The essential journalist news source
Back
12.
April
2022.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Ebrill 2022

Dyma'r diweddariad diweddaraf gan Gyngor Caerdydd, yn ymwneud â: mae eich pleidlais yn bwysig, peidiwch â cholli'ch cyfle; Caerdydd i gynnal digwyddiad stadiwm WWE mawr cyntaf y DU mewn 30 mlynedd; a'r coronafeirws nifer wrth nifer.

 

Mae Eich Pleidlais yn Bwysig - Peidiwch â Cholli'ch Cyfle!

Mae amser yn brin i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol y mis nesaf.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gennych tan hanner nos, nos Iau 14 Ebrill i wneud hynny.

Gall unrhyw aelod o aelwyd sy'n 14 oed neu'n hŷn gofrestru i bleidleisio ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Yr etholiadau lleol ar 5 Mai fydd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru, yn ogystal â chenhedloedd tramor cymwys, yn gallu pleidleisio i ethol aelodau o'u cyngor lleol.

Os byddai'n well gennych bleidleisio trwy'r post yn yr etholiad, mae gennych tan 5pm ddydd Mawrth, 19 Ebrill i wneud cais.

Gwnewch gais yma:http://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwyr-post

neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk i gael ffurflen gais.

Fel arall, gall preswylwyr ddewis penodi dirprwy, rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, trwy wneud cais yma:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/pleidleisio-drwy-ddirprwycyn 5pm ddydd Mawrth, 26 Ebrill.

 

Caerdydd i gynnal digwyddiad stadiwm WWE mawr cyntaf y DU mewn 30 mlynedd

Cyhoeddwyd heddiw fod digwyddiad stadiwm mawr cyntaf WWE yn y DU ers 30 mlynedd i'w gynnal yng Nghaerdydd.

Bydd Stadiwm Principality yn cynnal y digwyddiad Ddydd Sadwrn, 3 Medi 2022.

Yn ôl John Porco, Uwch Is-lywydd WWE, Digwyddiadau Byw. "Mae Stadiwm y Principality yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal digwyddiad mawr fel hwn. Bydd yn gyfle gwych i groesawu ein cefnogwyr anhygoel o Gymru, yn Ewrop, ac o gwmpas y byd.

"Bydd y penwythnos yn llawn amrywiaeth o brofiadau WWE a fydd, yn ein barn ni, yn arwain at greu atgofion oesol fel y profwyd pam gynhaliwyd SummerSlam yn Stadiwm Wembley yn 1992".

Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar enw da Caerdydd fel cyrchfan ddigwyddiadau o'r radd flaenaf ac mae'n ymuno â chyfres o ddigwyddiadau mawr proffil uchel, gan gynnwys Cynghrair Pencampwyr UEFA, Ras Fôr Volvo, a Chwpan Rygbi'r Byd, a gyflawnwyd yn y ddinas gyda chefnogaeth Tîm Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, gan weithio'n agos gyda Thîm Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru.

Bydd gwybodaeth am enw'r digwyddiad, gwerthiant tocynnau a newyddion pellach am y digwyddiad ar gael yn fuan.

Gall cefnogwyr sydd â diddordeb mewn cyfle i sicrhau tocynnau ymlaen llaw gofrestru ynhttps://wwe.com/cardiff-2022-presale

 

Coronafeirws Nifer wrth Nifer

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

https://bipcaf.gig.cymru/covid-19/rhaglen-brechu-torfol-covid-19/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Ebrill - 07 Ebrill 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru:

https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Mae'r data'n gywir ar:

11 Ebrill 2022

Achosion: 293

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 79.9 (Cymru: 85.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 1,148

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 312.9

Cyfran bositif: 25.5 (Cymru: 25.0% cyfran bositif)