The essential journalist news source
Back
5.
July
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 05 Gorffennaf 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: haf o hwyl i blant a phobl ifanc Caerdydd; newid dros dro i'r gwasanaeth: cofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau; a partneriaeth busnes yn talu ar ei ganfed i gymuned rhandiroedd.

 

Haf o Hwyl i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd

Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd gŵyl Haf o Hwyl yn cael ei chynnal i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau'r haf. 

Mae rhaglen Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 0-25 oed ledled y ddinas rhwng mis Gorffennaf a Medi. Mae ein Tîm Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cydlynu'r rhaglen sydd â'r nod o gefnogi cenedlaethau'r dyfodol yng Nghaerdydd gyda'u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf.

Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant Caerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. Mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae'n bwysig ein bod yn parhau â'n hymrwymiad i ail-ymgysylltu plant a phobl ifanc Caerdydd â'u dinas wrth roi gwên ar eu hwynebau a chynnig cyfleoedd newydd i ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau a theulu."

Bydd Haf o Hwyl yn cwmpasu'r canlynol:

                     Gŵyl bythefnos ar Lawnt Neuadd y Ddinas

                     Gweithgareddau ledled y ddinas

                     Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol wedi'i churadu gan Actifyddion Artistig

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29364.html

 

Newid dros dro i'r gwasanaeth: Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau

Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn gan fod nifer uchel o staff yn absennol oherwydd Covid-19.

Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb i gofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r ffurflen gyswllt ar wefan Swyddfa Gofrestru Caerdydd, neu drwy e-bost.

Ar gyfer ymholiadau am dystysgrifau, ewch i:https://www.cardiffregisteroffice.co.uk/cy/dystysgrifau/

Neu e-bostiwchymholiadau.tystysgrif@caerdydd.gov.uk

(Sylwch nad yw'r gwasanaeth blaenoriaeth 24 awr wedi'i warantu ar hyn o bryd)

Gellir cael copïau o dystysgrifau'n uniongyrchol hefyd gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol, yma:

https://www.gro.gov.uk/gro/content/certificates/contact_us.asp

Ar gyfer ymholiadau am Ddinasyddiaeth, anfonwch e-bost at:dinasyddiaeth@caerdydd.gov.uk

Am ymholiadau ynghylch cofrestriadau genedigaethau neu farwolaethau, e-bostiwchcofrestryddion@caerdydd.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau am briodasau, e-bostiwch:seremoniau@caerdydd.gov.uk

 

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a'n nod yw dychwelyd i wasanaeth llawn cyn gynted â phosibl.  Dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

 

Partneriaeth busnes yn talu ar ei ganfed i gymuned rhandiroedd Caerdydd

Mae grŵp o ddeiliaid rhandiroedd yn un o faestrefi Caerdydd wedi troi tir gwastraff yn ddarpar werddon diolch i fisoedd o waith caled... a haelioni cwmni deunyddiau adeiladu.

Yn gynharach eleni, gyda galw mawr am leiniau bob amser, dechreuodd y garddwyr yn rhandiroedd Pafiliwn Pengam yn Nhremorfa weithio i glirio mwy na hanner erw o lwyni a phrysgwydd sydd wedi gordyfu ar gyrion eu safle yn y gobaith o greu mwy o le.

Roedd yn waith caled, ond o dan arweiniad y pwyllgor, fe wnaethant lwyddo i adfer y tir cyn edrych o gwmpas am gymorth ariannol i gwblhau'r gwaith a chreu 24 o 'berciau' yn barod i arddwyr newydd gymryd yr awenau.

"Ar ôl i'r tir gael ei glirio, fe wnaethom wahodd Cyngor Caerdydd i ddod i edrych ar yr hyn yr oeddem wedi'i wneud," meddai Tracey Woodberry, ysgrifennydd y gymdeithas rhandiroedd.  "Gwnaeth gymaint o argraff arnyn nhw nes iddyn nhw ein hargymell ar gyfer grant o gronfa a sefydlwyd gan Travis Perkins."

Cyfrannodd y cwmni, sy'n gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ar brosiectau adeiladu, werth tua £25,000 o ddeunyddiau, offer a llafur i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i safon uchel.

Tri mis yn ddiweddarach, ac mae'r gwaith bron wedi'i gwblhau - trawsnewidiad rhyfeddol mewn cyfnod mor fyr. Mae'r 24 perc - lleiniau 25m² bach sy'n addas ar gyfer pobl sy'n gofalu am randir am y tro cyntaf  - yn cynnwys pedwar gyda gwelyau uchel sydd wedi'u haddasu i'w defnyddio gan arddwyr ag anableddau. Adeiladwyd llwybrau sy'n addas i gadeiriau olwyn o amgylch y perciau ac mae'r gymdeithas yn barod i groesawu ton o aelodau newydd.

Mae'r prosiect wedi bod yn waith ar y cyd rhwng y cyngor, yr aelodau a staff Travis Perkins, sydd wedi ymroi i'r gwaith mor frwdfrydig â deiliaid y rhandiroedd.

Dywedodd y rheolwr cyfrif Martyn Piper:  "O'n safbwynt ni, cawsom amser gwych.  Roedd y tywydd yn berffaith a'r gwesteiwyr yn wych. Roedd yna lawer o chwerthin ac roedd yn wych meddwl ein bod wedi helpu gyda rhandir mor drawiadol.

"Ond mae un achlysur yn sefyll allan i ni - roedd gennym dîm yma ar y safle un diwrnod ac fe wnaeth gyrrwr stopio a rhoi bocs o lolipops rhew i ni. Dywedodd ei fod yn gyrru heibio'r rhandiroedd bob dydd a'i fod wedi gweld y trawsnewidiad a'i fod am ein gwobrwyo am ein holl waith caled."

I'r cyngor, yr allwedd i lwyddiant y prosiect yw ymrwymiad deiliaid y rhandiroedd i gynwysoldeb. Mae ganddo eisoes aelodau o tua 20 o gymunedau ethnig gwahanol yng Nghaerdydd ond erbyn hyn mae ganddo nifer o arddwyr ag anableddau ac mae wedi meithrin cysylltiadau cryf â phlant ysgol lleol.

Dywedodd Dennis Ramsey, cadeirydd y gymdeithas, ei fod ef a'i aelodau wedi croesawu pobl ifanc o Ysgol Fabanod Tremorfa a oedd wedi dysgu am bwysigrwydd tyfu eu llysiau eu hunain - ac wedi plannu eu cnwd o bwmpenni eu hunain ar y safle, yn barod ar gyfer Calan Gaeaf.

Mae Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, o'r gred y byddai'r lleiniau newydd o fudd enfawr i'r gymuned leol. "Mae lleiniau llai fel y rhai a grëwyd yma yn llawer mwy hylaw a dylent annog cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr rhandiroedd," meddai.

"Mae hefyd yn cyd-fynd â strategaeth rhandiroedd newydd y cyngor sy'n ceisio gwella mynediad i grwpiau difreintiedig a lleihau'r rhestrau aros."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29328.html