The essential journalist news source
Back
4.
March
2022.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 04 Mawrth 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cadarnhau achos o ffliw adar yng Nghaerdydd wedi i ŵydd gael ei chanfod yn farw; Cau'r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yng Nghyngor Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion Caerdydd; a Cyngor Caerdydd yn bwriadu creu Parth Ieuenctid cyntaf Cymru.

 

Cadarnhau achos o ffliw adar yng Nghaerdydd wedi i ŵydd gael ei chanfod yn farw

Mae arbenigwyr bywyd gwyllt yng Nghyngor Caerdydd wedi gofyn i'r cyhoedd osgoi cyffwrdd neu fwydo adar yn Llyn Parc y Rhath ar ôl canfod bod gŵydd wedi marw o ffliw adar.

Cafodd corff gŵydd lwyd ei drosglwyddo i wardeiniaid y parc ar 24 Chwefror a chadarnhaodd profion yr wythnos hon y feirws H5N1. Cafodd chwe chorff aderyn arall eu canfod yn y parc yr wythnos hon ac mae'r staff yn credu mai'r un math o ffliw sydd ar fai.

Nid yw ffliw adar yn anarferol ac mae'n fwyaf cyffredin yn ystod y gaeaf pan all adar sy'n mudo gyrraedd y DU ei throsglwyddo. Mae'n ymledu o aderyn i aderyn drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy hylifau'r corff ac ysgarthion halogedig. Gellir ei ledaenu hefyd drwy borthiant a dŵr halogedig, neu gan gerbydau, dillad ac esgidiau brwnt.  

Mae'n effeithio'n bennaf ar adar ac mae'n anghyffredin iawn i'r feirws gael ei drosglwyddo o adar i bobl, neu famaliaid eraill. Mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn isel iawn, ond fel mesur rhagofalus, mae'r Cyngor yn gofyn i bob aelod o'r cyhoedd beidio â bwydo'r adar â llaw yn unrhyw un o'i barciau neu barciau gwledig.

Fis diwethaf, profodd alarch a ganfuwyd yn farw yn Llyn The Knap yn y Barri yn bositif am ffliw adar ac adroddwyd am fwy na dwsin o gyrff meirw eraill.

Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt  (elyrch, gwyddau neu hwyaid) wedi marw neu adar gwyllt eraill wedi marw, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03459 33 55 77. 

Dylid hefyd roi gwybod am unrhyw adar sy'n amlwg yn sâl drwy'r rhif hwn ac ni ddylid cyffwrdd â nhw na'u trin. 

 

Cau'r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yng Nghyngor Caerdydd

Yn ôl adroddiad diweddaraf yr awdurdod ar y polisi tâl, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau'n cael ei gau yng Nghyngor Caerdydd.

Am y tro cyntaf, roedd y gyfradd fesul awr gyfartalog a delir i weithwyr benywaidd yn uwch na'r gyfradd a delir i ddynion (£15.83-£15.33). Roedd hyn yn welliant ar y flwyddyn flaenorol (£13.68-£14.04), ond mae'r gyfradd ganolog (man canolog yr holl fandiau cyflog a delir i staff) yn dal yn uwch i ddynion (£14.11-£13.21).

Mae'r adroddiad - a ystyrir yn allweddol i ymrwymiad y Cyngor i gyflog cyfartal - yn awgrymu bod y gwelliant yn dangos:

 

  • Gostyngiad yn nifer y menywod a gyflogir ar y graddau is,
  • Cynnydd yn y lwfansau a delir, yn arbennig ar gyfer swyddi sy'n cael eu llenwi'n bennaf gan fenywod, fel gweithwyr cymdeithasol, a
  • Llai o fenywod yn manteisio ar gynlluniau ildio cyflog (e.e. prynu gwyliau blynyddol ychwanegol)

Croesawodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad. "Rydym yn credu'n gryf y dylai ein holl weithwyr gael eu gwobrwyo'n deg a heb wahaniaethu am y gwaith y maent yn ei wneud," dywedodd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28617.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Mawrth 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,084,098 (Dos 1: 402,727 Dos 2:  377,332 DOS 3: 8,251 Dosau atgyfnertha: 295,687)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 24 Chwefror 2022

 

  • 80 a throsodd: 22,124 / 95% (Dos 1) 21,968 / 94.3% (Dos 2 a 3*) 20,871 / 95% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 16,760 / 96.5% (Dos 1) 16,647 / 95.9% (Dos 2 a 3*) 15,875 / 95.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,139 / 95.9% (Dos 1) 21,011 / 95.3% (Dos 2 a 3*) 20,333 / 95.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,730 / 94.2% (Dos 1) 22,496 / 93.2% (Dos 2 a 3*) 21,177 / 94.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 27,019 / 92.2% (Dos 1) 26,660 / 91% (Dos 2 a 3*) 24,751 / 92.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,709 / 90.3% (Dos 1) 29,245 / 88.9% (Dos 2 a 3*) 26,800 / 91.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,055 / 88% (Dos 1) 28,451 / 86.1% (Dos 2 a 3*) 25,391 / 89.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,605 / 81.9% (Dos 1) 54,848 / 79.4% (Dos 2 a 3*) 45,863 / 83.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 63,391 / 77.2% (Dos 1) 59,850 / 72.9% (Dos 2 a 3*) 43,740 / 73.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 83,820 / 79.5% (Dos 1) 75,676 / 71.7% (Dos 2 a 3*) 47,605 / 62.9% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,047 / 71.3% (Dos 1) 3,046 / 53.7% (Dos 2 a 3*) 72 / 2.4% (Dosau atgyfnertha)
  • 13-15: 14,098 / 57.9% (Dos 1) 8,684 / 35.7% (Dos 2 a 3*)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,999 / 98.6% (Dos 1) 1,982 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,830 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,703 / 99.1% (Dos 1) 3,651 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 2,930 / 80.3% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,157 / 98.2% (Dos 1) 26,894 / 97.3% (Dos 2 a 3*) 24,245 / 90.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 8,207 / 82.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 10,775 / 94.7% (Dos 1) 10,617 / 93.3% (Dos 2 a 3*) 8,190 / 77.1% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,342 / 90.8% (Dos 1) 45,040 / 88.3% (Dos 2 a 3*) 38,305 / 85% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 676 / 64.9% (Dos 1) 490 / 47% (Dos 2 a 3*) 59 / 12% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(5-11): 506 / 37.2% (Dos 1)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Chwefror - 27 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

03 Mawrth 2022

Achosion: 728

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 198.4 (Cymru: 159.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 2,766

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 753.9

Cyfran bositif: 26.3 (Cymru: 21.5% cyfran bositif)

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 175

  • Disgyblion a myfyrwyr = 152
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 23

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.

 

Cyngor Caerdydd yn bwriadu creu Parth Ieuenctid cyntaf Cymru

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu creu Parth Ieuenctid cyntaf Cymru yn Nhrelái fel rhan o gynlluniau newydd cyffrous ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yn y ddinas.

Mae Parthau Ieuenctid - canolfannau pwrpasol o'r radd flaenaf sy'n rhoi cyfle fforddiadwy i bobl ifanc fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a hamdden - eisoes yn boblogaidd mewn 14 lleoliad ledled Lloegr.

Fe'u sefydlir i ddechrau trwy'r elusen OnSide, gan ddefnyddio cymysgedd o roddion ariannol a grantiau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol. Pan fyddant ar waith, caiff y cyfrifoldeb amdanynt ei drosglwyddo i elusennau lleol newydd eu creu.

Mae ffioedd mynediad ar gyfer parth ieuenctid arferol yn costio tua 50 ceiniog y dydd a gall canolfan nodweddiadol roi cyfle i bobl ifanc fwynhau amrywiaeth eang o gyfleusterau gan gynnwys:

  • Ystafell gerddoriaeth, gydag offerynnau ac offer recordio
  • Campfa a neuadd chwaraeon o'r radd flaenaf
  • Cae pêl-droed pob tywydd
  • Wal ddringo
  • Cegin â'r holl gyfarpar

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae cysyniad y Parth Ieuenctid yn ymddangos fel cyfle cyffrous yr ydym yn awyddus i'w archwilio'n fanwl. Mae gennym eisoes wasanaethau ieuenctid gwych yng Nghaerdydd, a enillodd ganmoliaeth mewn adroddiad diweddar gan Estyn, ond yr ydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella ac ehangu'r ddarpariaeth. Mae hwn yn gynnig diddorol iawn sy'n cyd-fynd â'n gwaith Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF."

Ychwanegodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae'r Parthau Ieuenctid rydym wedi edrych arnynt wedi bod yn llwyddiant mawr, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau gwych i bobl ifanc. Maent yn annog perchnogaeth leol ac ymdeimlad o falchder ac maent wedi cael eu hystyried yn rym cadarnhaol er lles cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy am yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar gymunedau a sut y gallwn wneud iddo weithio i Gaerdydd."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28615.html