10/12/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: niferoedd achosion a phrofi COVID-19 Caerdydd; cynllun ailgylchu peilot newydd ar gyfer 4,000 o eiddo yn y ddinas; Achosion a niferoedd profion COVID-19 Caerdydd; Achosion COVID a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf; cyfansymiau brechu ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg; adborth y cyhoedd ar y strategaeth Gwyrddach, Tecach a Chryfach; polisi cartrefi gwag newydd ar gyfer tai'r sector preifat, a'r wybodaeth ddiweddaraf am bartneriaeth Porth y Gorllewin.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (29 Tachwedd -5Rhagfyr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
9 Rhagfyr 2021, 09:00
Achosion:1,735
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth:472.9(Cymru:504.6achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi:10,349
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth:2,820.6
Cyfran bositif:16.8% (Cymru:16.8% cyfran bositif)
Achosion COVID-19 a adroddwyd yn ysgolion Caerdydd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (03/12/21 i 09/12/21)
Cyfanswm y nifer a adroddwyd = 432
- Disgyblion a myfyrwyr = 366
- Staff, gan gynnwys staff addysgu = 66
Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf, mae ychydig o dan 57,000 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi'u cofrestru yn ysgolion Caerdydd.
Datgelu strategaeth a chynllun peilot i roi hwb i gyfradd ailgylchu Caerdydd
Gallai pedair mil o gartrefi ledled Caerdydd gymryd rhan mewn cynllun peilot i brofi ffyrdd y gellid gwella cyfraddau ailgylchu ledled y ddinas.
Mae'r cynllun yn rhan o adolygiad o gasgliadau gwastraff ym mhrifddinas Cymru a gynlluniwyd i fwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru erbyn 2025 a gwneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf a glanaf y DU.
Ar hyn o bryd Caerdydd yw'r ddinas ranbarthol fawr yn y DU sy'n perfformio orau o ran ailgylchu. Ar gyfartaledd ers 2018, mae 58% o'r gwastraff a gynhyrchir yn y ddinas yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi tasg i Gaerdydd i gynyddu'r gyfradd hon i 64% cyn gynted â phosibl ac i 70% erbyn 2025.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried nifer o gynigion a gynlluniwyd i wella cyfraddau ailgylchu pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 16 Rhagfyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Treialu cynllun peilot casglu gwastraff tair ffrwd newydd ar gyfer 4,000 o eiddo mewn pedair ward ledled y ddinas. Bydd trigolion ardaloedd y cynllun peilot yn cael sach las amldro ar gyfer papur a cherdyn (ffibr), sach goch amldro ar gyfer metelau a phlastig, a chadi glas ar gyfer poteli a jariau;
- Amrywiaeth o fesurau i helpu i wella cyfraddau ailgylchu, gan gynnwys cyfleoedd i ailgylchu mewn hybiau lleol a chanolfannau ailgylchu dros dro;
- Yn 2022, stopio dosbarthu bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol i drigolion y ddinas nad ydynt yn defnyddio biniau du a roddir gan y Cyngor. Caniateir i aelwydydd yn yr ardaloedd bagiau streipiau coch hyn gyflwyno hyd at dri bag bin i'w casglu; a
- Pharhau â'r system drefnu ymlaen llaw yng nghanolfannau ailgylchu'r Cyngor yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer a fu'n llwyddiant mawr yn ystod y pandemig
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd lechyd Pritysgol Caerdydd a'r Fro - 10 Rhagfyr
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:901,731 (Dos 1:388,682 Dos 2: 353,314DOS 3:6,377Dosau atgyfnertha:153,309)
Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 7 Rhagfyr
- 80 and over:20,136 /94.7%(Dos 1)19,980 / 94%(Dos 2 a 3*)17,412/87.1%(Dosau atgyfnertha)
- 75-79:14,962 / 96.5%(Dos 1)14,838 / 95.7%% (Dos 2 a 3*)13,081 / 88.2%(Dosau atgyfnertha)
- 70-74:21,402 / 95.8%(Dos 1)21,398 / 95.9%(Dos 2 a 3*)19,213/ 90.3%(Dosau atgyfnertha)
- 65-69:22,006 /94.4%(Dos 1)21,770/ 93.4%(Dos 2 a 3*)18,681 / 85.8% (Dosau atgyfnertha)
- 60-64:26,134/ 92.5%(Dos 1)25,813 / 91.4%(Dos 2 a 3*)21,266 / 82.4%(Dosau atgyfnertha)
- 55-59:29,468 / 90.5%(Dos 1)29,003 / 89%(Dos 2 a 3*)13,416 / 46.3%(Dosau atgyfnertha)
- 50-54:29,163 / 88.2%(Dos 1)28,570 / 86.4%(Dos 2 a 3*)10,495 / 36.7%(Dosau atgyfnertha)
- 40-49:55,826 / 82.2%(Dos 1)54,129 / 79.7%(Dos 2 a 3*)13,556 / 25%(Dosau atgyfnertha)
- 30-39:61,883 / 76.6%(Dos 1)58,377/ 72.3%(Dos 2 a 3*)8,950 / 15.3%(Dosau atgyfnertha)
- 18-29:82,781 / 78%(Dos 1)74,672/ 70.4%(Dos 2 a 3*)8,019 / 10.7%(Dosau atgyfnertha)
- 16-17:4,154 / 75.3%(Dos 1)2,328 / 42.2%(Dos 2 a 3*)128 / 5.5%(Dosau atgyfnertha)
- 12-15:14,897 / 55.6%(Dos 1)1,184 / 4.4%(Dos 2 a 3*)
- Yn ddifrifol imiwno-ataliedig:6,775 / 99.3%(Dos 1)5,799 / 85%(Dos 2 a 3*)26 / 0.4%(Dosau atgyfnertha)
- Preswylwyr cartrefi gofal:2,080 / 98.3%(Dos 1)2,062 / 97.5%(Dos 2 a 3*)1,815/ 88%(Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr cartrefi gofal:3,693 / 98.9%(Dos 1)3,627 / 97.2%(Dos 2 a 3*)2,628/ 72.5%(Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Iechyd:27,137 / 98%(Dos 1)26,844 / 97%(Dos 2 a 3*) 21,745 / 81%(Dosau atgyfnertha)
- Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**:7,289 / 73.4%(Dosau atgyfnertha)
- Yn glinigol agored i niwed:11,230 / 94.6%(Dos 1)11,052 / 93.1%(Dos 2 a 3*)5,867 / 53.1%(Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,022 / 90.5%(Dos 1)44,579 / 87.6%(Dos 2 a 3*e)25,644 / 57.5%(Dosau atgyfnertha)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol (12-15):614 / 61.8%(Dos 1)368 / 37.1%(Dos 2 a 3*)
*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.
**Data gymerwyd o ffynhonnell amgen
Creu Caerdydd Werddach, Decach a Chryfach mewn bydôl-COVID
Mae barn trigolion Caerdydd, pobl fusnes a rhanddeiliaid y ddinas i gyd wedi cael eu defnyddio i lywio adroddiad ar sut y dylai Caerdydd fynd ati i adfer yn llwyddiannus o'r pandemig COVID-19.
Comisiynwyd y strategaeth adfer ac adnewyddu Gwyrddach, Tecach, Cryfach gan Gyngor Caerdydd yn gynharach eleni ac mae wedi bod yn destun ymgynghoriad ers mis Mehefin. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu rhwng mis Mehefin a mis Hydref, gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau sy'n ystyriol o blant i gasglu barn pobl ifanc ochr yn ochr â thrigolion, busnesau, y sector diwylliannol a rhanddeiliaid eraill. Cynhyrchodd arolwg dros fil o ymatebion hefyd.
Chwaraeodd yr arbenigwr byd-eang ar ddinasoedd, Dr Tim Williams, ran allweddol wrth helpu i lunio'r adroddiad i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad. Mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefi a dinasoedd ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn codi yn y byd ôl-Covid.
Wrth ysgrifennu yn ôl mis Mehefin, yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', dywedodd Dr Williams: "Ar ddechrau'r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn sefyllfa dda a, chyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach fyth. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w chymuned ei hun a'r Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i'w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar dechnoleg.
"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddangos esiampl i ddinasoedd eraill o'r un maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, bydd Caerdydd nid yn unig yn ‘bownsio'n ôl' - does dim amheuaeth am hynny - bydd yn ‘bownsio ymlaen'."
Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn benodol i herio'r awdurdod ac i fireinio ei strategaethau a'i ymyriadau ei hun ar gyfer adferiad llwyddiannus ar ôl y pandemig. Nawr, ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd, argymhellir bod Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 16 Rhagfyr.
Mwy yma:Creu Caerdydd Werddach, Decach a Chryfach mewn byd ôl-COVID (newyddioncaerdydd.co.uk)
Dod â chartrefi gwag Caerdydd yn ôl i ddefnydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu ei gynlluniau i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag, sy'n eiddo preifat i Gaerdydd yn cael eu defnyddio eto.
Ar hyn o bryd mae 1,355 o gartrefi gwag sy'n eiddo preifat yn y ddinas ac mae'r cyngor am weld cymaint ohonynt â phosibl yn cael eu defnyddio eto, gan gynnig tai y mae mawr eu hangen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Derbynnir yn gyffredinol fod cartrefi gwag hirdymor yn adnodd sy'n cael ei wastraffu. Mae hwn yn fater sydd wedi dod yn amlycach yn sgîl y pandemig a'r argyfwng tai.
"Gall eiddo gwag ddenu sgwatio, fandaliaeth, camddefnyddio cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llosgi bwriadol, llygod. Gallant achosi difrod i gartrefi cyfagos ac os bydd eiddo'n parhau'n wag, mae'r dirywiad anochel yn cael effaith ar gymdogion a bod yn felltith ar gymunedau.
"Er bod Caerdydd wedi gweld gostyngiad mewn anheddau gwag hirdymor i lawr o 1,568 yn 2018/19 i 1,355 nawr, mae'n amlwg bod angen ffocws arnom a rhai polisïau newydd a all helpu i gael yr eiddo hyn yn ôl i ddefnydd, gan gartrefu pobl a theuluoedd.
"Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru rydym wedi datblygu Polisi a Chynllun Gweithredu Cartrefi Gwag sy'n amlinellu'r cymorth y gellir ei gynnig i berchnogion i'w hannog i ddod ag eiddo - sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis - unwaith eto i ddefnydd. Mae'r polisi hwn hefyd yn nodi'r dulliau gorfodi sydd ar gael lle mae cyngor a chymorth yn methu."
Mwy yma:Dod â chartrefi gwag Caerdydd yn ôl i ddefnydd (newyddioncaerdydd.co.uk)
Cynlluniau adfer Porth y Gorllewin i ganolbwyntio ar ynni Llandw a chysylltiadau rheilffordd cyflym
Dim ond dau o'r materion allweddol a fydd ar flaen yr agenda ar gyfer Porth y Gorllewin yn y Flwyddyn Newydd yw ymchwilio i botensial llawn ynni'r llanw o Aber Afon Hafren a gwella cysylltiadau rheilffordd cyflym ar Brif Reilffordd y Great Western.
Bydd y Porth - partneriaeth economaidd drawsffiniol sy'n cwmpasu De Cymru a Gorllewin Lloegr - yn canolbwyntio ar gyfleoedd buddsoddi mawr i'r rhanbarth, yn ôl adroddiad newydd i Gabinet Cyngor Caerdydd.
Sefydlwyd y Porth - sy'n cydbwyso â Phwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr - i ddiogelu lefelau sylweddol o gyllid a buddsoddiad gan y Llywodraeth i hybu creu swyddi a'r economi.
Ar hyn o bryd mae'r bartneriaeth yn cynnwys dinasoedd craidd Caerdydd a Bryste, dinasoedd allweddol Casnewydd, Abertawe, Caerfaddon a Chaerloyw, ac mae'n ymestyn ar draws De Cymru a Gorllewin Lloegr o Swindon i Abertawe, Wiltshire a Weston-Super-Mare i Tewkesbury.
Mewn adroddiad diweddaru i Gabinet Cyngor Caerdydd, datgelir bod Porth y Gorllewin yn bwriadu canolbwyntio ar y pedwar maes canlynol yn 2022:
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28181.html