Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cyfres o fesurau
arloesol, gan gynnwys gwersi gyrru am ddim, i ddenu recriwtiaid newydd i'w wasanaethau
gofal cymdeithasol.
Mae gan yr awdurdod swyddi gwag ar gyfer gofalwyr drwy ei
rwydwaith o gartrefi preswyl a chanolfannau dydd, ynghyd â'r timau sy'n darparu
gwasanaethau cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain.
Ac mewn ymgais i ennyn diddordeb mewn gofal cymdeithasol
fel gyrfa, mae Academi Gofalwyr Caerdydd – uned recriwtio a hyfforddi gofal y
cyngor – yn cynnig amrywiaeth o gymhellion newydd i ddarpar weithwyr, gan
gynnwys:
- Hyd at 20 o wersi gyrru am ddim, os oes angen
- Profion theori a gyrru am ddim
- Gwiriadau GDG (cefndir yr heddlu) am ddim
- Hyfforddiant a chymorth personol
Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet
dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles:
"Mae pawb yn gwybod bod angen gofalwyr ar frys ar y sector gofal
cymdeithasol ledled y wlad, yn enwedig y rhai sy'n gallu gyrru, ac yng
Nghaerdydd rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y
preswylwyr hynny sydd ei angen yn cael y gofal gorau posibl.
"Mae gan Academi Gofalwyr Caerdydd arbenigedd mawr
mewn recriwtio a hyfforddi gofalwyr ac ers mis Hydref y llynedd mae wedi helpu
52 o bobl i gael hyfforddiant ac wedi galluogi 30 o bobl i ddod o hyd i
waith. Nawr dylai'r mentrau newydd hyn
helpu hyd yn oed mwy i fynd i'r afael â'r prinder staff rydym yn ei wynebu
ledled y ddinas."
Ychwanegodd ei chydweithiwr yn y Cabinet, y Cynghorydd
Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'n amlwg mai ymhlith gyrwyr y mae’r
galw mwyaf ac rydym am roi help llaw ychwanegol i’r bobl hynny sydd eisoes yn
dysgu i gael eu trwydded. Rydym yn barod
i dalu am gost y prawf theori a'r prawf gyrru ei hun a thalu am rhwng 10 ac 20
gwers os teimlir mai dyna'r cyfan sydd ei angen."
Mae'r holl rolau sydd ar gael yn talu o leiaf y Cyflog
Byw, ymrwymiad gan y Cyngor i'w holl weithwyr.
Er mwyn hyrwyddo rolau'r cyngor, a swyddi gwag eraill
gyda rhai o bartneriaid preifat y cyngor yn y sector gofal, bwriedir cynnal
cyfres o sesiynau galw heibio 10am-2pm dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys:
- Hyb Trelái – Sioe Deithiol y GIG, 14 Mawrth
- Canolfan Waith Tŷ Alexandra, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Treganna – 10am-hanner dydd a 1pm-3pm, 17 Mawrth
- Hyb Llaneirwg, Heol Crucywel – Sioe Deithiol y GIG, 23 Mawrth
- Eastmoors – Sioe Deithiol y GIG, 28 Mawrth
- Llyfrgell Ganolog Caerdydd – Sioe Deithiol y GIG, 31 Mawrth