The essential journalist news source
Back
22.
July
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 22 Gorffennaf 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Disgybl Ysgol Gynradd Pontprennau yn torri record; sut i ddod o hyd i weithgareddau am ddim neu am gost isel yng Nghaerdydd yr haf hwn; ymgyrch Cyflog Byw yn ennill anrhydedd genedlaethol; a bydd rhaglen lwyddiannus Bwyd a Hwyl yn cyrraedd mwy o blant nag erioed yr haf hwn

 

Disgybl yn Ysgol Gynradd Pontprennau yn torri record byd am enwi gwledydd ac arian cyfred

Mae disgybl Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Pontprennau wedi creu hanes drwy ddod y person ieuengaf i adrodd prifddinasoedd ac arian cyfred pob un o 195 gwlad y byd, yn hyderus ac yn gyflymach nag erioed, mewn 7 munud a 15 eiliad.

Enillodd Anne Winston, sy'n wyth oed, y record byd mewn digwyddiad wedi'i ffrydio'n fyw a drefnwyd gan OMG Book of World Records.

Pan oedd Anne yn dair oed, ac yn teithio i'r feithrinfa ac oddi yno ac yna'n ôl ac ymlaen i'r ysgol, byddai ei thad yn sôn wrthi am holl wledydd gwahanol y byd. Dyma daniodd ei hawydd i ddysgu mwy am y prifddinasoedd a'u harian, a dros gyfnod o bedair blynedd, dysgodd Anne ei hun amdanyn nhw.

Wrth ddisgrifio'r broses, dywedodd Anne; "Roedd fy nysgu'n eithaf hamddenol i ddechrau, a byddwn i'n treulio 15 - 20 munud yr wythnos yn dysgu set newydd o brifddinasoedd ac arian cyfred. Tua'r diwedd, roeddwn i'n ymarfer bob dydd."

Ychwanegodd; "Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cyflawni'r record byd hon a wnes i fel teyrnged i fy nhad-cu hyfryd fu farw'n ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd fy ymgais yn ysbrydoli llawer o blant eraill ledled y byd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Hoffwn ddiolch i fy nheulu cyfan, athrawon, ffrindiau a phawb sydd wedi dymuno'n dda ac sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nhaith i wneud hyn yn bosibl."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29486.html

 

Sut i ddod o hyd i weithgareddau am ddim neu am gost isel yng Nghaerdydd yr haf hwn

Mae syniadau am bethau y gall plant a phobl ifanc eu gwneud yng Nghaerdydd dros yr haf bellach ar gael ar ein gwefan.

Ar gael drwy ddolen arbennig ar hafan gwefan y Cyngor -www.caerdydd.gov.uk- mae'r wybodaeth yn cynnwys manylion y ddarpariaeth drwy ŵyl Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, gyda Llywodraeth Cymru.

Mae dolenni hefyd i ble y gallwch chi gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n digwydd yn eich cymdogaethau, yng nghanol y ddinas, yn y bae ac yn ein parciau a'n mannau gwyrdd.

Maemap rhyngweithiolar gael ar y dudalen we hefyd, yn nodi'r gweithgareddau niferus sy'n digwydd ledled y ddinas.

I gael gwybod mwy, ewch i:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Hamdden-parciau-a-diwylliant/Digwyddiadau/haf-o-hwyl/Pages/default.aspx

 

Ymgyrch Cyflog Byw yn ennill anrhydedd cenedlaethol cynghorau

Mae ymrwymiad Cyngor Caerdydd i dalu'r Cyflog Byw i'w weithwyr ac annog cyflogwyr i ddilyn eu hesiampl wedi ennill anrhydedd genedlaethol i Bartneriaeth Dinas y Cyflog Byw.

Yng ngwobrau mawreddog y Cronicl Llywodraeth Leol, a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor Llundain yr wythnos hon, enillodd y cyngor yn y categori Partneriaeth Gyhoeddus/Preifat.

Wrth wneud y wobr, dywedodd y beirniaid fod cynnig y cyngor yn dangos angerdd ac ymrwymiad gyda dull cyngor cyfan trawiadol, gan ychwanegu: "Mae'n amlwg ei fod wedi adeiladu momentwm dros nifer o flynyddoedd, i'r graddau bod clymblaid glir ac eang o baramedrau'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

"Mae wedi datblygu momentwm trawiadol sydd wedi helpu i ennyn mwy o annibyniaeth a lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus."

Gwnaeth y cyngor ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw (£9.90 yr awr ar hyn o bryd) dros 10 mlynedd yn ôl ac mae wedi arwain y ffordd yng Nghymru a'r DU wrth hyrwyddo'r Cyflog Byw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29522.html

 

Mwy o blant nag erioed i gael prydau a chwaraeon am ddim yr haf hwn wrth i Gaerdydd ymateb i gostau byw uwch

Bydd rhaglen lwyddiannus Caerdydd Bwyd a Hwyl yn cyrraedd mwy o blant nag erioed yr haf hwn, gan helpu i leddfu'r pwysau ariannol ar lawer o deuluoedd ledled y ddinas yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol sy'n darparu prydau maethlon iach ochr yn ochr â chyfleoedd i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dysgu sgiliau newydd, yn cael ei chyflwyno eleni i 29 o ysgolion Caerdydd, sy'n golygu y bydd mwy na 1500 o blant a phobl ifanc yn cael mynediad i'r ddarpariaeth.

Bydd y rhaglen gyffrous o ddarpariaeth addysgol, sgiliau a chwaraeon yn cael ei chyflwyno gan nifer o bartneriaid ledled y ddinas gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cefnogi'r sesiynau addysg maeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw presennol ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer mwy, yn enwedig gyda'r baich ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil gwyliau'r ysgol chwe wythnos."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29526.html