The essential journalist news source
Back
29.
January
2022.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 31/01/22

 

28/01/22 - Cau Parc Morfa'r Grange (Grangemoor Park) ar gyfer gwaith hanfodol

Bydd Parc Morfa'r Grange yn cau am o leiaf 12 wythnos o Ddydd Llun, 31 Ionawr, er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y safle tirlenwi sydd wedi'i adfer.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28410.html

 

28/01/22 - Gwaith i ddechrau ar Ffordd Churchill i ailagor camlas gyflenwi'r dociau

Bydd gwaith i agor camlas gyflenwi'r dociau, rhan o uwchgynllun ehangach i greu Cwr y Camlas bywiog newydd yn rhan ddwyreiniol canol y ddinas, yn dechrau ar Ffordd Churchill ddydd Llun, 7 Chwefror.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28407.html

 

28/01/22 - Annog y cyhoedd i gymryd rhan ym Phwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd

Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy ymgysylltu â phum pwyllgor craffu Cyngor Caerdydd y mae eu haelodau, o amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol, yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i wneuthurwyr penderfyniadau a llunwyr polisi.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28405.html

 

27/01/22 - Cynllun Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 wedi'i nodi fel y gorau yng Nghymru

Mae Caerdydd Un Blaned, strategaeth y cyngor ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030, wedi'i chydnabod fel y gorau yng Nghymru gan brosiect gwyddor data dinasyddion dan arweiniad Climate Emergency UK.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28402.html

 

27/01/22 - Datblygu Cartrefi a Chyfnewidfa Drafnidiaeth Newydd Waun Gron

Mae datblygiad cynllun defnydd cymysg cynaliadwy gan gynnwys tai, manwerthu a chyfnewidfa fysiau newydd ar Heol Waun-gron, wedi cymryd cam arall ymlaen drwy weld dileu'r "cais galw i mewn" gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28399.html

 

27/01/22 - Gwnaeth timau'r cyngor Nadolig i'w gofio i'r rhai mewn angen ledled y ddinas

Roedd ysbryd y Nadolig yn wirioneddol fyw fis diwethaf wrth i gannoedd o anrhegion gael eu cyfrannu ar gyfer plant, cafodd prydau bwyd eu paratoi i'r digartref a chafodd profiadau a pherfformiadau'r Nadolig eu mwynhau gan bobl ifanc a'u teuluoedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28395.html

 

26/01/22 - 120 o goed ceirios gan bobl Japan i bobl Caerdydd

Roedd y coed a blannwyd heddiw yn chwech o'r 120 o goed a roddwyd yn garedig fel rhan o Brosiect Coed Ceirios Sakura a grëwyd i ddathlu 150 mlynedd o gyfeillgarwch rhwng Cymru a Japan.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28393.html

 

26/01/22 - Cynllun pum mlynedd i gefnogi pobl hŷn yng Nghaerdydd

Bydd adroddiad sy'n amlinellu sut y bydd pobl hŷn yng Nghaerdydd yn cael eu cefnogi dros y pum mlynedd nesaf yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf (Dydd Iau 20, 2022).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28386.html

 

25/01/22 - Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2022 ar agor nawr

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion meithrin bellach ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n dair rhwng 1 Medi, 2021 a 31 Awst, 2022 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2022.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28375.html


25/01/22 - Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - Cwestiynau Cyffredin

Mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi'i pharatoi i ymateb i ymholiadau diweddar. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru wrth i fwy o gwestiynau gael eu gofyn er mwyn sicrhau cysondeb o ran ymateb a thryloywder wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28373.html

 

24/01/22 - Dros 2,000 o drigolion Caerdydd yn elwa o Nadolig Parc Bute rhoi tocynnau

Gyda dros 1,000,000 o fylbiau golau, 120,000 o ymwelwyr a 5 cynnig priodas, goleuodd y Nadolig trydanol ym Mharc Bute ganol y ddinas yn ei flwyddyn gyntaf fel profiad goleuadau Nadoligaidd yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28370.html