The essential journalist news source
Back
21.
June
2022.
Tair Ysgol Gynradd yng Nghaerdydd yn ennill Gwobr Ysgolion Noddfa wrth i'r ddinas ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 2022


21/62022

Yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 20 - 26 Mehefin 2022, mae Caerdydd yn dathlu wrth i dair o ysgolion cynradd y ddinas ddod yn Ysgolion Noddfa swyddogol.

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn Cathays, Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ym Mhentwyn wedi ymrwymo i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant i ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.

Er mwyn ennill y wobr, mae pob ysgol wedi dangos dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i rywun fod yn ceisio noddfa a chreu amgylchedd croesawgar a gofalgar i bobl sydd angen cymorth.             

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan Gaerdydd hanes o amrywiaeth ac rydym yn falch o groesawu pobl o bob cwr o'r byd, gan eu helpu i deimlo'n aelodau cyfartal a gwerthfawr o'n cymdeithas.

"Mae Ysgol Noddfa yn helpu disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i ddeall beth mae'n ei olygu i fod yn ceisio noddfa ac yn cefnogi'r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod yr ysgol yn lle croesawgar i bawb.

"Llongyfarchiadau i staff, disgyblion a rhieni Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Ysgol Gynradd Herbert Thompson ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant am eu gwaith caled a'u hymroddiad wrth ennill y wobr hon.

"Fel Cyngor, rydym yn annog pob un o'n hysgolion i ddod yn Ysgol Noddfa fel rhan o addewid Caerdydd i ddod yn Ddinas Noddfa, gan ei gwneud yn lle croesawgar a diogel i bawb sy'n cynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag trais ac erledigaeth.

Ysgol Noddfa:

  • Mae'n lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid.
  • Mae'n addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl ddynol i gael noddfa ac mae'n nodi dulliau ymarferol i ysgolion ddangos yr ymrwymiad hwnnw.
  • Meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i fynd i'r afael â stereoteipiau.

 

Dwedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Mrs Sheena Marsh: "Rydym wrth ein boddau o gael ein cydnabod fel Ysgol Noddfa, gan ddangos ein hymrwymiad i wneud i bawb sy'n dod i'n hysgol deimlo bod croeso iddynt a'u bod yn ddiogel, gan gynnwys ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches. Fel ysgol, mae ein gwerthoedd o ran diogelwch, parch, amrywiaeth, gofal, penderfyniad a chyflawniad wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym am i bob plentyn yn ein gofal deimlo'n annwyl, yn bwysig, yn gryf ac yn arbennig. Felly, rydym yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ein gwerthoedd ac yn galluogi ein plant i ddysgu am eu cymuned, herio stereoteipiau a pharchu eraill. Mae'n fendigedig bod yn rhan o gymuned ysgol mor amrywiol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi."

Meddai Claire Cook, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn ein gwobr Ysgol Noddfa yn Nigwyddiad Llywodraethwyr yr Eglwys yng Nghymru yn ddiweddar. Diolch i bawb am eich cefnogaeth barhaus wrth weithio i ennill y wobr wych hon."

Meddai Abi Beacon, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, "Rydym wastad wedi gweithio'n galed er mwyn helpu pawb yn ein cymuned ysgol amrywiol i ddisgleirio ac rydym yn falch iawn bod hyn wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon."

Mae'r fenter Ysgolion Noddfa yn cefnogi uchelgais Caerdydd i ddod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant Pwyllgor UNICEF y DU, fel rhan oStrategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant.

Hyd yn hyn mae saith ysgol yng Nghaerdydd wedi ennill statws Ysgol Noddfa ac mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Ysgol Gynradd Herbert Thompson ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant yn ymuno ag Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Stacey ac Ysgol Gynradd Adamsdown fel deiliaid y wobr.

Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl flynyddol sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa.  Gweledigaeth yr Wythnos Ffoaduriaid yw i ffoaduriaid a cheiswyr lloches allu byw'n ddiogel, mewn cymunedau cynhwysol a chadarn, lle gallant barhau i wneud cyfraniad gwerthfawr. Darllenwch fwy yma:https://refugeeweek.org.uk/