The essential journalist news source
Back
30.
June
2022.
Partneriaeth busnes yn talu ar ei ganfed i gymuned rhandiroedd Caerdydd

30.06.22
Mae grŵp o ddeiliaid rhandiroedd yn un o faestrefi Caerdydd wedi troi tir gwastraff yn ddarpar werddon diolch i fisoedd o waith caled... a haelioni cwmni deunyddiau adeiladu.

Yn gynharach eleni, gyda galw mawr am leiniau bob amser, dechreuodd y garddwyr yn rhandiroedd Pafiliwn Pengam yn Nhremorfa weithio i glirio mwy na hanner erw o lwyni a phrysgwydd sydd wedi gordyfu ar gyrion eu safle yn y gobaith o greu mwy o le.

Roedd yn waith caled, ond o dan arweiniad y pwyllgor, fe wnaethant lwyddo i adfer y tir cyn edrych o gwmpas am gymorth ariannol i gwblhau'r gwaith a chreu 24 o 'berciau' yn barod i arddwyr newydd gymryd yr awenau.

"Ar ôl i'r tir gael ei glirio, fe wnaethom wahodd Cyngor Caerdydd i ddod i edrych ar yr hyn yr oeddem wedi'i wneud," meddai Tracey Woodberry, ysgrifennydd y gymdeithas rhandiroedd.  "Gwnaeth gymaint o argraff arnyn nhw nes iddyn nhw ein hargymell ar gyfer grant o gronfa a sefydlwyd gan Travis Perkins."

Cyfrannodd y cwmni, sy'n gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd ar brosiectau adeiladu, werth tua £25,000 o ddeunyddiau, offer a llafur i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i safon uchel.

Tri mis yn ddiweddarach, ac mae'r gwaith bron wedi’i gwblhau – trawsnewidiad rhyfeddol mewn cyfnod mor fyr. Mae'r 24 perc – lleiniau 25m² bach sy'n addas ar gyfer pobl sy’n gofalu am randir am y tro cyntaf  – yn cynnwys pedwar gyda gwelyau uchel sydd wedi'u haddasu i'w defnyddio gan arddwyr ag anableddau. Adeiladwyd llwybrau sy'n addas i gadeiriau olwyn o amgylch y perciau ac mae'r gymdeithas yn barod i groesawu ton o aelodau newydd.

Mae'r prosiect wedi bod yn waith ar y cyd rhwng y cyngor, yr aelodau a staff Travis Perkins, sydd wedi ymroi i'r gwaith mor frwdfrydig â deiliaid y rhandiroedd.

Dywedodd y rheolwr cyfrif Martyn Piper:  "O'n safbwynt ni, cawsom amser gwych.  Roedd y tywydd yn berffaith a’r gwesteiwyr yn wych. Roedd yna lawer o chwerthin ac roedd yn wych meddwl ein bod wedi helpu gyda rhandir mor drawiadol.

"Ond mae un achlysur yn sefyll allan i ni - roedd gennym dîm yma ar y safle un diwrnod ac fe wnaeth gyrrwr stopio a rhoi bocs o lolipops rhew i ni. Dywedodd ei fod yn gyrru heibio'r rhandiroedd bob dydd a'i fod wedi gweld y trawsnewidiad a'i fod am ein gwobrwyo am ein holl waith caled."

I'r cyngor, yr allwedd i lwyddiant y prosiect yw ymrwymiad deiliaid y rhandiroedd i gynwysoldeb. Mae ganddo eisoes aelodau o tua 20 o gymunedau ethnig gwahanol yng Nghaerdydd ond erbyn hyn mae ganddo nifer o arddwyr ag anableddau ac mae wedi meithrin cysylltiadau cryf â phlant ysgol lleol.

Dywedodd Dennis Ramsey, cadeirydd y gymdeithas, ei fod ef a'i aelodau wedi croesawu pobl ifanc o Ysgol Fabanod Tremorfa a oedd wedi dysgu am bwysigrwydd tyfu eu llysiau eu hunain – ac wedi plannu eu cnwd o bwmpenni eu hunain ar y safle, yn barod ar gyfer Calan Gaeaf.

Mae Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, o’r gred y byddai'r lleiniau newydd o fudd enfawr i'r gymuned leol. "Mae lleiniau llai fel y rhai a grëwyd yma yn llawer mwy hylaw a dylent annog cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr rhandiroedd," meddai.

"Mae hefyd yn cyd-fynd â strategaeth rhandiroedd newydd y cyngor sy'n ceisio gwella mynediad i grwpiau difreintiedig a lleihau’r rhestrau aros."

Os hoffech ddod yn ddeiliad rhandir yng Nghaerdydd, cliciwch ar y ddolen i’r wefan hon – https://www.outdoorcardiff.com/cy/cymrwch-ran/rhandiroedd/ 

I ddarllen mwy am strategaeth rhandiroedd Cyngor Caerdydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y ddinas gyfan, dilynwch y ddolen hon: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s56479/Cabinet%2010%20March%202022%20Alltoment%20Strat.pdf