The essential journalist news source
Back
27.
May
2022.
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 27 Mai 2022

Y diweddaraf gennym ni:Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd; cynllun cartrefi uwch-dechnoleg ar gyfer y dyfodol yn ennill gwobr Brydeinig nodedig; a parc yn ailagor ar ôl cynnal gwelliannau mawr.

 

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd i Roald Dahl Plass

Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd - un o'r digwyddiadau rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd yng nghalendr yr haf - yn dychwelyd ym mis Gorffennaf am y tro cyntaf ers y pandemig.

Mewn arwydd bod y ddinas yn parhau i ddychwelyd i'r arfer ar ôl y bwlch gorfodol, mae'r ŵyl yn ôl yn ei lleoliad rheolaidd yn Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd o Ddydd Gwener, 1 Gorffennaf i Ddydd Sul, 3 Gorffennaf gyda llu o stondinwyr rheolaidd a digon o rai newydd, i gyd yn cynnig amrywiaeth ysblennydd o gynnyrch a danteithion lleol o bob cwr o'r byd.

"Mae'r Ŵyl Fwyd a Diod bob amser yn rhywbeth i edrych ymlaen ato fel y bu ers iddi ddechrau dros 20 mlynedd yn ôl," meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies.

"Mae gennym lu o ddigwyddiadau anhygoel ar y gweill ar gyfer yr haf a fydd i gyd yn dod â gwên i wynebau pobl. Ond mae hyn hefyd yn rhan allweddol o economi Caerdydd ac rydym yn disgwyl i filoedd o bobl ddod draw yn ystod y tridiau a mwynhau'r hyn fydd ar gael."

Ymhlith y 100 a mwy o stondinau yn y digwyddiad eleni mae rhai o'r prif hen ffefrynnau, fel SamosaCo, gyda'i wyau selsig bhaji winwns, Seidr Gwynt y Ddraig, o Lanilltud Faerdref, a The Mighty Softshell Crab, ynghyd â newydd-ddyfodiaid gan gynnwys Old Bakery Gin, un o nifer o arbenigwyr jin sy'n mynychu, Fferm Tsili Sir Benfro a'r  bwyd stryd arobryn gan Keralan Karavana a ysbrydolwyd gan Ddeheudir India.

Er y bydd digon o stondinau'n gwerthu bwyd parod i'w fwyta, bydd llawer o bwyslais yr ŵyl eleni ar y cyfle i brynu cynnyrch a chynhwysion i'w cludo adref, fel sbeisys a marinadau, a chreu eich danteithion eich hun o'r tueddiadau coginio diweddaraf.

Bydd yno hefyd raglen lawn o gerddoriaeth gydol pob un o dri diwrnod yr ŵyl.

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ar agor Ddydd Gwener 1 Gorffennaf (hanner dydd-10pm), Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf (11am-10pm) a Dydd Sul, 3 Gorffennaf (11am-7pm). I gael mwy o fanylion ewch iwww.croesocaerdydd.com

 

Cynllun cartrefi uwch-dechnoleg ar gyfer y dyfodol yn ennill gwobr Brydeinig nodedig

Mae datblygiad tai hynod arloesol yng Nghaerdydd sy'n creu cartrefi'r dyfodol heddiw wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig am ei gynaliadwyedd, ei gwydnwch o ran yr hinsawdd a'i hôl troed carbon isel.

Yng ngwobrau blynyddol Eiddo Preswyl RESI yn Grosvenor House, Llundain, dyfarnwyd y brif wobr i Gyngor Caerdydd a'i bartner datblygu cynllun Cartrefi Caerdydd, Wates Residential, yn y categori Menter Argyfwng Hinsawdd - Preswyl.

Mae Llwyn Aethnen yn Nhredelerch yn gynllun arloesol sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar hen safle Ysgol Uwchradd y Dwyrain a dderbyniodd £4.1m o gyllid Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor a Wates Residential yn gweithio gyda chwmni gwasanaethau ynni cynaliadwy o Gaerdydd, Sero, i ymgorffori technolegau carbon isel yn y datblygiad a Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy sy'n darparu cynnyrch 'morgais gwyrdd' i brynwyr tai ar y safle.

Mae cyfanswm o 214 o gartrefi - cymysgedd o eiddo gwerthu preifat a chartrefi fforddiadwy i'w rhentu gan y cyngor ar eu ffordd i'r dwyrain o'r ddinas, fel rhan o raglen gyffredinol Cartrefi Caerdydd i adeiladu 1,500 o gartrefi newydd.

Y safle yw'r cyntaf yn ein rhaglen i dargedu Safon Barod Carbon Sero Net ar raddfa sylweddol ac mae'n chwarae rhan bwysig yn strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030, ei strategaeth Tlodi Tanwydd a dull parhaus Wates o ddatblygu cartrefi carbon/ynni isel.

Bydd y safle yn cynnwys 65 o gartrefi cyngor newydd, y bydd 44 ohonynt yn fflatiau Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl hŷn, a bydd 149 eiddo ar werth ar y farchnad agored.  Bydd tai cyngor a thai gwerthu yn cael eu hadeiladu i'r un safonau perfformiad ynni sy'n canolbwyntio ar ddull ‘adeiladwaith yn gyntaf' ac yn ymgorffori pympiau gwres o'r ddaear, cyfleusterau storio thermol clyfar, paneli ffotofoltäig, batris storio a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.

A chyda'r cynyddiadau presennol ym mhrisiau ynni, bydd cyflwyno'r dechnoleg newydd hon yn helpu i leihau effaith y farchnad ynni ar aelwydydd drwy eu galluogi i fod yn llai dibynnol ar y grid cenedlaethol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29095.html

 

Parc Maendy (Gelligaer Street) yn ailagor ar ôl cynnal gwelliannau mawr

Mae trigolion Cathays yng Nghaerdydd wedi gallu mwynhau eu parc lleol ar ei newydd wedd y penwythnos hwn wrth i Barc Maendy (Gelligaer Street) ailagor i'r cyhoedd ar ôl cynnal gwelliannau mawr.

Mae'r gwaith, a gafodd ei gynllunio ar ôl ymgynghori â thrigolion, yn rhan o raglen barhaus i adnewyddu parciau ac ardaloedd chwarae ledled y ddinas, ac mae'n cynnwys:

  • Gosod ardal chwarae newydd, gan gynnwys offer chwarae newydd ac adnewyddu ac adleoli offer presennol.
  • Ardal chwarae naturiol ar wahân.
  • Llwybrau newydd.
  • Byrddau tennis bwrdd a teqball newydd. Gêm yw teqball sy'n cael ei chwarae ar fwrdd crwm ac sy'n cyfuno elfennau o bêl-droed a thennis bwrdd.
  • Byrddau picnic, rhai â gemau bwrdd yn rhan ohonynt.
  • Seddau newydd a biniau mewn lleoliad newydd.
  • Coed, llwyni a ac ardaloedd glaswelltog newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae creu mannau diogel i chwarae yn rhan bwysig iawn o'n gwaith i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant ond mae hyn wedi bod yn drawsnewidiad a fydd, gobeithio, o fudd i'r gymuned gyfan, gan greu lle y gall pawb ei fwynhau."