The essential journalist news source
Back
1.
March
2022.
Gwaith yn dechrau ar osod cladin ar Fflatiau Lydstep


1/3/22

Mae cynllun i osod cladin ar dri bloc o fflatiau uchel yn y ddinas yn mynd rhagddo.

Mae gwaith wedi dechrau ar y tri bloc yn Fflatiau Lydstep yn Ystum Taf, ar ôl tynnu'r cladin yn sgil trychineb Grenfell.

Bydd y prosiect, sy'n cael ei gyflawni gan ISG Ltd, yn gweld cladin safon A1 newydd yn cael ei osod ar y tri adeilad yn ogystal â gosod ffenestri newydd, uwchraddio balconïau gan gynnwys gosod balwstradau, arwyneb newydd a drysau balconi newydd ar gyfer y 126 o aelwydydd sy'n byw yno.

Bydd pob eiddo hefyd yn elwa ar system awyru echdynnol newydd ar gyfer y gegin a'r ystafell ymolchi a hefyd ffliw newydd i'r boeler.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rwyf mor falch, fel y mae holl drigolion Lydstep, bod gwaith wedi dechrau i newid y cladin a gafodd ei dynnu am nad oedd yn bodloni'r safonau diogelwch tân presennol. Mae'r cladin yr ydym yn ei ddefnyddio ar y tri bloc o'r lefel uchaf o ran diogelwch tân.

"Mae cynnydd sylweddol mewn costau oherwydd Brexit a phwysau chwyddiant yn y diwydiant adeiladu wedi effeithio ar gynnydd y gwaith hwn, ynghyd ag effaith y fframwaith profi a rheoleiddio helaeth ar gyfer datrysiadau cladin.

"Drwy gydol y cyfnod hwn rydym wedi bod mor ddiolchgar i'r trigolion am eu hamynedd wrth i ni weithio ar ddod o hyd i'r ateb cywir ar gyfer y tri bloc ac mae'n wych gweld contractwyr ar y safle a'r gwaith yn mynd rhagddo."

Disgwylir i'r cynllun gymryd tua 70 wythnos i gwblhau'r tri bloc. Mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu disodli cladin yn Loudoun House a Nelson House yn Butetown a bydd cynigion ar gyfer y cynlluniau hyn yn cael eu hystyried yn ddiweddarach.