The essential journalist news source
Back
11.
March
2022.
Anrhydedd dinesig pwysig i HMS Cambria – cartref y Llynges Frenhinol yng Nghymru

Bydd HMS Cambria, cartref y Llynges Frenhinol ar y lan yng Nghymru, yn cael Rhyddid Caerdydd i gydnabod ei 75 mlynedd o wasanaeth sy'n helpu i amddiffyn y genedl.

Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo'r anrhydedd - a ddyfarnwyd i ddim ond 62 o unigolion ac 11 sefydliad er 1886 - yn ei gyfarfod ddydd Iau nesaf.  Ymhlith y sefydliadau milwrol sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn y gorffennol mae Catrawd y Cymry (1944), Catrawd Frenhinol Cymru (1969), HMS Cardiff (1988) a HMS Dragon, sef y derbynnydd olaf o'r anrhydedd, yn 2014.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:  "Mae HMS Cambria wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Caerdydd ers ei sefydlu yng Nghaerdydd ym 1947, pan oedd wedi'i leoli mewn hen ffowndri ar ochr orllewinol Doc y Dwyrain.

"Yn y blynyddoedd ers hynny, mae wedi chwarae rhan ganolog mewn hyfforddi a defnyddio Milwyr Wrth Gefn y Llynges Frenhinol yn y môr a'r glannau, gartref a thramor."

Ers ei sefydlu, mae HMS Cambria wedi'i leoli mewn nifer o safleoedd ledled De Cymru.  Yn 1978, ar ôl clustnodi canolfan Caerdydd i'w dymchwel, cafodd ei symud i safleoedd cyn-fyddin yn edrych dros y môr yn Sili ac yn y blynyddoedd dilynol gwnaed nifer o ymdrechion i ddod ag ef yn ôl i Gaerdydd.

Fodd bynnag, nid tan 2018 y gellid dod o hyd i safle ac ym mis Gorffennaf 2020 symudodd i gyfleuster pwrpasol gwerth £11m yng nghanol Bae Caerdydd.  Yma, bob wythnos, mae hyd at 80 o Aelodau Wrth Gefn y Llynges Frenhinol a'r Môr-filwyr Brenhinol yn defnyddio'r llety o'r radd flaenaf, gan gynnwys ystafelloedd hyfforddi ac ystafelloedd dosbarth, ystafell ffitrwydd, ystafell fwyta amlbwrpas a llety tymor byr i hyd at 50 o bobl. Mae yna hefyd ardal hyfforddi rhaffau a maes parêd.

Mae staff hms Cambria yn cefnogi aelodau wrth gefn a chadetiaid morol o fyfyrwyr sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghaerdydd a helpodd, yn ystod y pandemig, lywodraethau Cymru a'r DU yn eu hymateb i Covid.  Ar hyn o bryd, mae aelodau wrth gefn HMS Cambria yn cefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Prif Swyddog HMS Cambria, Comander Carolyn Jones, ei bod wrth ei bodd yn derbyn yr anrhydedd ar ran ei chwmni. "Mae pawb yn gwerthfawrogi'r anrhydedd arbennig a phrin i HMS Cambria ac mae'n ffordd wych o gydnabod ein 75 o flynyddoedd.

"Yn y cyfnod hwnnw, rwy'n teimlo ein bod wedi gwneud cyfraniad enfawr i Gaerdydd mewn sawl ffordd wahanol, yn enwedig o ran cefnogi llawer o bobl o'r ddinas sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd hir a llwyddiannus yn y Llynges Frenhinol.

 "Mae ein huned newydd yma yn gyfleuster anhygoel ac rwy'n gobeithio y bydd hwn yn gartref i ni am flynyddoedd lawer i ddod."