The essential journalist news source
Back
28.
January
2022.
Annog y cyhoedd i gymryd rhan ym Phwyllgorau Craffu Cyngor Caerdydd

28.01.22 

Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy ymgysylltu â phum pwyllgor craffu Cyngor Caerdydd y mae eu haelodau, o amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol, yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i wneuthurwyr penderfyniadau a llunwyr polisi. 

A large building with a fountain in front of itDescription automatically generated with low confidence

Daw'r alwad wrth idudalennau Pwyllgor Craffu gwefan y Cyngorgael eu hail-lansio i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd gymryd rhan yng ngwaith y pwyllgorau. 

Yn ogystal â chodi materion gyda chynghorwyr ward lleol, gall trigolion hefyd gyfrannu drwy: 

  • nodi materion i graffu arnynt;
  • darparu tystiolaeth i lywio gwaith craffu - naill ai'n ysgrifenedig neu'n wyneb yn wyneb;
  • cyfrannu at ymgyngoriadau craffu, gweithdai a/neu grwpiau ffocws; a
  • chael eu gwahodd i gael eu cyfethol i fod yn aelod o Bwyllgor Craffu.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi, Adolygu a Pherfformiad, y Cynghorydd David Walker: "Pwyllgorau Craffu yw llais beirniadol y trigolion, ymwelwyr, cymudwyr a gweithwyr wrth y bwrdd gwneud penderfyniadau i sicrhau atebolrwydd llawn, mae'n rhan o'n rôl i helpu i leisio'r lleisiau hynny. 

"Mae aelodau'r pwyllgor i gyd yn gynghorwyr ward lleol, o bob rhan o'r sbectrwm pleidiol-wleidyddol, felly maent yn cadw lefel o annibyniaeth ac maent yn y sefyllfa berffaith i ofyn y cwestiynau anodd, i swyddogion uchaf y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet. 

"Yn bwysig iawn, gall y pwyllgorau gael dylanwad gwirioneddol y broses o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau - maent yn casglu tystiolaeth, yn gwrando ar drigolion, ac yn darparu argymhellion ffurfiol i'r Cabinet - argymhellion a all newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac yn y pen draw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Caerdydd, dyna pam mae'n bwysig iawn bod trigolion yn cymryd rhan yn ein gwaith." 

Yng Nghaerdydd mae pum pwyllgor, sy'n cwmpasu pob rhan o waith y Cyngor. Dyma nhw: 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Pwyllgorau Craffu hefyd ar gael ynAdroddiad Blynyddol Craffu 2020/21.