The essential journalist news source
Back
29.
June
2022.
Mae ci chow chow strae gyda’i groen a’i lygaid mewn cyflwr gwael wedi'i ganfod yng Nghaerdydd.

Mae RSPCA Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i gi chow strae gael ei ganfod yng Nghaerdydd. Mae croen y ci mewn cyflwr gwael iawn.

Cafodd y ci gwrywaidd sydd heb ei ysbaddu ei godi yn y Rhath gan y wardeiniaid cŵn lleol ar 28 Mai. Yn anffodus - er bod gan y chow chow ficrosglodyn - ni lwyddwyd i ddod o hyd i berchennog ac oherwydd ei gyflwr, penderfynwyd galw'r RSPCA i ymchwilio i'r mater. 

Dywedodd dirprwy brif arolygydd y RSPCA, Gemma Black: "Cafwyd hyd i'r ci druan hwn gyda'i gefn, ei wddf a'i wyneb mewn cyflwr gwael iawn. Nid yw cyflwr ei lygaid yn dda iawn chwaith.

"Pan gafodd ei ganfod gan y wardeiniaid cŵn doedden nhw ddim yn sylweddoli pa mor wael oedd ei groen oherwydd ei flew trwchus, ond fe ddechreuodd hewian pan oedden nhw'n rhoi coler arno. Pan gafodd ei flew ei glipio'n sylwyd bod ei groen mewn cyflwr difrifol

"Mae microsglodyn yn awgrymu ei fod tua saith i wyth mis oed.  Mae'r microsglodyn yn nodi cyfeiriad yn Llaneirwg, ond yn anffodus mae'r manylion yn ymddangos yn hen a hyd yn hyn nid yw ein hymholiadau wedi'n galluogi i ddod o hyd i'w berchennog."

Mae apêl am wybodaeth bellach wedi'i lansio i geisio canfod ei berchennog.  Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, fe'u hanogir i ffonio llinell apeliadau'r RSPCA ar 0300 123 8018.

Mae'r ci -  y nodir mai Cobra yw ei enw ar ei ficrosglodyn - dan ofal Cartref Cŵn Caerdydd ar hyn o bryd ac mae'n cael triniaeth.

"Dros yr wythnosau diwethaf mae Cobra wedi bod yn cael gofal gan staff gwych Cartref Cŵn Caerdydd," meddai Gemma. "Mae wedi cael ei siafio ac mae'n cael meddyginiaeth ac yn parhau i fod dan ofal milfeddyg. 

"Mae'n drist iawn ei fod wedi cael ei adael mewn cyflwr mor wael ac rydym yn gobeithio ei fod yn gwella nawr."

Ychwanegodd rheolwr Cartref Cŵn Caerdydd, Maria Bailie:  "Mae Cobra yn gwneud yn dda ac mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos diwethaf yn y swyddfa lle gallem gadw llygad arno. Mae'n gi cyfeillgar a chariadus iawn. 

"Cafodd ei groen driniaeth bwrpasol ddydd Gwener (24 Mehefin) ac mae'n cael ei drin ar gyfer gwiddon demodex. Mae rhywfaint o'i flew yn tyfu'n ôl. Mae'r milfeddyg o'r farn y gallai fod angen llawdriniaeth entropi arno ar ei lygaid hefyd a gaiff ei gadarnhau'r wythnos hon. Mae ei driniaeth yn debygol gostio ychydig llai na £1,000."

Dywedodd Aelod Cabinet Caerdydd sy'n gyfrifol am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Bob blwyddyn mae Cartref Cŵn Caerdydd yn gofalu am gannoedd o gŵn, gan gynnwys rhai fel Cobra sydd mewn cyflwr gwael iawn pan maen nhw'n cyrraedd. 

"Mae'r tîm bob amser yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y cŵn yn eu gofal yn cael y driniaeth orau bosibl, ond mae helpu Cobra yn mynd i fod yn ddrud.  Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i lawer o bobl, ond os oes unrhyw un mewn sefyllfa i helpu gydag adferiad Cobra, mae ein partneriaid elusennol yn The Rescue Hotel wedi sefydlu ymgyrch codi arian, a byddent yn croesawu unrhyw gefnogaeth."

Os gallwch helpu Cartref Cŵn Caerdydd i ariannu'r llawdriniaeth hon, ewch i wefan neu  Dudalen Facebook The Rescue Hotel 

Er mwyn helpu'r RSPCA i barhau i achub, adsefydlu ac ailgartrefu anifeiliaid sydd ag angen gofal dybryd, ewch i'n gwefan neu ffoniwch ein llinell rhoddion ar 0300 123 8181.