The essential journalist news source
Back
13.
July
2022.
Ychwanegwch eich llais ieuenctid i drafod dyfodol ysgolion Caerdydd

13.07.22
Weithiau gall y byd ymddangos fel ei fod yn cael ei redeg gan oedolion ar gyfer oedolion... tra bod y bobl ifanc sy’n ffocws y dyfodol naill ai'n cael eu hanwybyddu neu mae eu barn yn cael ei gwrthod yn gyfan gwbl.

Nawr, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio newid y canfyddiad hwn trwy roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan uniongyrchol yn y ffordd y caiff addysg y ddinas ei llunio dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Pŵer i’r Bobl: Rhaglen Dylanwadwyr Caerdydd 2022 yn fenter newydd gyda’r nod o sefydlu fforwm o bobl ifanc yn eu harddegau iau o bob rhan o'r ddinas a rhoi llwyfan iddynt a'r gallu i lunio strategaeth a dylanwadu ar sut bydd yr awdurdod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn addysg ledled y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau’r Cyngor, "Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae'r rhaglen Dylanwadwyr yn cyd-fynd yn agos â hynny.

"Rydym am glywed barn pobl ifanc, sy’n hanfodol cyn i'r penderfyniadau mawr gael eu gwneud," ychwanegodd. "Mae hynny'n golygu eu cael nhw i gymryd rhan o'r dechrau mewn materion fel sut a ble mae adeiladau ysgolion yn cael eu codi a beth ddylai fod ar y cwricwlwm."

Mae'r Cyngor am recriwtio tua 30 o bobl rhwng 13 a 14 oed i'r cynllun a fydd yn dechrau gydag ysgol haf wythnos o hyd yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd o ddydd Llun 15 Awst i ddydd Gwener, 19 Awst. Darperir cinio am ddim bob dydd, ynghyd â chludiant i'r rhai sydd ei angen.

Bydd uchafbwyntiau'r wythnos yn cynnwys:

  •  Taith o amgylch safle adeiladu Ysgol Fitzalan
  • Taith o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd a stiwdios newydd y BBC
  • Gweithdy cyfweld ymchwiliol a gyflwynir gan newyddiadurwyr arbenigol
  • Seremoni wobrwyo i gydnabod llwyddiannau'r cyfranogwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Merry: "Gall y rhai sy'n ymuno â'r cynllun gymryd rhan yn yr ysgol haf yn unig ond rydym yn gobeithio y bydd llawer yn dewis parhau drwy gydol y flwyddyn. Mae gennym ddigwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer hanner tymor mis Hydref a mis Chwefror pan fyddwn yn dadansoddi strategaeth addysg y cyngor ac yn ystyried y blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol o ran sut rydym yn gwario mwy na £250m yn ein hysgolion."

Er mwyn sicrhau cyfansoddiad amrywiol o'r grŵp, gofynnwyd i bob ysgol ledled y ddinas hyrwyddo'r rhaglen i'w disgyblion ac mae grwpiau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymdeithasol hefyd wedi cymryd rhan mewn recriwtio aelodau fforymau.

Ond gwahoddir pobl ifanc hefyd i gynnig cymryd rhan yn y rhaglen trwy lenwi ffurflen ar y wefan hon – https://tinyurl.com/4vr73ct6