The essential journalist news source
Back
28.
January
2022.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 28 Ionawr 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg;achosion COVID a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; gwaith i ddechrau ar Ffordd Churchill i ailagor camlas gyflenwi'r dociau; annog y cyhoedd i gymryd rhan ym Phwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd; cynllun Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 wedi'i nodi fel y gorau yng Nghymru.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 28 Ionawr 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,066,665 (Dos 1: 399,992 Dos 2:  372,081 DOS 3: 7,954 Dosau atgyfnertha: 286,552)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 24 Ionawr 2022

 

  • 80 a throsodd: 19,875 / 94.7% (Dos 1) 19,738 / 94.1% (Dos 2 a 3*) 18,282 / 92.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,916 / 96.6% (Dos 1) 14,793 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,647 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,397 / 96% (Dos 1) 21,272 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,793 / 93% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,014 / 94.6% (Dos 1) 21,775 / 93.6% (Dos 2 a 3*) 20,053 / 92.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,179 / 92.7% (Dos 1) 25,856 / 91.5% (Dos 2 a 3*) 23,565 / 91.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,527 / 90.6% (Dos 1) 29,082 / 89.2% (Dos 2 a 3*) 26,198 / 90.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,266 / 88.4% (Dos 1) 28,683 / 86.7% (Dos 2 a 3*) 25,341 / 88.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,145 / 82.5% (Dos 1) 54,502 / 80.1% (Dos 2 a 3*) 45,259 / 83% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,603 / 77.2% (Dos 1) 59,194 / 73% (Dos 2 a 3*) 42,383 / 71.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 84,617 / 78.8% (Dos 1) 76,570 / 71.3% (Dos 2 a 3*) 45,929 / 60% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,263 / 76.9% (Dos 1) 3,271 / 59% (Dos 2 a 3*) 203 / 6.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 16,971 / 60.7% (Dos 1) 8,214 / 29.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,830 / 99.2% (Dos 1) 6,147 / 89.3% (Dos 2 a 3*) 28 / 0.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,025 / 98.5% (Dos 1) 2,009 / 97.8% (Dos 2 a 3*) 1,846 / 91.9% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,703 / 99% (Dos 1) 3,647 / 97.5% (Dos 2 a 3*) 2,899 / 79.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,178 / 98.1% (Dos 1) 26,903 / 97.1% (Dos 2 a 3*) 24,074 / 89.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 8,128 / 81.9% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,205 / 94.8% (Dos 1) 11,038 / 93.4% (Dos 2 a 3*) 6,383 / 57.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,216 / 90.8% (Dos 1) 44,886 / 88.1% (Dos 2 a 3*) 37,869 / 84.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 750 / 65.4% (Dos 1) 567 / 49.4% (Dos 2 a 3*) 43 / 7.6% (Dosau atgyfnertha)

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (21/01/22 i 27/01/22)

Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 1877

  • Disgyblion a myfyrwyr = 1,666
  • Staff, gan gynnwys staff addysgu = 211

Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf,  mae ychydig o dan 56,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.

Cyfanswm nifer staff ysgolion Caerdydd, heb gynnwys staff achlysurol, yw ychydig dros 7,300.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (17 Ionawr - 23 Ionawr 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

27 Ionawr 2022

 

Achosion: 2,209

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 602.1 (Cymru: 516.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,687

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,550.0

Cyfran bositif: 38.8% (Cymru: 34.4% cyfran bositif)

 

Gwaith i ddechrau ar Ffordd Churchill i ailagor camlas gyflenwi'r dociau

Bydd gwaith i agor camlas gyflenwi'r dociau, rhan o uwchgynllun ehangach i greu Cwr y Camlas bywiog newydd yn rhan ddwyreiniol canol y ddinas, yn dechrau ar Ffordd Churchill ddydd Llun, 7 Chwefror.

Bydd y gwaith, y disgwylir iddo bara deuddeg mis, yn golygu y bydd Ffordd Churchill, i'r gogledd o Stryd Ogleddol Edward, ar gau i draffig yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd agor y gamlas yn creu mannau gwyrdd cyhoeddus newydd, gyda gerddi glaw i reoli draeniad dŵr wyneb, seddi awyr agored ac ardal perfformiadau awyr agored ar ffurf amffitheatr.

Cafodd yr uwchgynllun ehangach ar gyfer Cwr y Gamlas, sy'n cynnwys ymestyn y gamlas ymhellach i lawr at gamlas gyflenwi dociau'r de ar Stryd Tyndall, ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Caerdydd ym mis Mai y llynedd.

Nod yr uwchgynllun hwn yw creu ardal newydd, fywiog yn nwyrain y ddinas, gan gysylltuHeol y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford a Lôn y Barics i greu datblygiad defnydd-cymysg, dwysedd uchel gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, unedau hamdden a manwerthu.

Fel rhan o'r cynllun hwn, ni all traffig drwodd ddefnyddio Rhodfa'r Orsaf mwyach. Dim ond tacsis a bysus fydd yn cael defnyddio'r ffordd hon i'r naill gyfeiriad neu'r llall er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysus deithio i mewn ac allan o'r gyfnewidfa fysus newydd ar ochr ddwyreiniol y ddinas pan fydd wedi'i chwblhau.

Gyda chyllid gan y Fargen Ddinesig a Llywodraeth Cymru, bydd gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i'r ardal gyhoeddus, gyda llwybr beicio newydd ar Rodfa'r Orsaf, palmentydd ehangach a chyfleusterau croesi gwell o amgylch gorsaf drenau Heol y Frenhines Caerdydd, a chyffordd well newydd rhwng Stryd Adam a Ffordd Churchill.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gam cyntaf ailagor y gamlas a'r cynllun trafnidiaeth gyda thrigolion a busnesau cyn i'r pandemig ddechrau ac aseswyd yr holl adborth a gafwyd cyn cytuno ar y dyluniad terfynol.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Bydd agor camlas gyflenwi'r dociau a'r cynllun trafnidiaeth newydd nid yn unig yn creu canolfan ardal newydd ar gyfer y ddinas ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad newydd, ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli llif traffig a draeniad dŵr wyneb yng nghanol y ddinas.

"Bydd cyfres o erddi glaw yn cael eu hadeiladu, gyda phridd a phlanhigion penodol sy'n trin y dŵr wyneb a chael gwared ar lygryddion cyn i'r dŵr lifo i mewn i'r gamlas. Bydd hyn yn sicrhau bod 3,700 m2o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r system garthffosiaeth bob blwyddyn, gan leihau cost ac ynni trin dŵr drwy'r orsaf bwmpio carthion ym Mae Caerdydd."

Bydd y datblygiad newydd hwn a'r uwchgynllun ehangach yn dod â swyddi y mae mawr eu hangen yn ystod y cyfnod adeiladu, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth hirdymor pan fydd y cynllun wedi'i gwblhau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28407.html

 

Annog y cyhoedd i gymryd rhan ym Phwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd

Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy ymgysylltu â phum pwyllgor craffu Cyngor Caerdydd y mae eu haelodau, o amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol, yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i wneuthurwyr penderfyniadau a llunwyr polisi. 

Daw'r alwad wrth I  dudalennau Pwyllgor Craffu gwefan y Cyngor  gael eu hail-lansio i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd gymryd rhan yng ngwaith y pwyllgorau. 

Yn ogystal â chodi materion gyda chynghorwyr ward lleol, gall trigolion hefyd gyfrannu drwy: 

  • nodi materion i graffu arnynt;
  • darparu tystiolaeth i lywio gwaith craffu - naill ai'n ysgrifenedig neu'n wyneb yn wyneb;
  • cyfrannu at ymgyngoriadau craffu, gweithdai a/neu grwpiau ffocws; a
  • chael eu gwahodd i gael eu cyfethol i fod yn aelod o Bwyllgor Craffu.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi, Adolygu a Pherfformiad, y Cynghorydd David Walker: "Pwyllgorau Craffu yw llais beirniadol y trigolion, ymwelwyr, cymudwyr a gweithwyr wrth y bwrdd gwneud penderfyniadau i sicrhau atebolrwydd llawn, mae'n rhan o'n rôl i helpu i leisio'r lleisiau hynny. 

"Mae aelodau'r pwyllgor i gyd yn gynghorwyr ward lleol, o bob rhan o'r sbectrwm pleidiol-wleidyddol, felly maent yn cadw lefel o annibyniaeth ac maent yn y sefyllfa berffaith i ofyn y cwestiynau anodd, i swyddogion uchaf y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet. 

"Yn bwysig iawn, gall y pwyllgorau gael dylanwad gwirioneddol y broses o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau - maent yn casglu tystiolaeth, yn gwrando ar drigolion, ac yn darparu argymhellion ffurfiol i'r Cabinet - argymhellion a all newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac yn y pen draw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Caerdydd, dyna pam mae'n bwysig iawn bod trigolion yn cymryd rhan yn ein gwaith." 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28405.html

 

Cynllun Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 wedi'i nodi fel y gorau yng Nghymru

Mae Caerdydd Un Blaned, strategaeth y cyngor ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030, wedi'i chydnabod fel y gorau yng Nghymru gan brosiect gwyddor data dinasyddion dan arweiniad Climate Emergency UK, sydd wedi asesu a sgorio Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd 409 o Gynghorau'r Deyrnas Gyfunol.

Sgoriodd cynllun Caerdydd, a ddatblygwyd yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd y ddinas, 70%, yn erbyn  sgôr cyfartalog yr holl awdurdodau lleol un haen o 50%.

Yng Nghymru, y cynghorau â'r sgoriau gorau nesaf oedd Cyngor Sir Ddinbych, a Chyngor Bro Morgannwg, y ddau â sgôr o 46%. Roedd sgôr Caerdydd hefyd yn rhoi'r ddinas ymhlith yr ugain cyngor un haen uchaf yn y Deyrnas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28402.html