The essential journalist news source
Back
24.
March
2022.
Ymgynghoriad cyhoeddus – Trefniadau cloi Parc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn

24.03.2022

A picture containing sky, tree, mountain, outdoorDescription automatically generated

Mae ymgynghoriad sy'n gwahodd trigolion i ddweud eu dweud am drefniadau cloi mewn tri pharc yng Nghaerdydd bellach ar waith.

Mae Adran Parciau Cyngor Caerdydd yn cynnal asesiad ar hyn o bryd o Barc y Rhath, Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn ac wedi lansio Ymgynghoriad ar Drefniadau Cloi Parciau i bobl ddweud eu dweud.

Cyn y pandemig, byddai'r parciau hyn yn cael eu datgloi bob bore o7.30am a byddai cloi yn dechrau 30 munud cyn machlud haul.  Yn y gaeaf, arweiniodd hyn at gau'r parc o 3.30pm. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Yn ystod y pandemig, ataliwyd cloi'r parciau er mwyn caniatáu mynediad dros gyfnod hwy o amser, gan helpu i gefnogi lles corfforol a meddyliol.

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rydym yn awyddus i glywed gennych a ddylai'r parciau aros heb eu cloi neu a ddylid ailddechrau trefniadau cloi.

Bydd yr arolwg byr hwn yn helpu i nodi pa amser o'r dydd neu'r nos rydych chi'n defnyddio'r parciau a'r gerddi, ac at ba ddiben, megis mynd â chi am dro, ymarfer corff, fel rhan o grŵp cymunedol neu at ddibenion iechyd a lles.

"Bydd hyn yn helpu'r tîm i nodi unrhyw drefniadau cloi parciau yn y dyfodol a sicrhau y gall pawb barhau i fwynhau'r parciau'n ddiogel."

Gellir dod o hyd i'r arolwg Trefniadau Cloi Parciau ar-lein yn  www.caerdyddawyragored.com/trefniadau-cloi-parciau/.  Mae copïau papur o'r arolwg ar gael ar gais trwy ffonio 02920 130 061.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Llun 18 Ebrill.