The essential journalist news source
Back
29.
July
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 29 Gorffennaf 2022

Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k; gwnaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd 'gynnydd trawiadol', medd Estyn; a allwch chi wneud addewid i helpu i ddenu gwenyn i Gaerdydd?

 

Caerdydd i elwa o fentrau Strydoedd Diogelach newydd gwerth £750k

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd wedi cael £750,000 gan y Swyddfa Gartref i ddarparu cyfres o fentrau sydd â'r nod pennaf o gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas ac mewn rhai ardaloedd preswyl yn Cathays.

Daeth y bartneriaeth, sy'n cynnwys sefydliadau fel Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill, at ei gilydd i ddatblygu cais sy'n adeiladu ar fentrau presennol ac yn cyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch menywod, troseddau mewn cymdogaethau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ymhlith y mentrau fydd yn cael eu hariannu drwy'r cais llwyddiannus mae:

  • Ehangu prosiect Bws Diogelwch Heddlu De Cymru sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn economi'r nos
  • Pwyntiau Help Stryd - intercoms mewn tri lleoliad allweddol gan gynnig i drigolion sy'n teimlo dan fygythiad neu'n anniogel fynediad uniongyrchol i'r heddlu a gweithwyr brys
  • Camerâu teledu cylch cyfyng newydd ar strydoedd y ddinas, gan gynnwys Parc Bute
  • Goleuadau wedi'u diweddaru mewn tanffyrdd wedi'u targedu
  • Cefnogi'r gwaith o gyflwyno Siarter Diogelwch Menywod Caerdydd a chynyddu nifer y 'Lleoedd Diogel' yn y ddinas lle gall pobl ofyn am gymorth a lloches os ydynt yn teimlo dan fygythiad neu wedi'u dychryn

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai a Chymunedau ei bod wrth ei bodd bod cais Caerdydd ar gyfer y rownd ddiweddaraf o arian Strydoedd Diogelach wedi bod yn llwyddiannus. "Y grŵp datblygu ceisiadau sy'n gyfrifol am y llwyddiant hwn. Mae'r grŵp yn cynnwys pobl allweddol o asiantaethau cyngor, yr heddlu, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Caerdydd AM BYTH [sy'n cynrychioli 750 o fusnesau'r ddinas] a Chyngor Trydydd Sector Caerdydd, sy'n cynnwys elusennau a grwpiau gwirfoddol.

"Gyda'i gilydd, dewison nhw ganolbwyntio ar ddiogelwch menywod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn economi'r nos a llwybrau adref. Yna, cafodd cysylltiadau eu gwneud gyda Chymorth i Fenywod Caerdydd, ein prifysgolion a grwpiau eraill sydd â chysylltiadau cryf â'r gymuned.

"Drwy'r holl fentrau hyn, rhai newydd a rhai sydd eisoes ar waith, ein nod yw gwneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU i bobl gymdeithasu, gweithio a theithio heb deimlo dan fygythiad na chael eu haflonyddu."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29555.html

 

Gwnaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd 'gynnydd trawiadol', medd Estyn

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Bryn Celyn ym Mhentwyn wedi eu canmol gan Estyn, yr arolygwyr addysg yng Nghymru, am wneud cynnydd trawiadol yn eu dysgu eleni - er gwaetha'r pandemig.

Dywedodd yr arolygiad, a gynhaliwyd ym mis Mai, fod yr ysgol yn rhoi "dechrau cryf mewn bywyd" i'w disgyblion a chanfu fod athrawon, staff a llywodraethwyr yn gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhieni, y gymuned a Chyngor Caerdydd i helpu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn ystod eu bywydau.

Canfu hefyd fod gan yr ysgol, y mae 74% o'i 193 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a bron traean nad Saesneg yw eu prif iaith, arweiniad cryf gyda'r pennaeth yn gweithio gyda thîm ymrwymedig o athrawon a staff cymorth.

"Mae mwyafrif y disgyblion yn awyddus i ddysgu, yn ymddwyn yn dda iawn, yn dangos lefel uchel o barch at eu cyfoedion a'u oedolion yn yr ysgol ac mae ganddynt farn glir am yr hyn maen nhw eisiau ei gyflawni," meddai'r adroddiad. "Maen nhw'n gweithio'n galed yn yr ysgol, gan ddyfalbarhau i gwrdd â'r heriau y mae eu hathro yn eu gosod... mae'r berthynas rhwng staff a disgyblion yn rhagorol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29560.html

 

Allwch chi wneud addewid i helpu i ddenu gwenyn i Gaerdydd?

Ymunwch â'r genhadaeth i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n dda i beillwyr drwy wneudAddewid Peillwyr Urban Buzz.

Mae'r bartneriaeth Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd yn gofyn i bobl wneud yr addewid i helpu i wneud Caerdydd yn ddinas lle gall peillwyr a phryfed eraill ffynnu.

Mae pryfed peillio megis gwenyn, pili-palaod a phryfed hofran angen ein help ni. Nid oes digon o flodau gwyllt yn ein trefi a'n cefn gwlad, ond drwy gynyddu'r mannau gwyrdd yng Nghaerdydd sy'n llawn blodau gwyllt, gall poblogaethau peillwyr lleol adfer.

Gallwn ni i gyd wneud rhywbeth dros fywyd gwyllt ni waeth pa mor fach yw'n mannau awyr agored. P'un a oes gennych flwch ffenestr, gardd fach, neu ofod llawer mwy, mae llawer o syniadau ar gaelyma.

Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ymuno â'n cenhadaeth i helpu Caerdydd i ddod yn ddinas sy'n dda i beillwyr ac ennill statwsCaru GwenynLlywodraeth Cymru.

Bydd ein holl ymdrechion gyda'i gilydd yn creu rhwydwaith o flodau a dinas fydd yn sïo o fywyd gwyllt!

Cofrestrwch heddiw:https://www.caerdyddgwyllt.org/adduned-peillwyr-buzz-trefol 

Mae Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd yn brosiect partneriaeth sy'n cael ei ddarparu gan RSPB Cymru, Cyngor Caerdydd a Buglife Cymru. Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.