The essential journalist news source
Back
13.
May
2022.
Mae cynigion sylweddol Caerdydd i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd rhagddynt


13/5/2022

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i gyflawnicyfres o gynigion iehangu a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd rhagddynt.

Yn un o'r rhaglenni gwelliannau mwyaf cynhwysfawr i'r sector yng Nghaerdydd, mae'r Cyngor wedi cynnig creu lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 19 oed ar draws y ddinas.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni gyda'r farn a gyflwynwyd yn gyffredinol yn gefnogol i'r cynlluniau sylweddol yn y ddinas er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth i blant ar draws yr ystod gyfan o anghenion ychwanegol, gan gynnwys y rhai ar y sbectrwm awtistiaeth.  Maent yn cynnwys mwy na dwsin o ysgolion arbennig, cynradd ac uwchradd, yn cynnig addysg Gymraeg a Saesneg.

Yn dilyn penderfyniadau'r Cabinet a wnaed ym mis Mawrth, cyhoeddwyd 11 o Hysbysiadau Statudol Cyhoeddus ar 6 Mai 2022, yn unol ag adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae'r rhain yn cynnwys: 

 

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle yn Ysgol Gynradd Moorland o fis Medi 2023 ar gyfer plant oed cynradd sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 30 lle ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth yn Ysgol Uwchradd Willows o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Uwchradd Llanisien i ddysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 45 lle o fis Medi 2022
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau â 30 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ochr yn ochr â'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol presennol sydd â 30 lle ar gyfer dysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o fis Medi 2023
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198 i 240 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies o 90 i 119 o fis Medi 2022; cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies ymhellach o 119 i 150 o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth o 20 i 30 lle o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Pentre-baen ar gyfer dysgwyr â Chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 24 lle o fis Medi 2022
  • Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig The Court o 42 i 72 lle. Byddai'r ysgol yn trosglwyddo i adeiladau newydd ar draws dwy safle sef Ysgol Gynradd y Tyllgoed a safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, yn Llanrhymni, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025. 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022.

Bydd Hysbysiadau Statudol ynghylch ehangu'r ddarpariaeth arbenigol arfaethedig yn Ysgol Arbennig Meadowbank, Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Springwood yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu'n helaeth at fynd i'r afael â'r diffyg yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol sydd ei hangen yma yng Nghaerdydd a bydd hefyd yn helpu i wasgaru'r cyfleusterau ledled y ddinas yn ein trawsnewidiad mwyaf radical ar y ddarpariaeth a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn gwella safon y cyfleusterau yn sylweddol ac yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael bron i 300."

"Mae Caerdydd, fel sawl ardal, wedi gweld cynnydd yn y galw mewn addysg arbenigol. Mae'r Cyngor hwn - sy'n gwneud cais i fod yn Ddinas UNICEF sy'n Dda i Blant gyntaf Cymru - yn credu mewn hawliau i blant a rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt mewn bywyd. Gobeithiwn y bydd y strategaeth hon yn gwneud rhywfaint i helpu plant yng Nghaerdydd gyrraedd eu potensial yn llawn."

Cyn gweithredu'r cynigion, bydd adroddiad pellach yn cael ei roi i'r Cabinet yn rhoi manylion unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law.