Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: ‘Gaeaf Llawn Lles' i blant a phobl ifanc Caerdydd; aduniad annisgwyl yn dod â thedi hen daid yn ôl i blentyn bach ar ôl iddo ddiflannu yn Llyn Parc y Rhath; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; nifer achosion a phrofion Caerdydd.
Gaeaf Llawn Lles i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd
Bydd cam nesaf Gaeaf Llawn Lles Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau'n fuan mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.
Bydd cam nesaf Gaeaf Llawn Lles Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau'n fuan mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror, a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth.
Yn dilyn gŵyl Gwên o Haf y llynedd, a roddodd amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau i filoedd o blant a phobl ifanc Caerdydd, mae'r rhaglen Gaeaf Llawn Lles yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau am ddim i blant 0 i 25 oed ledled y ddinas.
Dechreuodd y Gaeaf Llawn Lles yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr, gan roi'r cyfle i filoedd o deuluoedd fanteisio ar yr holl berfformiadau a digwyddiadau Nadolig byw ledled y ddinas am ddim. Wedi'i gydlynu gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant y Cyngor, mae cam nesaf y rhaglen yn parhau tan 31 Mawrth.
Mae i'r cam sydd ar ddod o Gaeaf Llawn Lles dair prif elfen:
- Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol gynhwysfawr
- Siop Dros Dro newydd sbon Caerdydd sy'n Dda i Blant, sy'n dod i ganolfan siopa Dewi Sant
- Pecyn sylweddol o gyllid grant i ddarparwyr cymunedol presennol
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28447.html
Mae tîm o Geidwaid Parciau Cyngor Caerdydd wedi aduno bachgen 2 oed gyda'i dedi coll annwyl - 10 diwrnod ar ôl iddo ddisgyn i Lyn Parc y Rhath.
Roedd Arthur, o Llanishen, a'i ffrind gorau, ei dedi "Teddy", wedi ymweld â Pharc y Rhath ar 17 Ionawr gyda'r teulu pan darodd trasiedi - gollyngodd Arthur Teddy ar ddamwain i mewn i'r dŵr wrth iddynt gerdded o amgylch y llyn a gwylio'n ddiymadferth wrth iddo suddo i'r gwaelod.
Mae'r tedi'n bwysig iawn i Arthur a'r teulu am resymau personol. Cafodd Teddy ei roi i Arthur gan ei hen daid 90 oed fel rhodd arbennig i'w wŷr cyntaf.
Meddai Jane Burgoyne, mam-gu Arthur: "Mae Teddy yn mynd i bobman gydag Arthur ac fel y gallwch ddychmygu roedd y llanc bach yn gwbl ddigalon pan syrthiodd y tedi i mewn i'r llyn.
"Roeddwn i'n gwybod ei fod yn annhebygol, wrth e-bostio tîm y Parciau, ond roeddwn i'n gobeithio efallai y gallen nhw ei adfer gyda rhwyd neu rywbeth. Mae'n arth werthfawr iawn, a roddwyd iddo gan fy nhad - ei hen dad-cu - ac rydym i gyd, wir-yr, wedi bod yn rhyfeddol o drist gyda'r golled hon. Mae gan Teddy hyd yn oed enw Arthur ar ei bawennau."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28441.html
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Chwefror 2022
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 1,071,034 (Dos 1: 400,563 Dos 2: 373,953 DOS 3: 7,991 Dosau atgyfnertha: 288,417)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 31 Ionawr 2022
- 80 a throsodd: 19,824 / 94.8% (Dos 1) 19,687 / 94.1% (Dos 2 a 3*) 18,263 / 92.8% (Dosau atgyfnertha)
- 75-79: 14,894 / 96.6% (Dos 1) 14,776 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,644 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
- 70-74: 21,382 / 96% (Dos 1) 21,260 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,800 / 93.1% (Dosau atgyfnertha)
- 65-69: 22,002 / 94.6% (Dos 1) 21,767 / 93.6% (Dos 2 a 3*) 20,079 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
- 60-64: 26,174 / 92.7% (Dos 1) 25,854 / 91.6% (Dos 2 a 3*) 23,587 / 91.2% (Dosau atgyfnertha)
- 55-59: 29,523 / 90.6% (Dos 1) 29,079 / 89.3% (Dos 2 a 3*) 26,254 / 90.3% (Dosau atgyfnertha)
- 50-54: 29,269 / 88.5% (Dos 1) 28,693 / 86.7% (Dos 2 a 3*) 25,425 / 88.6% (Dosau atgyfnertha)
- 40-49: 56,160 / 82.5% (Dos 1) 54,528 / 80.1% (Dos 2 a 3*) 45,581 / 83.6% (Dosau atgyfnertha)
- 30-39: 62,692 / 77.3% (Dos 1) 59,307 / 73.1% (Dos 2 a 3*) 43,016 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
- 18-29: 84,855 / 78.9% (Dos 1) 76,837 / 71.4% (Dos 2 a 3*) 47,427 / 61.7% (Dosau atgyfnertha)
- 16-17: 4,279 / 78.9% (Dos 1) 3,345 / 60.3% (Dos 2 a 3*) 218 / 6.5% (Dosau atgyfnertha)
- 12-15: 17,208 / 61.5% (Dos 1) 10,204 / 36.4% (Dos 2 a 3*)
- Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,923 / 98% (Dos 1) 6,199 / 87.7% (Dos 2 a 3*) 23 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,008 / 98.5% (Dos 1) 1,992 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,836 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr cartrefi gofal: 3,685 / 99% (Dos 1) 3,633 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,887 / 79.5% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,158 / 98.2% (Dos 1) 26,890 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,111 / 89.7% (Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 9,941 / 97% (Dosau atgyfnertha)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,195 / 94.8% (Dos 1) 11,031 / 93.4% (Dos 2 a 3*) 6,374 / 57.8% (Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,194 / 90.8% (Dos 1) 44,883 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,032 / 84.7% (Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 736 / 67.2% (Dos 1) 561 / 51.2% (Dos 2 a 3*) 72 / 12.8% (Dosau atgyfnertha)
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (28/01/22 i 03/02/22)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 1,179
- Disgyblion a myfyrwyr = 1,025
- Staff, gan gynnwys staff addysgu = 154
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (24 Ionawr - 30 Ionawr 2022)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
03 Chwefror 2022
Achosion: 2,213
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 603.2 (Cymru: 521.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,794
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,579.2
Cyfran bositif: 38.2% (Cymru: 34.1% cyfran bositif)