Back
4.
July
2022.
Newid dros dro i’r gwasanaeth: Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau
Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa
Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn gan fod nifer uchel o
staff yn absennol oherwydd Covid-19.
Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb i gofrestru genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r ffurflen gyswllt ar wefan Swyddfa Gofrestru Caerdydd, neu drwy e-bost.
- Ar gyfer ymholiadau am dystysgrifau, ewch i: https://www.cardiffregisteroffice.co.uk/cy/dystysgrifau/ neu e-bostiwch ymholiadau.tystysgrif@caerdydd.gov.uk (Sylwch nad yw'r gwasanaeth blaenoriaeth 24 awr wedi'i warantu ar hyn o bryd)
- Gellir cael copïau o dystysgrifau’n uniongyrchol hefyd gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol, yma: https://www.gro.gov.uk/gro/content/certificates/contact_us.asp
- Ar gyfer ymholiadau am Ddinasyddiaeth, anfonwch e-bost at: dinasyddiaeth@caerdydd.gov.uk
- Am ymholiadau ynghylch cofrestriadau genedigaethau neu farwolaethau, e-bostiwch cofrestryddion@caerdydd.gov.uk
- Ar gyfer ymholiadau am briodasau, e-bostiwch: seremoniau@caerdydd.gov.uk
Category