The essential journalist news source
Back
12.
July
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 12 Gorffennaf 2022

Croeso i'n newyddion diweddaraf, yn cynnwys: gwaith ailwynebu ffyrdd carbon niwtral yng Nghaerdydd, y cyntaf yng Nghymru; Buddsoddiad o £1.3m i leihau defnydd ynni mewn ysgolion; myfyrwyr o Willows High yn bencampwyr siarad cyhoeddus 2022.

 

Caerdydd yn cwblhau rhaglen carbon niwtral gyntaf ar gyfer ailwynebu ffyrdd Cymru

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud y gwaith cyntaf i roi wyneb newydd ar ffyrdd carbon niwtral yng Nghymru.

Mae ychydig o dan 13,000m2 o Northern Avenue, o ffordd ymadael yr M4 i Curlew Close, wedi cael wyneb newydd gan ddefnyddio agregau Slag Steel sy'n arbed mwy na 50% mewn costau carbon o gymharu â defnyddio agregau crai mewn 'cwrs arwyneb' confensiynol.

Bydd y carbon sy'n weddill a grëwyd yn y gwaith ail-wynebu yn cael ei wrthbwyso gan ddefnyddio Cynllun Carbon wedi'i Ddilysu (VCS) - sy'n atal datgoedwigo pellach ym Mrasil - a thrwy blannu 100 o lasbrennau yn y ddinas i gydnabod y cynllun.

Gan weithio'n agos gyda'n contractwr Miles Macadam, mae'r rhan hon o Northern Avenue wedi cael wyneb newydd gan greu 53 tunnell o garbon, o'i gymharu â 104 tunnell a fyddai wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio deunydd cymysgedd poeth ac agregau naturiol.

Yr ôl troed carbon i gludo deunyddiau ar ac oddi ar y safle oedd 8 tunnell, o'i gymharu â 17 tunnell o garbon a fyddai wedi'i gynhyrchu i chwarela'r garreg o ymhellach i ffwrdd, gan arbediad carbon cyffredinol o 50.4%.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae'r cyngor wedi ymrwymo i fod yn gyngor carbon niwtral erbyn 2030, drwy ein Strategaeth Un Blaned.

"Newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed a rhaid cymryd camau i leihau faint o garbon sy'n cael ei gynhyrchu yn ein bywydau bob dydd.  Fel cyngor, rydym wedi asesu ôl troed carbon ein holl wasanaethau a gweithrediadau, felly gellir cymryd camau i'w leihau'n sylweddol er mwyn cyrraedd ein nod carbon niwtral."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29392.html

 

Buddsoddiad gwyrdd o £1.3 miliwn yn ysgolion Caerdydd i leihau'r defnydd o ynni

Mae Cyngor Caerdydd wedi buddsoddi dros £1.3 miliwn mewn arbed ynni ar draws 11 o'i ysgolion cynradd, uwchradd ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) , fel rhan o'i waith i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Disgwylir i'r mentrau leihau allyriadau carbon gweithredol y Cyngor yn sylweddol hyd at 20% ar draws yr 11 safle - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Ysgol Gynradd Glyncoed, Ysgol Gynradd Hywel Dda, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinas Llandaf, Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Uwchradd Illtud Sant, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn - yn ogystal ag arbed tua £185,000 y flwyddyn.

Bydd disgyblion yn dysgu am fuddion y gwaith gan gynnwys goleuadau gwell a buddion iechyd o waredu'r goleuadau fflwroleuol presennol drwy sesiynau ymgysylltu a gynllunnir â thimau eco'r ysgolion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ysgolion yw rhai o'r defnyddwyr ynni mwyaf yn ein hystâd felly mae uwchraddio technolegau ynddynt yn rhan bwysig o'n strategaeth lleihau ynni. Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, parhau i fuddsoddi yn y mathau hyn o brosiectau, gan barhau i wneud ein dewisiadau ynni mor glyfar â phosibl, yw'r peth iawn i'w wneud."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29376.html

 

Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei choroni'n bencampwr Cwpan DebateMate 2022!

Mae'r ddadl ynghylch pa ysgol o Gaerdydd fyddai'n ennill Cwpan DebateMate eleni ar ben, gydag Ysgol Uwchradd Willows yn cael ei choroni'n bencampwr ar gyfer 2022.

Mae myfyrwyr o'r ysgol yn Nhremorfa wedi bod yn cymryd rhan yn y rhaglen drafod 12-wythnos i ysgolion a gyflwynwyd gan DebateMate gydag wyth ysgol arall yn y ddinas. Noddwyd y fenter gan FinTech Wales a thîm Cyfoethogi Caerdydd ac Addewid Caerdydd Cyngor Caerdydd.

Arweiniodd y rhaglen 12-wythnos at ddadl pen-wrth-ben yn Stadiwm Principality lle bu disgyblion o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Campws Cymunedol Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd Fitzalan yn trafod pynciau fel 'This House Supports A Cashless Society' a 'This House Believes That Sports Personalities Should Declare Their Opinions On Key Social Issues'.

Gwnaeth Ysgol Uwchradd Willows a Champws Cymunedol Ysgol Uwchradd y Dwyrain gyrraedd y rownd derfynol, gan drafod y pwnc ‘This House Believes Technology Has Done More To Disconnect Than Connect'. Aeth Tîm Willows, sydd â phedigri dadlau cryf gyda'r disgyblion presennol Marzooq Subhani a Crystal Tran yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU mewn cystadleuaeth drafod yn Dubai yn gynharach eleni, ymlaen i ennill Cwpan DebateMate 2022!

Roedd y disgybl Blwyddyn 11, Marzooq, yn rhan o dîm buddugol Cwpan DebateMate 2022, ynghyd ag Aiden Barrett, Inaaya Chowdhury a Carmen Haile, sydd i gyd ym Mlwyddyn 9.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29379.html