The essential journalist news source
Back
30.
June
2022.
Mae 83 o gartrefi gwag yng Nghaerdydd wedi cael eu hadfer y flwyddyn ariannol hon i’w defnyddio eto

30/06/22


Mae 83 o eiddo gwag yng Nghaerdydd wedi cael eu hadfer i'w defnyddio eto ers mis Ebrill 2021, gyda chymorth drwy bolisi cartrefi gwag y Cyngor.

Mae eiddo gwag yn falltod ar gymunedau lleol oherwydd gallant achosi problemau i eiddo cyfagos, denu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â thipio anghyfreithlon a phroblemau gyda fermin.

Mae hyd at 300 o eiddo yng Nghaerdydd wedi'u hamlygu fel problem, ac er mai perchennog yr eiddo preifat sy'n gyfrifol am ddelio â'r materion hyn, mae swyddogion y Cyngor yn mynd ar eu trywydd i sicrhau y gellir adfer yr eiddo i'w defnyddio eto cyn gynted â phosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd:

"Mae eiddo'n mynd yn wag am amryw o resymau, p'un a ydynt wedi cael eu hetifeddu yn y cyflwr y maent ynddo, ni all y perchennog fforddio datrys y problemau, neu gallai'r perchennog fod yn byw dramor neu mewn gofal hirdymor, ac mae'r eiddo'n cael eu gadael yn wag am gyfnod sylweddol cyn mynd i gyflwr gwael.

"Mae swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn darparu cyngor a chyfleoedd ariannu posibl i berchnogion eiddo fesul achos. Pan nad yw hyn yn bosibl, a bod perchnogion eiddo'n gwrthod ymgysylltu â ni, gallwn ddefnyddio pwerau gorfodi, gan gynnwys defnyddio gorchmynion prynu gorfodol ar ôl rhoi cynnig ar bob llwybr arall, cyhyd â bod rheswm cymhellol, er budd y cyhoedd, dros wneud hynny.

"Mae dod ag eiddo preifat yn ôl i ddefnydd yn cael ei yrru gan y farchnad yn bennaf, fel pe bai gwerth yr eiddo'n cynyddu, mae mwy o gymhelliant i'r perchennog gywiro'r problemau, fel y gellir gwerthu'r eiddo ar y farchnad agored. Ar gyfer perchnogion eiddo sy'n 'bancio tir', mae pwerau eraill hefyd ar gael sy'n caniatáu i'r Cyngor godi treth gyngor o 150% ar yr eiddo hyn, os nad ydynt wedi'u dodrefnu ac yn wag am dros 12 mis, fel cymhelliad ychwanegol i'r perchennog fynd i'r afael â'r problemau.

"Ein cyngor i'r rhai sy'n berchen ar eiddo gwag ac nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud ag ef yw cysylltwch â'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 0300 1236696, fel y gallant roi cyngor a chymorth i chi, a gyda'n gilydd, gallwn ddefnyddio'r eiddo hyn unwaith eto, fel nad ydynt yn falltod ar y dirwedd."