The essential journalist news source
Back
5.
December
2021.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 06/12/21

 

03/12/21 - Delweddau CGI newydd sbon yn datgelu cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol wrth i'r Cais Cynllunio gael eigyflwyno

Mae'r delweddau diweddaraf a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur (CGI) wedi'u rhyddhau er mwyn dangos sut mae cynlluniau ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol newydd ym Mae Caerdydd yn mynd rhagddynt ac mae cais wedi ei gyflwyno i'w gymeradwyo ar gyfer y Felodrom newydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28135.html

 

03/12/21 - Datganiad gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Caerdydd a Bro Morgannwg yn ymateb i'r Argyfwng Gofal Cenedlaethol Beth sy'n digwydd a sut y gallwch chi helpu

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28133.html

 

03/12/21 - Ynys Echni yn croesawu gwirfoddolwr rhyngwladol ar gyfer lleoliad blwyddyn gyntaf

Y Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol hwn, dydd Sul 5 Rhagfyr, mae Ynys Echni yn dathlu eu lleoliad blwyddyn cyntaf gyda gwirfoddolwr newydd ar yr ynys anghysbell, bum milltir oddi ar arfordir Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28130.html

 

02/12/21 - Caerdydd yn lansio deg diwrnod o docynnau bws am £1 yn y cyfnod cyn y Nadolig

Mae tocyn bws newydd am £1 i gymell teithio ar fws y tu allan i'r oriau brig yn dod i Gaerdydd yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28122.html

 

01/12/21 - Ysgol Gynradd Mount Stuart yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru

Mae rhaglen hyfforddi arloesol sy'n galluogi athrawon ac arweinwyr ysgolion i addysgu, llywio a delio â hiliaeth mewn ysgolion yn well, wedi'i lansio yng Nghaerdydd heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28119.html

 

01/12/21 - Ail gam ymgynghoriad Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn dechrau heddiw

Mae ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Caerdydd yn dechrau heddiw, a fydd yn gofyn i drigolion am eu barn ar amrywiaeth o opsiynau o ran twf tai a swyddi ar gyfer y ddinas hyd at 2036.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28113.html

 

29/11/21 - Canopi Gwyrdd y Frenhines yn cyhoeddi Caerdydd fel Dinas Hyrwyddo

Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Coed hon (27 Tachwedd tan 5 Rhagfyr), bydd Caerdydd yn dathlu ennill statws Dinas Hyrwyddo dan gynllun mawreddog Canopi Gwyrdd y Frenhines.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28107.html