The essential journalist news source
Back
14.
January
2022.
Gwella diogelwch ym mharciau Caerdydd

14.01.2022

A picture containing sky, tree, mountain, outdoorDescription automatically generated

Bydd gosod teledu cylch cyfyng, edrych ar gyfleoedd i wella goleuadau,cloi gatiau penodol y parc gyda'r nos, a chynnig gwobrau i helpu i ddal fandaliaid i gyd yn cael eu trafod fel rhan o gynlluniau sy'n cael eu llunio i wella diogelwch ym mharciau Caerdydd.

 

Mae Cyngor Caerdydd yn edrych ar gyfres o fesurau i wella diogelwch ym mharciau poblogaidd y ddinas yn dilyn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys un a welodd gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod a achoswyd i goed, planhigion, gwaith cerrig, gorchuddion tyllau a cheblau ffibr optig ym Mharc Bute ym mis Medi y llynedd.

Mae'r adroddiad, a gyflwynir ddydd Iau, 20 Ionawr, yn argymell y dylai'r Cabinet ystyried y canlynol:

  • Dechrau ymgynghori ar ble a phryd y mae'n briodol cyflwyno mwy o systemau teledu cylch cyfyng a goleuadau mewn parciau,yn enwedig ar gyfer llwybrau cymudo drwy barciau a mannau gwyrdd ac ardaloedd sydd â llawer o ymwelwyr(gan gofio unrhyw effeithiau y gallai goleuadau eu cael ar fywyd gwyllt);

 

  • Cynnig gwobr am pan fydd fandaliaeth ddifrifol yn digwydd mewn parciau am wybodaeth sy'n arwain at arestio;

 

  • Cynigion i gynnal ymgynghoriad â chymunedau lleol ynghylch a ddylid dychwelyd i gloi Parc y Rhath, gan gynnwys Gerddi Pleser y Rhath a Pharc Cefn Onn, yn y nos, a;

 

  • Edrych ar ffyrdd yn ystod proses y gyllideb o gynyddu'r arian ar gyfer staff cymorth a diogelwch parciau, gwirfoddolwyr a Grwpiau Cyfeillion.
     

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae parciau Caerdydd bob amser wedi bod yn lleoedd diogel lle gall pobl fynd i fwynhau'r awyr agored ac mae'n bwysig iawn eu bod yn aros felly. 

"Bydd yr adroddiad hwn yn paratoi'r ffordd i'n helpu i ddeall yn llawn yr effaith bosibl y gallai goleuadau ac unrhyw fesurau diogelwch ychwanegol eraill fel teledu cylch cyfyng a chloi yn y nos ei chael ar ein parciau ac ar y bobl sy'n eu defnyddio. 

"Mae ein grwpiau ‘Cyfeillion' a gwirfoddolwyr yn hanfodol wrth reoli a datblygu ein parciau a'n mannau gwyrdd, ac rydym am helpu i'w tyfu a'u cefnogi yn yr hyn a wnânt.  Byddwn hefyd yn ymgynghori ac yn gweithio gyda phreswylwyr ar unrhyw newidiadau neu gynigion a allai effeithio arnynt,fel y gall pawb barhau i fwynhau ein parciau."