The essential journalist news source
Back
2.
February
2022.
Aduniad annisgwyl yn dod â thedi hen daid yn ôl i blentyn bach ar ôl iddo ddiflannu yn Llyn Parc y Rhath

02.02.2022

Mae tîm o Geidwaid Parciau Cyngor Caerdydd wedi aduno bachgen 2 oed gyda'i dedi coll annwyl - 10 diwrnod ar ôl iddo ddisgyn i Lyn Parc y Rhath.

A picture containing person, outdoor, groundDescription automatically generated

Roedd Arthur, o Llanishen, a'i ffrind gorau, ei dedi "Teddy", wedi ymweld â Pharc y Rhath ar 17 Ionawr gyda'r teulu pan darodd trasiedi - gollyngodd Arthur Teddy ar ddamwain i mewn i'r dŵr wrth iddynt gerdded o amgylch y llyn a gwylio'n ddiymadferth wrth iddo suddo i'r gwaelod.

Mae'r tedi'n bwysig iawn i Arthur a'r teulu am resymau personol. Cafodd Teddy ei roi i Arthur gan ei hen daid 90 oed fel rhodd arbennig i'w wŷr cyntaf.

Meddai Jane Burgoyne, mam-gu Arthur: "Mae Teddy yn mynd i bobman gydag Arthur ac fel y gallwch ddychmygu roedd y llanc bach yn gwbl ddigalon pan syrthiodd y tedi i mewn i'r llyn.

"Roeddwn i'n gwybod ei fod yn annhebygol, wrth e-bostio tîm y Parciau, ond roeddwn i'n gobeithio efallai y gallen nhw ei adfer gyda rhwyd neu rywbeth. Mae'n arth werthfawr iawn, a roddwyd iddo gan fy nhad - ei hen dad-cu - ac rydym i gyd, wir-yr, wedi bod yn rhyfeddol o drist gyda'r golled hon. Mae gan Teddy hyd yn oed enw Arthur ar ei bawennau."

E-bostiodd Jane Adran Parciau Cyngor Caerdydd ac roedd Ian Protheroe, Prif Swyddog Gweinyddol, yn gyflym i ymateb gan ofyn i Jane roi manylion am yr union leoliad lle collwyd y tedi a pha mor bell allan yr oedd ar y llyn cyn iddo suddo. Atebodd Jane gyda llun o'r tedi'n arnofio ar y llyn a'r holl wybodaeth oedd ganddi i helpu gyda'r chwiliad.

Dywedodd Ian:  "Roedd yn un o'r lluniau tristaf i ni ei weld erioed. Roedd yn gymaint o drueni nad oedd Ceidwad Parc wrth law neu rwy'n siŵr y byddent wedi gwneud eu gorau ar y pryd. Fodd bynnag, roedden ni'n obeithiol y byddai'r tedi'n codi eto o'r llyn fel rhyw gymeriad o chwedloniaeth Cymru!"

Yn anhygoel, ar 28 Ionawr, ddeng niwrnod ar ôl i Adran y Parciau dderbyn e-bost Jane, canfuwyd y tedi coll gan Simon a Josh, dau aelod o staff, a oedd ynclirio malurion o'r grât wrth y rhaeadr ym Mharc y Rhath.Roedd Teddy wedi teithio tua 175metr o'r fan lle suddodd yn wreiddiol.

 

Cysylltodd Mike Hopson, Goruchwyliwr y Ceidwaid Parciau Trefol, â Jane ar unwaith gyda'r newyddion da a phenderfynon nhw ei gadw'n gyfrinach oddi wrth Arthur a'i rieni. Cawsant eu haduno â Teddy yn ystod taith gerdded i'r teulu ym Mharc y Rhath.

 

Meddai Mike, "Ni allaf gredu ei fod wedi teithio mor bell mewn 10 diwrnod. Roedd y tedi'nfudur ac yn ddrewllyd iawn ar ôl byw yn y llyn, felly cymerais ef adref a'i roi drwy'r peiriant golchi a'i olchodd yn hyfryd ac yn lân. 

 

"Gan fod gwerth mor deimladwy i'r tedi, fe benderfynon ni adeiladu cwch iddo gael ei aduno gyda'r teulu. Adeiladwyd y cwch gan Mark Plant, Ceidwad Parciau Trefol, ac mae un o'm cydweithwyr Edmundo Ferreira-Rocha, sydd hefyd yn Geidwad Parciau Trefol, wedi ysgrifennu cerdd am ei daith yn ystod y deg diwrnod yr oedd yn y dŵr, yr ydym wedi'i fframio i Arthur ei gadw."

They Found my Teddy gan Edmundo Ferreira-Rocha

 

Around Roath Lake on a family stroll

Rambling away they lost control

The teddy so lovely a precious gift

Harrowing scene they saw it adrift

Unfazed by the fuss a curious swan floated by

Regal bird in white plumage swam away bye bye

Just as the family accept that loss in late January

A message of hope was posted in by a Parks Emissary

Making sure they all knew their heirloom had been found

Entrapped by the weir very soggy but sound

Shampooed and hairdried it sits now like a mascot aboard HMS Rangers' Rescue, under the limelight and holophote

Ychwanegodd Jane: "Rwy'n rhyfeddu gan y caredigrwydd a'r gwaith y mae pawb wedi'i wneud i ddychwelyd yr arth werthfawr hon i'm hwŷr ac roedd yn wych gweld yr aduniad yn digwydd heddiw!

"Mae fy nhad 90 oed David, Hen Daid Arthur, sy'n byw yn Nyfnaint, yn falch iawn o glywed y newyddion hwn gan iddo roi'r arth i Arthur yn wreiddiol ar ôl iddo gael ei eni. Rydym mor ddiolchgar i bawb wnaeth hyn!"

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gwaith gwych unwaith eto gan y Ceidwaid.

 

"Mae'n anhygoel bod y tîm wedi gallu dod o hyd i Teddy yn llyn y Rhath, ond yr hyn sydd fwyaf ysbrydoledig yw eu bod i gyd wedi mynd yr ail filltir i Arthur a'i deulu.

 

"Pan fydd plentyn yn colli ei degan arbennig, gall deimlo fel bod eu byd cyfan wedi dymchwel, felly dylai'r tîm fod yn hynod o falch eu bod wedi rhoi gwên yn ôl ar wyneb Arthur.

 

"Diolch i'r tîm i gyd am sicrhau bod gan y stori hon ddiwedd hapus."