The essential journalist news source
Back
17.
December
2021.
Y garreg filltir nesaf i'r ysgol gynradd gyntaf i gael ei hadeiladu dan Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd


17/10/2022

Heddiw, dyfarnwyd y contract i adeiladu ysgol gynradd newydd gwerth £6 miliwn i'w lleoli yn natblygiad Sant Edern.

Wedi'i gyflwyno gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes, yr ysgol gynradd newydd fydd y cyntaf i gael ei darparu fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd a bydd yn gartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, a fydd yn adleoli o'i safle presennol yn Llanrhymni.

Bydd yr ysgol newydd a adeiladir yn gwasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau. Bydd yn 1 dosbarth mynediad, â lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 lle, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 lle) yn y dyfodol. Bydd cyfleuster gymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiedig sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

 

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr 2022.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hon yn garreg filltir gyffrous i'r ysgol a fydd, pan fydd wedi'i chwblhau, yn darparu amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf i staff a disgyblion i ysbrydoli.

 

"Mae'r datblygiad tai yn Sant Edern eisoes yn boblogaidd iawn, gan greu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd ysgol yn yr ardal. Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl leol gael mynediad at gyfleusterau yn ogystal â sicrhau bod lleoedd ysgol ar gael."

Mae Ysgol Gynradd bresennol Llaneirwg yn Llanrhymni wrthi'n sefydlu darpariaeth feithrin newydd a fydd yn darparu 32 o leoedd rhan-amser a bydd ar agor i ddisgyblion o fis Medi 2022.

Bydd ceisiadau am leoedd meithrin yn agor ddydd Llun 24 Ionawr a gellir eu cwblhau drwy'r wefan dderbyn i ysgolion:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/meithrin/Pages/Derbyn-i-ysgol-feithrin.aspx

Dywedodd y Pennaeth Jane Marches: "Mae pawb yn Ysgol Gynradd AGC Llaneirwg yn falch iawn o glywed bod cynlluniau ar gyfer ein hysgol newydd yn mynd rhagddynt. Wrth i ni ddathlu'r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol, byddwn yn adeiladu ar sylfaen o lawer o atgofion hapus o fywyd ysgol yn Llanrhymni a Phentref Llaneirwg.

 

"Edrychwn ymlaen at dyfu ac at yr holl gyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig i'n disgyblion, ein teuluoedd a'r gymuned leol. Gobeithiwn fod yn gyfleuster allweddol sydd wrth galon y gymuned a byddwn yn awyddus i groesawu pawb i deulu ein hysgol."

"Yn y cyfamser, rydym hefyd yn edrych ymlaen at sefydlu darpariaeth feithrin newydd, gan roi cyfle i aelodau ieuengaf ein cymuned ymuno â'n teulu Ysgol Gynradd Llaneirwg."

Mae adleoli Ysgol Gynradd Llaneirwg i'r ysgol newydd a adeiladir yn Sant Edern yn ateb strategol i ail-gydbwyso darpariaeth ysgolion cynradd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd oherwydd y mater o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd yn ardal Llanrhymni a'r angen am leoedd ychwanegol ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau, pan fydd datblygiad tai Sant Edern wedi'i gwblhau.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:   "Mae adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn gyfle cyffrous i ddisgyblion a staff, fydd yn rhoi cyfleusterau ardderchog iddynt ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn help i fynd i'r afael a phroblem gormod o lefydd yn Llanrhymni, sydd wedi gosod straen sylweddol ar gyllidebau ysgol yn yr ardal."

Mae Sant Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Cytunwyd y byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr, Persimmon Homes, yn rhan o'r cytundeb cynllunio ar y cyd â'r Cyngor, a'i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.

Dywedodd Lee Woodfine, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes Dwyrain Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod yr ysgol gynradd newydd yn ein datblygiad yn Sant Edern heddiw wedi cymryd y cam sylweddol hwn ymlaen.

"Rydym yn falch o fod yn darparu'r cyfleuster newydd gwych hwn i blant Llaneirwg, Pontprennau a Llanrhymni.

"Mae datblygiad Sant Edern yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae cannoedd o deuluoedd eisoes yn mwynhau byw yno, lawer ohonynt yn brynwyr tro cyntaf ac yn cymryd eu cam cyntaf ar droed yr ysgol eiddo.

"Mae'r prosiect hwn bob amser wedi canolbwyntio ar greu cymuned newydd. Yn ogystal â'r ysgol gynradd bydd siopau lleol, rhandiroedd a pherllan gymunedol."

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i'r gwaith o adeiladu ar yr ysgol newydd fod yn barod i'w feddiannuerbyn Pasg 2023.

 

 

(ends)

Cardiff Council Media Advisor Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email: danni.janssens@cardiff.gov.uk