The essential journalist news source
Back
8.
July
2022.
Galw ar Lyfr-bryfed Caerdydd – Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl!


8/7/22 

Mae Sialens Ddarllen boblogaidd yr Haf yn ôl yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd eleni fel rhan o Haf o Hwyl sy'n ceisio ysbrydoli plant yn y ddinas i ddysgu mwy am wyddoniaeth ac arloesedd.

 

Mae'r her yn rhan o haf llawn hwyl o weithgareddau a digwyddiadau yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd. Eleni bydd bonws ychwanegol gyda mwy o weithgareddau a digwyddiadau'n cael eu cynnal fel rhan o Brosiect Teclynwyr y rhaglen Haf o Hwyl a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r Teclynwyr hefyd yn thema Sialens Ddarllen yr Haf ac unwaith eto gall plant gofrestru a darllen chwe llyfr o'u dewis eu hunain, a chael llawer o hwyl, dros fisoedd yr haf.

 

Bydd chwe chymeriad ffuglennol - teclynwyr - sy'n dod yn fyw gyda help yr awdur a'r darlunydd plant Julian Beresford - yn defnyddio eu chwilfrydedd a'u synnwyr rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i amrywiaeth eang o ddiddordebau, o ffasiwn a thechnoleg i goginio a cherddoriaeth.

 

Bydd hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni, a gyflwynir ganThe Reading Agency ac sy'n cael ei darparu gan lyfrgelloedd a hybiau cyhoeddus ledled y wlad bob blwyddyn, ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf, gyda llawer o weithgareddau hwyl. Yn Rhiwbeina, tra bod y llyfrgell yn cael ei hailddatblygu, cynhelir y parti lansio ddydd Gwener, 8 Gorffennaf yng Nghanolfan Beulah. Ewch iwww.hybiaucaerdydd.co.uki weld be sy' mlaen

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd hwyl o gymell plant i barhau i ddarllen dros wyliau'r ysgol i gynnal eu sgiliau llythrennedd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, prin fu'r cyfleoedd i ddathlu'r sialens fel yr hoffem, felly rwy'n falch iawn y bydd ein hybiau a'n llyfrgelloedd eleni yn gallu cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â phlant a theuluoedd yn ôl i'n cyfleusterau rhagorol.

 

"Cymerodd dros 3,000 o blant ran yn y sialens y llynedd ond hoffem roi hwb sylweddol i'r niferoedd hynny, felly rwy'n annog pob plentyn 4 i 11 oed yn y ddinas i gofrestru, darllen a chael Haf o Hwyl gwych gyda ni."

 

Ar ôl cofrestru, bydd plant yn gallu casglu sticeri, nodau tudalen a chardiau casglwyr wrth iddynt weithio eu ffordd drwy eu chwe llyfr. Bydd pawb sy'n cwblhau'r sialens hefyd yn cael tystysgrif a medal.

 

Mae'n hawdd cofrestru, galwch heibio i'ch llyfrgell neu'ch hyb lleol neu cofrestrwch ar-lein yma:https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/

 

 

Yn dilyn llwyddiant y Gaeaf Llawn Lles,unwaith eto, bydd gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd yn gweithio gyda The Reading Agency i ddarparu Prosiect Teclynwyr - rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar les a datblygiad plant fel rhan o Haf o Hwyl 2022 a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.