The essential journalist news source
Back
10.
March
2022.
Cyngor Caerdydd yn bwriadu ailwampio'r ddarpariaeth rhandiroedd

10.3.22
Mae tyfu ein bwyd ein hunain ar randiroedd wedi bod yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gadw'n heini yn ystod y pandemig ac mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i sicrhau y gall cynifer ohonom â phosibl ddychwelyd i'r tir.

Ar hyn o bryd mae 28 o safleoedd rhandiroedd ar draws y ddinas, sy'n cynnwys mwy na 3,400 o leiniau y gofelir amdanynt gan tua 2,400 o ddeiliaid ond yn ystod y pandemig mae'r rhestr aros o bobl sy'n awyddus i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain wedi tyfu o 793 yn 2020 i 1,292.

Nawr, mae'r Cyngor yn cynnig ailwampio ei wasanaethau rhandiroedd er mwyn ystyried y cynnydd hwn yn y galw a pharhau â rhaglen o welliannau a oedd yn cael ei dal yn ôl oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo.

Mae Strategaeth Rhandiroedd Caerdydd, sy'n mynd gerbron y Cabinet ddydd Iau nesaf (10 Mawrth), yn amlinellu cyfres o fesurau a gynlluniwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Lleihau rhestrau aros
  • Gwella safonau tyfu
  • Cynyddu bioamrywiaeth
  • Gweithio gydag elusennau a chyrff eraill i wella mynediad i randiroedd ar gyfer grwpiau difreintiedig, a
  • Nodi safleoedd rhandiroedd newydd

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, fod rhandiroedd yn ffordd wych o ddod â chymunedau at ei gilydd a rhoi arferion iach a boddhaus i bawb, waeth beth fo'u hoedran neu eu galluoedd.

"Mae llawer o'r rhandiroedd ledled Caerdydd yn cael eu rhedeg gan eu haelodau, gyda chefnogaeth Swyddog Rhandiroedd y Cyngor, ac maent yn ffynnu ond mae'n amlwg o ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ymhlith deiliaid yr hydref diwethaf fod llawer y gallwn ei wneud i wella cyfleusterau a helpu i wneud rhandiroedd yn fwy hygyrch."

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod angen gwella seilwaith llawer o randiroedd, gan gynnwys ffyrdd mynediad a chyflenwadau dŵr ac mae gan rai broblemau llifogydd. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth rhandiroedd yn cael ei ariannu bron yn gyfan gwbl gan y refeniw o renti – tua £160,000 y flwyddyn – ond nid yw hyn yn ddigonol i ddelio â maint y cynllun.

Y llynedd, rhoddodd grant untro o £59,395 gan Lywodraeth Cymru hwb i gyllideb y rhandiroedd ond gwariwyd bron y cyfan ohono ar osod ffensys newydd mewn safleoedd ym Mhontcanna a Threlái tra bod y gweddill wedi mynd ar fotiau dŵr newydd ar draws y ddinas.

"Mae angen adolygiad o'r ffordd mae rhandiroedd yn cael eu hariannu," meddai'r Cynghorydd Bradbury. "Mae angen i ni wella cyflenwadau dŵr a'u gwneud yn llai dibynadwy ar ddŵr y prif gyflenwad, lleihau gwastraff ac annog mwy o ddefnydd o ddŵr glaw i dyfrio’r lleiniau.

"Rydym hefyd am wella mynediad i grwpiau difreintiedig, mynd i'r afael â lleiniau sydd wedi gordyfu, dileu'r defnydd o fawn a phlaladdwyr cemegol, gwella safonau tyfu, lleihau'r rhestrau aros a chynyddu bioamrywiaeth."

Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus bod ei bolisi prisio yn adlewyrchu gallu deiliaid rhandiroedd i dalu. Ar hyn o bryd, mae cost flynyddol mangre – llain 25m² – rhwng £13.38 a £12.36 y flwyddyn, gyda phobl dros 60 oed a'r rhai sydd ar fudd-daliadau yn talu hanner.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w ddarllen yma CARDIFF COUNCIL (moderngov.co.uk)