The essential journalist news source
Back
20.
February
2022.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 14/02/22 - 18/02/22

 

18/02/22 - Sefydlu Fforwm Ieuenctid Caerdydd Ddwyieithog fel rhan o strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg

Bydd fforwm ieuenctid newydd i helpu i gefnogi twf a defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd yn cael ei sefydlu eleni.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28555.html

 

18/02/22 - Sefydlu Fforwm Ieuenctid Caerdydd Ddwyieithog fel rhan o strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg

Mae cynigion diweddaraf Cyngor Caerdydd i lunio'r ffordd y gall yr awdurdod helpu i greu prifddinas 'Wyrddach, Decach a Chryfach'.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28549.html

 

18/02/22 - Datgelu cyllideb i fynd i'r afael ag 'argyfwng costau byw'

Datgelwyd cyllideb a gynlluniwyd i greu swyddi newydd, adeiladu cartrefi cyngor newydd, a gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc, tra'n diogelu'r rhai lleiaf cefnog wrth i'r 'argyfwng costau byw' gael ei gynnal, gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28547.html

 

18/02/22 - Cofrestrwch - Peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai

Cynhelir etholiadau'r Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ledled Cymru ar 5 Mai 2022 ac mae Cyngor Caerdydd yn annog preswylwyr cymwys ar draws y ddinas i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28542.html

 

17/02/22 - Tasglu Cydraddoldeb Hiliol yn datgelu argymhellion terfynol i Gaerdydd

Mae creu rhwydwaith cydraddoldeb i weithwyr ledled y ddinas, sy'n edrych ar gyfleoedd i ddatblygu Paneli Aelodau mwy cynrychioliadol a chynyddu amrywiaeth mewn cyrff llywodraethu ysgolion i gyd wedi cael eu trafod fel rhan o gynlluniau i helpu i fynd i'r

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28530.html

 

17/02/22 - Dreamachine - Gwaith Celf i'w brofi gyda'ch llygaid ynghau

Mae'r Dreamachine yn fath newydd pwerus o brofiad trochi sy'n archwilio potensial di-derfyn y meddwl dynol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28526.html

 

17/02/22 - Ar y ffordd i yrfa newydd drwy Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Caerdydd

Mae cynllun newydd i helpu pobl ar y ffordd i yrfa newydd wedi cael ei lansio gan Wasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28523.html

 

15/02/22 - Preswylwyr newydd Crofts Street wrth eu bodd gyda'u cartref Newydd

Mae tenantiaid newydd naw tŷ modiwlaidd cynaliadwy, hynod effeithlon o ran ynni yn y Rhath, wedi disgrifio eu cartrefi cyngor newydd fel rhai 'mawr a helaeth' gydag ystafelloedd ymolchi fel gwesty'r Hilton!

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28510.html

 

15/02/22 - Cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music 2022 yng Nghaerdydd

Bydd Caerdydd yn cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni, a gynhelir rhwng dydd Gwener 1af a dydd Sul 3ydd Ebrill. Cyhoeddwyd y perfformwyr bore yma ar 6 Music gan Huw Stephens a Mary Anne Hobbs.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28508.html

 

14/02/22 - Plannu 1,700 o goed ym Mharc Tremorfa i ddathlu'r ffaith fod Caerdydd yn un o Ddinasoedd Pencampwr Canopi Gwyrdd y Frenh

Mae dros 1,700 o goed wedi'u plannu ym Mharc Tremorfa ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC) mewn digwyddiad arbennig i ddathlu statws Caerdydd fel Dinas Bencampwr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28505.html

 

14/02/22 - Rydym am glywed eich barn ar strategaeth gwastraff ddrafft Caerdydd

Mae ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar sut y bydd Caerdydd yn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru erbyn 2025 ac yn gwneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn y DU yn agor heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28501.html

 

14/02/22 - Ardal Chwarae Caeau Llandaf bellach ar agor ar ôl ailwampio'n health

Ddydd Gwener agorodd Plant Ysgol Gynradd Llandaf yr Eglwys yng Nghymru Ardal Chwarae Caeau Llandaf yn swyddogol, lle mae croeso i blant archwilio a chwarae yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28499.html