonian yn dathlu canlyniadau rhagorol Safon Uwch heddiw gyda 93% o ddisgyblion yn sicrhau eu dewis cyntaf yn y Brifysgol. 

Dwedodd y Pennaeth, Diane Gill, "Rydw i unwaith eto'n hynod o falch o gyflawniadau pob un o'n disgyblion heddiw. Gydol y flwyddyn mae ein disgyblion wedi gweithio'n galed i sicrhau y graddau gorau posib y gallent a heddiw mae'r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Rwy'n falch iawn bod ein holl ddisgyblion wedi sicrhau lleoedd yn y brifysgol o'u dewis lle byddant yn parhau â'u hastudiaethau ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt i'r dyfodol.

Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'n holl rieni am eu cefnogaeth barhaus ac i'r staff am eu gwaith caled a'u hymroddiad sydd wedi galluogi ein disgyblion ac Ysgol Uwchradd Cantonian i sicrhau'r canlyniadau rhagorol hyn."

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae rhai straeon newyddion da yn cynnwys Abir Hussain- er iddo ymuno â'r ysgol yn hwyr ac oherwydd Covid wedi treulio'r rhan fwyaf o'i flwyddyn gyntaf yn astudio astudiaethau cyfrifiadurol ar-lein wedi ennilltair A a B mewn Astudiaethau Cyfrifiadurol, Astudiaethau Busnes, Bagloriaeth Cymru a Mathemateg.

Profodd Alex Loi orbryder oherwydd ei awtistiaeth.  Trosglwyddodd i Ysgol o Gymunedol y Gorllewin o goleg arall ar ôl clywed am amgylchedd tawel a staff cefnogol yr ysgol. Mae wedi dangos cryn benderfyniad ac wedi gweithio gyda staff i wneud cynnydd eithriadol i gael tair gradd C mewn Astudiaethau Busnes, Cymdeithaseg a Bagloriaeth Cymru

Azan Sheikh yw enillydd ysgoloriaeth CAER gan Brifysgol Caerdydd. Dyma ysgoloriaeth arbennig sy'n gysylltiedig â phartneriaeth yr ysgol â Phrifysgol Caerdydd fel rhan o brosiect treftadaeth CAER.

Dwedodd y Pennaeth Martin Hulland: "Roeddem yn falch iawn o roi canlyniadau eu harholiadau i fyfyrwyr Ôl-16 heddiw. Pleser oedd gweld yr hyfrydwch ar wynebau'r myfyrwyr wrth iddynt dderbyn eu graddau. Mae bron pob disgybl wedi llwyddo i sicrhau eu dewis cyntaf yn y Brifysgol."

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr sydd wedi ymgeisio am gyrsiau Addysg Uwch wedi cael eu derbyn i'w dewis cyntaf o ran Prifysgolion, ac mae canran uchel ohonynt yn Brifysgolion Grŵp Russell. 

Yn ôl neges gan y Pennaeth John Hayes, "Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr Blwyddyn 13 am eu llwyddiant haeddiannol yn eu harholiadau Tystysgrif Safon Uwch, BTEC a Her Sgiliau a'u cymwysterau eleni. Mae'r canlyniadau rhagorol a gafwyd yn deyrnged i'w gallu, ymdrech, ymroddiad a dyfalbarhad dros y ddwy flynedd heriol ddiwethaf. Rydym yn hynod falch o gyrhaeddiad pob un o'n myfyrwyr. Dymunwn yn dda i bob myfyriwr wrth iddynt symud ymlaen i'r cyfnod cyffrous nesaf yn eu bywydau. 

"Rwy'n ddyledus i fy staff am baratoi eu myfyrwyr cystal ar gyfer eu cymwysterau Safon Uwch, y Tystysgrif Her Sgiliau a'r BTEC ac sy'n cymryd cymaint o falchder yng nghyflawniadau eu myfyrwyr."

Ysgol Uwchradd Fitzalan 

Mewn datganiad gan yr ysgol, dwedodd llefarydd: "Mae staff Fitzalan a'r llywodraethwyr wrth eu bodd gyda'n Canlyniadau Lefel A ac AS. Ar ôl 3 blynedd heriol iawn, wynebodd staff a disgyblion y gyfres arholiadau hon gydag agwedd benderfynol, gadarnhaol a gallant fod yn haeddiannol falch o'u canlyniadau.

"Mae'r canlyniadau wedi rhagori ar ein disgwyliadau gyda mwyafrif y disgyblion yn gallu symud ymlaen i'w dewis cyntaf o ran prifysgolion eu lwybrau amgen. Mae'r canlyniadau Uwch Gyfrannol hefyd yn wych ac yn argoeli'n dda iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Da iawn chi a diolch mawr i'r staff addysgu a'r staff cefnogi am gadw ein disgyblion yn ganolbwynt i bopeth, bob amser."

Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae canlyniadau ym mhob llwybr yn gryf iawn, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael mynediad at alwedigaethau gwerth chweil, dechrau i'w gyrfa a lleoedd mewn prifysgolion. Mae llawer o ddisgyblion wedi llwyddo i gael lle mewn ystod o brifysgolion Grŵp Russell i ddilyn ystod eang o gyrsiau gradd.

Cafodd 16 o fyfyrwyr o leiaf 3 A* a graddau A, gan gynnwys tri myfyriwr sy'n aelodau o'n Canolfan Anhwylderau Sbectrwm Awtistig.
Mae dros 70% o'r garfan yn dechrau ar eu taith i brifysgolion sy'n cynnwys Rhydychen, Manceinion, Lerpwl, Abertawe, Birmingham, Efrog, Caerwynt ac UCL Llundain i enwi ond ychydig.

Gyda 4 gradd A*, mae Thomas Newman yn mynd i Goleg Newnham, Rhydychen i astudio'r Gyfraith.  Mae Dayyan Sheikh yn dathlu ennill lle yn UCL i astudio Peirianneg Fiofeddygol. Mae Jessica Symons yn dathlu mynd i Gaerfaddon i astudio Theatr Gerdd. Mae Klaudia Galas yn dathlu ei bod ar ei ffordd i Goleg Caerdydd a'r Fro ar gwrs dilyniant sgiliau sy'n arwain at godi waliau a phlastro.

Beth Nesaf? 

Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Mae Beth Nesaf? yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Cafodd y llwyfan ei ddatblygu a'i lansio'r llynedd gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu'r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.

Mae animeiddiad byr am lwyfan Beth Nesaf? ar gael i'w wylio yma https://youtu.be/xncskRbUm2Q 

Ewch i'r llwyfan yma:www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Canllawiau gwella ysgolion 2022

Ym Mai 2022, lansiwyd yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella gan Lywodraeth Cymru a'i fwriad yw cefnogi ysgolion gyda hunan-werthuso a gwella, sy'n sylfaenol i effeithiolrwydd ysgolion. Nod yr adnodd cenedlaethol hwn yw cefnogi pob ysgol i ddatblygu a defnyddio ystod o ddulliau ac adnoddau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob dysgwr yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.  Mae Categoreiddio Cenedlaethol, a chyhoeddi mesurau perfformiad ysgolion, Awdurdod Lleol a pherfformiad Cenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy arolygiadau Llywodraethu Ysgolion ac Estyn. Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i'r dull arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu fydd yn gweld dileu graddau crynodol ac ychwanegu trosolwg allweddol o ganfyddiadau yn canolbwyntio ar gryfderau a meysydd datblygu ysgol. Mae eu fframwaith arolygu hefyd yn cefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru, o fis Medi 2022.

Yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, mae canllawiau gwella ysgolion, a ddaeth i rym ar sail anstatudol o ddyddiad y cyhoeddi, yn nodi sut mae'n rhaid cynllunio trefniadau i asesu dilyniant fel rhan o'r cwricwlwm newydd, gyda'r gofynion bod pob ysgol yn eu cynnwys ar gyfer pob dysgwr: asesiad parhaus gydol y flwyddyn ysgol er mwyn asesu cynnydd; nodi'r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesiad o'r dysgu a'r addysgu sydd ei angen er mwyn helpu i sicrhau'r cynnydd hwnnw.